Mae’r Llwybr Cenedlaethol yn ein harwain drwy amrywiaeth eang o dirweddau, o dir uchel ar ben y creigiau caregog lawr i’r draethau bychain a’r baeau dirgel, ac ymlalen i’r draethau llydan tywodlyd braf.

Pen yr Afr ger Bae Ceibwr yw’r man uchelaf ar y llwybr, yn cyrraedd 1,500 troedfedd, lle gwelir y môr yn bwrw’r creigiau’n afaelgar. Y rhan fwyaf anghysbell a gwyllt yw’r darn rhwng Llandudoch a phenrhyn Ty Ddewi yn y gogledd – gydag ambell gymuned ar hyd yr arfordir fel Trefdraeth, Abergwaun a Phorthgain yn ychwanegu at y mwynhad.

Ar draethau Orllewinol fel Newgale, Broad Haven ac ym Mae St Bride’s, sy’n gwynebu’r gwynt Atlantaidd, mae’r golygfeydd yn anhygoel o’r adar yn hedfan ac yn troi o gwmpas ynysoedd Ynys Dewi a Sgomer.

I’r gwrthwyneb, mae’r llwybr sy’n rhedeg ar hyd genau’r afonydd ger Aberdaugleddau yn cynnig gwrthgyferbyniad eang. O’r teimlad gwyllt allan ar Benrhyn St Anne, y twrw ddiwydiannol o amgylch Aberdaugleddau, i’r afonydd fwynach a thawelach ar hyd ucheldir y aber. Ffurfiwyd harbwrn ria naturiol enwog ar ddiwedd Oes Yr Ia, pan gododd lefel y môr a phoddwyd y cŵm o ganlyniad.

Defnyddir llwybr y de fwyaf am ei bod yn agosach i Saudersfoot a Dinbych y Pysgod, mannau gwyliau poblogaidd i’r twristiaid. Er hyn, mae digonedd o draethau cysgodol a milltiroedd o lwybrau diarffordd yn gwynebu’r de. Rhaid galw i weld y lily ponds yn Bosherston, a phrofi’r tywod aur yn Barafundle – sydd yn aml wedi ei ddyfarnu’n un o’r traethau gorau yn y byd.

Lle bynnag yr ydych ar hyd y llwybr, wrth edrych i fewn o’r arfordir gwelwch dir gwastad a fermydd bach yma ac acw, ar hyd y lle. Efallai, yr ydych ond ychydig i fewn o’r arfordir, ond mae gan y cefn gwlad amaethyddol yma’i systemau eco a’i cynefinoedd ei hun, sy’n rhoi i’r cerddwyr y gorau o ddau fyd.

Bosherston Lily Ponds viewed from Broad Haven South