Hanes

Yn yr adran hon, rydyn ni’n eich gwahodd chi i deithio yn ôl mewn amser i archwilio hanes diwylliannol cyfoethog Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Gellir gweld creiriau pobl y gorffennol ym mhob man, ac maen nhw’n cynnwys bryngaerau o’r Oes Haearn a thomenni claddu o’r cyfnodau cynharaf, cestyll crand ac eglwysi.

Enghreifftiau gwych o’r gemau hanesyddol hyn yw Bentref Oes Haearn Castell Henllys, Castell a Melin Heli Caeriw, Eglwys Gadeiriol Tyddewi, olion mwyngloddio Fictoraidd yn Stepaside, y gwaith briciau ym Mhorthgain, a’r meysydd awyr niferus sy’n ein hatgoffa ni o wrthdaro diweddaraf dau ryfel byd.

Gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol