O ddydd Llun 12 Ebrill, bydd Ystafell De Nest yn gweini diodydd a chacennau poeth ac oer i fynd allan o 11am-4pm.
Oriau agor
Mae’r ystafell de wedi’i henwi ar ôl Dywysoges Nest, un o drigolion enwocaf y Castell ac un o’r merched harddaf i fyw yng Nghymru erioed.
Oriau Agor 2021
Ar agor bob dydd 11am-4pm yn gweini diodydd a chacennau poeth ac oer i fynd allan.

Siop y Castell
Mae Siop y Castell yn olau a modern ac yn cynnwys detholiad o nwyddau wedi’u hysbrydoli gan hanes Canoloesol a Thuduraidd y Castell, yn ogystal â’i leoliad hardd ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Fe gewch y dewis gorau o fwyd a diodydd lleol yma hefyd, ynghyd â rhoddion a chrefftau wedi’u cynhyrchu yn Sir Benfro a gweddill Cymru.
Gallwch brynu’r holl geriach angenrheidiol hefyd i roi cynnig ar ddal crancod ar y sarn!
Siop y Felin
Mae’r Felin Heli ar gau ar hyn o bryd.

