Archaeoleg

Gellir diffinio archaeoleg fel y broses o 'astudio pobl yn y gorffennol, trwy'r olion y maen nhw'n gadael ar eu hôl. Fe all yr olion hyn fod yn unrhyw beth, bron - o gladdedigaethau ac arfau i ddarnau o botiau wedi torri, offer cerrig neu amddiffynfeydd o'r ail ryfel byd.

Mae rhai o’r olion hyn, fel y caerau pentir o’r Oes Haearn sydd i’w gweld ar hyd arfordir Penfro, yn sylweddol iawn ac maen nhw’n ffurfio nodweddion tirwedd nodedig iawn, hyd yn oed heddiw.

Ar ben arall y raddfa ceir y darnau bach iawn o fflint sydd wedi eu gwasgaru hwnt ac yma. Mae’r rhain yn dangos ble yr oedd pobl o gynhanes yn gwneud eu hoffer ac yn eistedd o amgylch y tân.

Mae pob un o’r gwahanol fathau hyn o archeoleg yn cyfrannu at amgylchedd hanesyddol y Parc.

Mae’r amgylchedd hanesyddol yn rhan o’r hyn sy’n gwneud Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn lle mor arbennig. Fe fu pobl yn byw ac yn gweithio yn y parc ers miloedd o flynyddoedd, a nhw sydd wedi llunio’r ffordd y mae’n edrych heddiw.

Mae’n ddyletswydd ar Awdurdod y Parc Cenedlaethol i ofalu am nodweddion arbennig y Parc – gan gynnwys yr archeoleg. Rydyn ni’n anelu at ddeall hanes y Parc, ei warchod a helpu pobl i’w ddeall.

Rydyn ni’n gwneud hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae ein Archaeolegydd Cymunedol a’n Swyddog Gwarchod Adeiladau ar gael i gynnig cyngor i bobl sy’n gweithio gyda safleoedd a nodweddion hanesyddol.

Rydyn ni’n ceisio annog pobl i fwynhau eu harcheoleg – trwy deithiau themau arbennig sy’n rhan o’r rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau, trwy ddigwyddiadau a  a thrwy reoli Castell a Melin Heli Caeriw a Bentref Oes Haearn Castell Henllys.

Diwrnod Archaeoleg 2022 - recordiadau ar gael i wylio ar-lein

I weld recordiadau o sgyrsiau o Ddiwrnod Archaeoleg 2022, ewch i sianel YouTube Diwrnod Archaeoleg (agor mewn ffenestr newydd).

I gadw fyny hefo datblygiadau Diwrnod Archaeoleg, cofrestrwch hefo ein rhestr e-bost archaeoleg.

Yn y cyfamser, pam ddim mwynhau cynnwys o Ddiwrnod Archaeoleg 2020 a 2021 wrth fynd i sianel YouTube y Diwrnod Archaeoleg.

Os fasech yn hoffi arddangos yn ystod y digwyddiad neu mae gennych ymholiadau eraill eboswtich archaeoleg@arfordirpenfro.org.uk.