Cyfleoedd Tendro

Dyma restr o gyfleoedd tendro Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar hyn o bryd:

Gwahoddiad i Dendro

Astudiaeth Ddichonoldeb Oriel y Parc

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn tendro am ymgynghoriaeth Gwasanaethau Pensaernïol (neu debyg) i ddatblygu uwchgynllun canolfan ymwelwyr presennol yn gysyniadau dylunio cynhwysfawr. Bydd hyn yn cynnwys datblygu atebion, dyluniadau a chostau er mwyn troi’r uwchgynllun presennol yn brosiect adeiladu y gellir ei gomisiynu yn y cam nesaf.

Yn ogystal â Dylunio Pensaernïol, mae’r comisiwn yn cynnwys llunio Cynllun Dehongli, a ddatblygwyd o’r gwaith ymchwil, y strategaethau a’r dull gweithredu yn nogfen uwchgynllun 2023.

Rhaid cyflwyno tendrau drwy Gwerthwch i Gymru.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 9am, 12 Awst 2024.

 

 

Rydym hefyd yn hysbysebu cyfleoedd tendro gwerth dros £25,000 ar GwerthwchiGymru (agor mewn ffenestr newydd).

 

Gwybodaeth am Awdurdod y Parc