Mae ein rhaglen ysgolion ar agor!
Yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru i ysgolion, caniateir ymweliadau addysgol bellach – cyhyd â bod asesiadau risg trylwyr ar waith.
Cysylltwch â ni
Am fwy o fanylion neu i drefnu’ch ymweliad e-bostiwch ein Parcmon Addysg Tom Bean neu ffoniwch 01646 624800.
Rhaglen TGAU
Gellir darparu Gwaith Maes Daearyddiaeth TGAU mewn safleoedd addas ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Ar hyn o bryd rydym yn arwain myfyrwyr Blwyddyn 10 ac 11 drwy ymholiadau gwaith maes mewn amgylcheddau basn afonydd ac arfordiroedd, ac yn canolbwyntio ar y cysyniad o gylchoedd a llifoedd.
Er mwyn cysylltu â manyleb Gwaith Maes TGAU Daearyddiaeth CBAC, rydym yn paratoi lleoliadau a theithiau addas.
Blwyddyn asesu |
Dull methodolegol |
Fframwaith cysyniadol |
Lleoliadau gwaith maes |
Gweithgareddau gwaith maes |
2018 |
Llifoedd daearyddol |
Cylchoedd a llifoedd |
Afon Syfynwy Bae Saundersfoot |
|
2019 |
Arolygon ansoddol |
Lle |
Afon Syfynwy Canolfan Ymwelwyr Oriel y Parc |
|
2020 |
Defnyddio trawsluniau |
Cylchoedd dylanwad |
|
|
Rhaglen Safon Uwch (Lefel-A)
Cynigir rhaglenni sy’n ategu dysgu mewn Daearyddiaeth a Bioleg, a gellir eu darparu mewn safleoedd addas ar draws y Parc Cenedlaethol.
Bagloriaeth Cymru
Mae Bagloriaeth Cymru’n gymhwyster i fyfyrwyr yng Nghymru rhwng 14 i 19 mlwydd oed.
Mae’n cyfuno sgiliau datblygiad personol gyda chymwysterau sy’n bodoli eisoes i ffurfio un dyfarniad ehangach sy’n cael ei werthfawrogi gan gyflogwyr a phrifysgolion.
Ceir profiadau ehangach na’r rhaglenni dysgu traddodiadol ym Magloriaeth Cymru. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan CBAC.
Cliciwch y dolenni isod i lawrlwytho adnoddau sy’n ymwneud â Bagloriaeth Cymru:
Bagloriaeth Cymru (Cyfnod Allweddol 4 Cenedlaethol/Sylfaen)
Bagloriaeth Cymru (Uwch)
Mae ein rhaglen ysgolion ar agor!
Am fwy o fanylion neu i drefnu'ch ymweliad e-bostiwch ein Tîm Darganfod neu ffoniwch 01646 624800.
Fioedd Archebu
- Hanner diwrnod: £2.50 y plentyn
- Diwrnod llawn: £4.50 y plentyn.
Nodwch
- Mae isafswm o £75 o dâl archebu yn berthnasol i archebion ysgol.
Costau Trafnidiaeth
- Mae gennym gytundeb gyda rhai cwmnïau bysiau lleol ynghylch costau cludiant - cysylltwch â ni am fanylion.