Dangosir y traethau a restir cyferbyn ar y map isod ac maen nhw'n cael eu rhoi fel cyfeirnodau grid Arolwg Ordnans. Mae'r llythrennau (SN, SM ayb.) yn cyfeirio at un o'r sgwariau 100 km mawr ar y map Arolwg Ordnans. Mae'r tri ffigwr cyntaf yn cyfeirio at leoliad y safle mewn perthynas â'r llinellau grid fertigol, a'r ail gyfres o dri ffigwr yn amlinellu lleoliad y safle mewn perthynas â'r llinellau llorweddol.
1. Llanrath (SN163070)
Tywodlyd gyda morglawdd a banc o gerrig crwn, yn wynebu’r De Ddwyrain. Maes parcio mawr, (taliadau tymhorol yn perthnasol) tu ôl y siopau. Llwybr mynediad o’r maes parcio i’r siopau a’r traeth trwy bont dros nant, gyda ramp. Swyddogion achub bywyd yn yr haf. Ramp goncrit wrth y toiledau: 1:8 i 1:7 am 45 metr, y sylfaen yn aml wedi’i gorchuddio gyda cherrig crwn mawr. Yng Nghastell Llanrhath (i ffwrdd oddi wrth y siopau a’r toiledau) mae yna fynediad i rhan dywodlyd o’r traeth trwy lithrffordd goncrit: 1:6 i 1:51⁄2 am 44 metr. Rhodfa goncrit ar hyd glan y môr.
2. Wiseman’s Bridge (SN145060)
Cerrig crwn a chreigiau, tywod pan fydd y llanw’n isel, wynebu’r De Ddwyrain. Toiledau. Mynediad trwy ramp goncrit: 1:6 i 1:41⁄2 am 23 metr, newid yng nghyflwr y tywod yn gallu creu gris fawr ar y gwaelod. Parcio cyfyngedig ar frig y llithrffordd.
3. Saundersfoot (SN137048)
Traeth tywodlyd mawr yn wynebu’r De Ddwyrain. Cadair olwyn ar gyfer y traeth ar gael i’w hurio. Maes parcio mawr, siopau, ffôn. Swyddogion achub bywyd yn yr haf. Mynediad i’r traeth trwy lithrffordd goncrit ar yr ochr ogleddol: 36 metr, heb fod yn fwy serth nag 1:12 gan fwyaf, ond 13 metr yn y canol yn 1:6 i 1:5. Hefyd, i Draeth Glen (ar yr ochr Orllewinol) trwy ramp igam-ogam ar ddiwedd y porthladd.
4. Dinbych-y-pysgod (SN132004)
- Traeth y Gogledd: traeth tywodlyd mawr sy’n wynebu’r Dwyrain, lluniaeth. Swyddogion achub bywyd yn yr haf. Ramp goncrit i’r traeth: 1:7 i 1:6 am 25 metr.
- Traeth y Harbwr: traeth tywodlyd bach sy’n wynebu’r Gogledd Ddwyrain, parcio cyfyngedig i ddeiliaid bathodyn glas, toiledau agosaf yn Nhraeth y Castell. Ramp balmantog: 1:18 i 1:12 am 19 metr.
- Traeth y Castell: traeth tywodlyd mawr, sy’n wynebu’r De Ddwyrain, lluniaeth, toiledau. Swyddogion achub bywyd yn yr haf. Ramp goncrit a llwybr tarmac ar oleddf: 1:10 i 1:18 am 72 metr.
- Traeth y De: traeth tywodlyd mawr sy’n wynebu’r De Ddwyrain. Swyddogion achub bywyd yn yr haf. Rhodfa bren (gall fod wedi’i gorchuddio â thywod mewn mannau): 60 metr, dechrau’n wastad, yna’n fwy a mwy serth hyd nes ei bod yn 1:51⁄2.
5. Maenorbŷr (SS058975)
Traeth tywodlyd gyda banc o gerrig crwn, sy’n wynebu’r De Orllewin. Maes parcio, ffôn, toiledau. Mynediad i’r platfform a’r sedd ar ben y traeth trwy lwybr gwastad, ond mae’r arwyneb yn gallu bod yn arw. Mae’r 40 metr diwethaf â thri graddiant byr o hyd at 1:10.
6. Freshwater East (SS018976)
Traeth mawr o dywod a graean bras gyda thwyni tywod, sy’n wynebu’r De Ddwyrain. Cadair olwyn ar gyfer y traeth ar gael i’w hurio. Ffôn a thoiledau. Maes parcio ar wahân i ddeiliaid bathodyn glas yn unig. Llwybr o gerrig wedi’u malu, o’r maes parcio i ddeiliaid trwydded i’r prif fynedfa i’r traeth: 1:12 i 1:10 am 8 metr, yna llwybr concrit gwastad arno i dywod meddal.
7. Freshwater West (SR882998)
Traeth tywodlyd mawr ar gefndir o dwyni tywod, sy’n wynebu’r De Orllewin. Sawl man parcio a pharcio wrth ymyl yr heol. Mynediad mwyaf hwylus o’r maes parcio wrth y toiledau cyhoeddus. Ramp goncrit: 1:10 i 1:9 am 54 metr, ond mae newidiadau yng nghyflwr y tywod yn gallu creu gris ar y gwaelod. Swyddogion achub bywyd yn yr haf. Pen deheuol y traeth yn raean bras, gyda chreigiau a sugndraeth. Mae’n beryglus iawn nofio yma. Maes y fyddin i’r De ar gau i’r cyhoedd.
8. Bae Gorllewin Angle (SM854033)
Bae tywodlyd sy’n wynebu’r Gogledd Orllewin. Cadair olwyn ar gyfer y traeth ar gael i’w hurio. Maes parcio mawr (taliadau perthnasol), toiledau (nid ydynt yn hygyrch i gadeiriau olwyn). Llwybr concrit igam-ogam (gwastad yn y mannau troi): nid yw’n fwy serth nag 1:15 am 20 metr. Yna ramp goncrit: 1:6 i 1:5? am 10 metr.
9. Bae Gelliswick (SM887056)
Traeth o raean bras a silt, sy’n wynebu’r De. Lle i barcio ceir ar hyd glan y môr, gyda safle picnic. Ramp goncrit arno i raean bras: 1:15 i 1:7 am 40 metr, man mwyaf serth ar y top. Cerrynt peryglus.
10. Little Haven (SM856129)
Traeth tywodlyd bach gyda cherrig crwn uwchben y llinell llanw uchel, wynebu’r Gogledd Orllewin. Maes parcio, siopau, ffôn. Llithrffordd goncrit: 1:12 i 1:8 am 33 metr, ar ei fwyaf serth ar y top.
11. Aberllydan (Broad Haven North) (SM861135)
Traeth tywodlyd gweddol o faint, sy’n wynebu’r gorllewin. Achubwyr bywyd yn ystod yr haf. Mynediad mwyaf hwylus i’r traeth o’r ochr ddeheuol. Llithrffordd goncrit fwyaf deheuol: 1:12 i 1:7 am 29 metr, ar ei fwyaf serth ar y gwaelod. Graddiannau croes i’r ochrau felly arhoswch yng nghanol y llithrffordd. Maes parcio gyferbyn, gyda thoiledau, siop/swyddfa bost a ffôn gerllaw. Ramp goncrit ychydig i’r gogledd o’r llithrffordd: 1:12 i 1:6 am 19 metr, ar ei fwyaf serth ar y gwaelod.
Maes parcio mawr ar y pen gogleddol gyda thoiledau, ffôn a llwybr tarmac i ben y traeth. Ramp goncrit: 1:12 i 1:9 am 25 metr, yna 1:5 am 3 metr, mae’r sylfaen yn gallu bod yn llawn cerrig crwn ar adegau. Rhodfa ar hyd mwyafrif glan y môr.
12. Porth Mawr (Whitesands Bay) SM732268)
Traeth tywodlyd mawr, sy’n wynebu’r Gorllewin. Cadair olwyn ar gyfer y traeth ar gael i’w hurio. Maes parcio mawr, caffi, siop, toiledau a ffôn. Swyddogion achub bywyd yn yr haf. Ramp goncrit: 1:5 i 1:41⁄2 am 17 metr arno i’r tywod. Mae newidiadau yng nghyflwr y traeth, yn enwedig yn y Gaeaf, yn gallu creu gris wrth waelod y llithrffordd. Ardal wastad gydag arwyneb o flaen adeilad y Clwb Achub Bywyd gyda golygfan a byrddau picnic. Cerrynt peryglus mewn mannau.
13. Abercastell (SM852338)
Traeth bach mwdlyd o dywod a graean bras, sy’n wynebu’r Gogledd Orllewin. Parcio cyfyngedig iawn wrth ymyl yr heol. Ramp goncrit: 1:15 i 1:12 am 19 metr, yn arwain at dywod meddal.
14. Pwllgwaelod (SN004399)
Traeth tywodlyd bach sy’n wynebu’r Gorllewin. Maes parcio a thoiledau. Ramp goncrit: 1:8 i 1:6 am 16 metr. Gweler taith gerdded Pwllgwaelod yn y llawlyfr hwn ar gyfer y llwybr sy’n cysylltu at Gwm-yr-Eglwys.
15 Cwm-yr-Eglwys (SN105401)
Traeth bach o raean bras a cherrig crwn, gyda thywod pan fydd y llanw’n isel, sy’n wynebu’r Gogledd Ddwyrain. Parcio cyfyngedig mewn maes parcio preifat gyda blwch gonestrwydd. Ramp goncrit sy’n mynd yn fwy a mwy serth: 1:20 i 1:12 am 11 metr, yna 1:12 i 1:6 am 4 metr ac yn olaf 1:6 i 1:5 am 8 metr.
16 Parrog Trefdraeth (SN051398)
Traeth gyda thywod, silt a cherrig crwn, sy’n wynebu’r Gogledd. Maes parcio, toiledau a chaffi. Siopau yn nghanol Trefdraeth. Ramp goncrit a phalmantog ger y clwb cychod: 1:6 i 1:5 am 10 metr. Cerrynt peryglus ac anrhagweladwy. Gweler teithiau cerdded Trefdraeth Parrog a Thref ac Aber Trefdraeth yn y llawlyfr hwn ar gyfer llwybrau i’r ddau gyfeiriad o’r maes parcio.
17. Traeth Mawr Trefdraeth (SN050400)
Traeth tywodlyd mawr ar gefndir o dwyni tywod, sy’n wynebu’r Gorllewin. Cadair olwyn ar gyfer y traeth ar gael i’w hurio. Maes parcio (taliadau tymhorol), toiledau, siop dymhorol. Swyddogion achub bywyd yn yr haf. Ramp goncrit wrth y baeau parcio i’r anabl: 1:12 i 1:10 am 14 metr, yna 1:8 i 1:6 am 9 metr, yn arwain i dywod caled. Mae dau ramp arall: mae’r heol fynediad goncrit arno i’r traeth yn 1:24 i 1:18 am 50 metr; mae’r ramp fynediad goncrit a ddefnyddir i ddod oddi ar y traeth yn 1:10 am 15 metr, yna 1:6 am 6 metr.
18. Traeth Poppit (SN155487)
Traeth tywodlyd mawr ar gefndir o dwyni tywod, sy’n wynebu’r Gogledd Ddwyrain. Cadair olwyn ar gyfer y traeth ar gael i’w hurio. Maes parcio, toiledau, ffôn, caffi. Swyddogion achub bywyd yn yr haf. Ramp goncrit gyda rhwystr graddedig: 1:8 i 1:10 i fyny am 6 metr at rodfa bren, yna 1:22 i lawr am 12 metr at olygfan wrth ben y traeth. Cerrynt anrhagweladwy gan yr afon a’r llanw. Mae nofio’n gallu bod yn beryglus.