Mae Caeriw yn croesawu grwpiau ysgol drwy gydol y flwyddyn, gan gyflwyno blasau, arogleuon a golygfeydd bywyd mewn Castell i blant. Mae ein tîm addysg yn cynnig rhaglen amrywiol ar gyfer ysgolion ac yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau addysg treftadaeth, gan archwilio hanes y Castell a'i drigolion a darparu profiad ymarferol o hanes byw.

Cyfnod Sylfaen (Cyfnod Allweddol 1)

Y Twrnamaint Mawr

Anogir disgyblion i ddefnyddio’u dychymyg wrth i ni fynd â nhw nôl mewn amser i 1507 i baratoi’r Castell ar gyfer Y Twrnamaint Mawr.  Drwy gyfrwng meim rhyngweithiol ac adrodd straeon, byddant yn addurno’r Neuadd Lai a pharatoi gwledd ac adloniant yn barod i Syr Rhys ap Thomas a’i westeion bonheddig.

Yn addas i rai 5-7 oed, uchafswm maint grŵp 25.

IAU (CYFNOD ALLWEDDOL 2)

Hanesion y Tuduriaid

Byddwn ni’n mynd â’r disgyblion nôl mewn amser a gosod nhw i weithio fel gweision yn y Castell.  Mae’r Arglwydd ar fin cyrraedd!  Ond, yn gyntaf, mae muriau i’w trwsio, blancedi i’w gwehyddu, bwyd ac adloniant i’w paratoi ar gyfer gwledd.  Bydd y disgyblion yn helpu gweision y Castell i baratoi am ei gyrhaeddiad, gan roi cynnig ar weithgareddau yn cynnwys gwehyddu, coginio, gwaith maen, crochenwaith, caligraffeg a hyd yn oed perfformio drama Duduraidd!

Yn addas i rai 7-11 oed, uchafswm maint grŵp 60.

Cipio’r Castell

Sesiwn hwylus, rhyngweithiol pan gaiff y plant eu gosod erbyn eu gilydd i weld p’un ochr fydd yn cipio’r castell.  Fydd yr ymosodwyr neu’r amddiffynwyr yn ennill?

Wrth ddysgu am sut i ymosod, caiff y plant eu harwain trwy amddiffiniadau’r Castell gyda thrafodaeth ar y dulliau gorau o ragod a chael eu dangos sut i ail-greu tactegau amrywiol gan ddefnyddio blif a hwrdd-beiriant.

Wrth ddysgu am sut i amddiffyn y castell, bydd y plant yn dysgu am rôl y saer maen a’r pwysigrwydd o adeiladu castell cryf i wrthsefyll ymosodiad.  Byddan nhw hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdy sgiliau cleddyfau i sicrhau bod nhw’n barod i amddiffyn y castell, pe bai’r gelyn yn torri’r waliau!

Yn addas i rai 7-11 oed, uchafswm maint grŵp 40.

Teithiau Tywys

Archwiliwch y tyrau, y neuaddau a’r ystafelloedd wrth i ni ddarlunio darlun bywiog o fywyd yn y Castell ar daith wedi ei thywys.

Addas o 8+, uchafswm maint grŵp 30.

Tudor activities at Carew Castle, Pembrokeshire Coast National Park, Wales, UK

Archebu a chostau

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad ffoniwch ebostiwch ni 

£4.50 + TAW y plentyn.

Mae isafswm o £75 + TAW o dâl archebu yn berthnasol i archebion ysgol.

Adnoddau Twinkl

Lawrlwythwch Pecyn Gweithgareddau Castell Caeriw o Twinkl am ddim.

Carew Castle Activity Pack