Sut i wneud cais

Mae ceisio am nawdd gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn broses syml, ac mae help a chyngor ar gael yn hwylus naill ai ar y wefan hon a/neu trwy gysylltu â ni ar 01646 624811 neu ebostiwch sdf@pembrokeshirecoast.org.uk.

Sut i wneud cais?

  1. I ddechrau, cwblhewch y rhestr wirio cymhwysedd ar-lein i gadarnhau eich bod yn gymwys.
  2. Os ydych yn gymwys, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein / lawrlwythwch y ffurflen gais o’n gwefan.
  3. Gall ceisiadau gael eu gwneud yn Gymraeg neu’n Saesneg.
  4. Cadwch lygad ar y wefan am y dyddiadau cau diweddaraf. Gwnewch yn siŵr bod eich cais yn cyrraedd yn brydlon!
  5. E-bostiwch eich cais ynghyd â’ch cyfrifon blynyddol, cyfriflen banc ddiweddar a’ch dogfen/cyfansoddiad llywodraethu, at sdf@pembrokeshirecoast.org.uk.

Sustainable Development Fund SDF logo

Canllawiau’r Ffurflen Gais

Cwestiwn 1

Gallwch ddod o hyd i’ch enw cyfreithiol cywir ar eich dogfen lywodraethu. Mae enw eich dogfen lywodraethu yn dibynnu ar eich math o fudiad. Efallai ei fod yn cael ei alw’n gyfansoddiad, gweithred ymddiriedolaeth neu femorandwm ac erthyglau cymdeithasu, neu rywbeth arall yn gyfan gwbl.

 

Cwestiwn 3

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o fathau o fudiadau, felly os nad ydych yn siŵr a allwch wneud cais, cysylltwch i ofyn.

Cwestiwn 4

Ni fydd gan bob mudiad rif cofrestru elusen neu rif cwmni. Os oes gennych un, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei gynnwys. Os nad ydych yn elusen neu’n gwmni cofrestredig, peidiwch â phoeni, gallwch dal wneud cais.

Os ydych wedi cofrestru gyda’r comisiwn elusennau, nid oes angen i chi anfon eich cyfrifon a’ch cyfansoddiad diweddaraf.

 

Gwybodaeth gyswllt

Cwestiwn 6

Rydym yn hapus i helpu gydag anghenion cyfathrebu. Gall hyn gynnwys ffôn testun, iaith arwyddion, print mawr, tâp sain neu braille.

 

Cwestiwn 7

Mae’n rhaid i’r cyswllt sy’n gyfreithiol gyfrifol fod yn 18 oed o leiaf. Maent yn gyfrifol am sicrhau bod y cais hwn yn cael ei gefnogi gan y mudiad sy’n gwneud cais, bod unrhyw brosiect a ariennir yn cael ei gyflawni fel y nodir yn y ffurflen gais, a bod y sefydliad a ariennir yn cwrdd â’n gofynion monitro. Gallai fod yn Gadeirydd eich elusen neu gyngor cymuned.

 

Rhan 2: Eich prosiect

Cwestiwn 8

Rydym yn gwybod bod meddwl am enw bachog yn gallu bod yn anodd, felly os ydych chi’n cael trafferth, cadwch yr enw’n syml.

 

Cwestiwn 9

Rydym yn edrych i gefnogi pedwar maes cyllid – ticiwch pa un sy’n berthnasol i’ch prosiect chi.

 

Cwestiwn 10

Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn gofyn am arian ar gyfer ‘unrhyw brosiect cymunedol arall i leihau carbon.’

Dyma rai syniadau ynglŷn â beth arall i’w ddweud:

  • Sut daeth eich syniad am y prosiect i fodolaeth
  • Pwy fydd yn rhan o’r prosiect
  • Pa effaith fydd y prosiect yn ei chael

 

Cwestiwn 11

Dywedwch ym mha bentref, dref neu ddinas y bydd eich prosiect yn cael ei gynnal. Cofiwch mai dim ond prosiectau sydd ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r cyffiniau sy’n gymwys i wneud cais. Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i brosiectau o fewn y Parc Cenedlaethol.

 

Cwestiwn 12 a 13

Nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau cyfalaf ar raddfa fach, ond bydd angen ar rai. Gofynnwch i’r awdurdod cynllunio priodol cyn cyflwyno’ch cais.

 

Cwestiwn 14

Pryd ydych chi’n bwriadu dechrau a chwblhau eich prosiect?

 

Cwestiwn 15

Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer TAW?

 

Cwestiwn 16

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, dylech gynnwys eich costau cyn ychwanegu TAW. Rhowch eich costau i’r £1 agosaf. Dylech ddefnyddio penawdau cyllideb, yn hytrach na rhestr fanwl o eitemau. Er enghraifft, os ydych yn gwneud cais am feiros, pensiliau, papur ac amlenni, mae defnyddio ‘cyflenwadau swyddfa’ yn iawn.
Rhowch ddyfynbrisiau gyda’ch cais.

 

Cwestiwn 17

Dywedwch wrthym faint rydych chi’n gwneud cais i’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy amdano. Ni ddylai fod yn fwy na 80% o gyfanswm cost y prosiect.

 

Cwestiwn 18

Mae arian cyfatebol yn ofyniad. Dylai 20-50% o gyfanswm cost y prosiect ddod o ffynhonnell/ffynonellau y tu hwnt i grant y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Gall hyn fod yn arian parod o ffynonellau eraill fel eich cronfeydd wrth gefn, grant arall neu nawdd ymarferol. Er enghraifft, amser gwirfoddolwyr, cymorth proffesiynol pro-bono.

 

Cwestiwn 19

Rydym am wybod sut byddwch yn mesur llwyddiant y prosiect. A fyddwch yn cyfrifo’r carbon sydd wedi’i leihau? Pa ddull fyddwch yn ei ddefnyddio?

 

Cwestiwn 20

Dywedwch wrthym sut bydd y prosiect yn cael ei gefnogi yn y dyfodol.

 

Cwestiwn 21

Dywedwch wrthym sut y byddwch yn cyfleu eich prosiect i’r gymuned ehangach. Efallai yr hoffech ystyried cynnwys arddangosfa ddigidol os ydych yn cynhyrchu ynni, neu anfon gwybodaeth i’ch cylchlythyr neu wefan leol.

 

Rhan 3: Datganiad

Mae’n bwysig sganio llofnod yn hytrach na’i deipio.

Anfonwch eich cais wedi’i lofnodi yn ogystal â dyfynbrisiau, a chopi o’ch cyfrifon diweddaraf, a chyfriflen banc diweddar a chopi o’ch dogfen/cyfansoddiad llywodraethu.

Dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau

Bydd y dyddiad cau nesaf yn cael ei gyhoeddi yma cyn gynted ag y bydd wedi'i gadarnhau.