Adnoddau Cynefin

Archwilio eich ardal leol - adnoddau

Mae’r gair cynefin yn gallu golygu sawl peth, ac mae bellach yn gysyniad craidd yn y Cwricwlwm Newydd i Gymru. Bydd disgyblion yng Nghymru, yn Sir Benfro, yn datblygu eu dysgu am y Dyniaethau drwy archwilio eu hardal eu hunain.

Nid dim ond lle mewn ystyr ffisegol neu ddaearyddol yw Cynefin. Mae’n lle hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol sydd wedi siapio ac yn parhau i siapio’r gymuned sy’n byw yno.
Cynefin yw’r lle rydyn ni’n teimlo rydyn ni’n perthyn iddo, lle mae’r bobl a’r dirwedd o’n cwmpas yn gyfarwydd a lle mae’r golygfeydd a’r synau’n adnabyddadwy.

Mae gan Sir Benfro gyfoeth o gyfleoedd i ddisgyblion sy’n archwilio Cynefin. Yn wir, mae llawer ohonynt ymhlith y nodweddion arbennig a ddiogelir gan y Parc Cenedlaethol. Mae ein Rhaglen Ysgolion, sy’n cael ei chyflwyno gan Geidwaid a Chanolfannau, yn awyddus i ddarparu profiadau dysgu ffurfiannol i ddisgyblion ac addasu i ysgolion sy’n creu ac yn ymchwilio i bynciau newydd.

Nod y dudalen hon yw darparu dolenni at adnoddau i helpu athrawon a disgyblion ar eu taith.

Llwythwch i lawr fapiau o'ch ysgol a'ch ardal

Ewch i leoliad eich ysgol a chlicio i gael dolenni i gyfres o 3 map A3 mae modd eu hargraffu, i helpu i archwilio tir eich ysgol a’r ardal gyfagos.

Tudalennau eraill sy'n berthnasol i ysgolion sy'n cynllunio Cynefin