Myfyrdodau o Gastellmartin 1939

Myfyrdodau o Gastellmartin yw fideo sydd yn benllanw prosiect i gydnabod 80 mlynedd ers creu Maes Tanio Castellmartin drwy gasglu straeon gan bobl a brofodd y bennod bwysig hon yn hanes yr ardal.

Cymerodd y fyddin feddiant ar yr ardal a elwir yn Faes Tanio Castellmartin yn 1939, a chyn hynny tir amaethyddol ydoedd, yn cael ei osod ar denantiaeth, ar Ystâd helaeth Cawdor, ym mherchnogaeth Iarll Cawdor o Swydd Aberdeen.

Mae cyfweliadau, ffotograffau ac erthyglau’n cael eu cyfuno i ailadrodd yr hanes a’i ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac i ddweud hanes y rhai a fu’n byw ac yn gweithio yn yr ardal oddeutu’r cyfnod hwn.

Caiff y prosiect ei ariannu gan Gronfa Stiwardiaeth Cadwraeth y Sefydliad Seilwaith Amddiffyn.

Maes Tanio Castellmartin heddiw

Bu Awdurdod y Parc a’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cydweithio i wella mynediad i’r cyhoedd a rheolaeth tir er budd cadwraeth y Maes Tanio am dros 30 mlynedd; gan gynnwys teithiau cerdded tywysedig a fydd yn caniatáu mynediad at ardaloedd sydd fel arfer yn gyfyngedig.