Bae’r Felin

Sir Benfro: Gwlad y Chwedlau

Mae Bae'r Felin, cildraeth distaw ar Benrhyn Dale, yn safle o arwyddocâd hanesyddol enfawr.

Glaniad Harri

Chwedl o lonyddwch Bae’r Felin, ger Dale, i’r frwydr waedlyd yn Bosworth.

Stori am Harri Tudur ydyw hon, a anwyd yn lleol yng Nghastell Penfro, a’i ddychweliad adref ysblennydd.

Roedd Harri wedi treulio y rhan fwyaf o’i fywyd yn alltud yn Ffrainc.

Yn 1485, ac yntau’n 28 oed, fe ddychwelodd i’w famwlad gyda byddin o tua 200 o ddynion a’r genhadaeth o orchfygu’r Brenin ac adennill coron Lloegr.

Dewisodd Harri a’i ddynion lanio ym Mae Mill, wrth geg yr Aberdaugleddau.

Roedd hyn yn ddigon agos i’w gartref ym Mhenfro a hefyd yn agos i gynghreiriaid. Eto i gyd roedd yn guddiedig rhag llygaid cefnogwyr y brenin.

Ar ôl glanio, gorymdeithiodd Harri a’i ddynion i gyfeiriad Hwlffordd, gan ennill cefnogaeth ar y ffordd.

Ymlaen yr aethant wedyn i Gastell Caeriw, cartref Rhys ap Thomos, dyn cyfoethog a phwerus iawn.

Gwyddai Harri os oedd ef a’i ddynion am unrhyw obaith i orchfygu’r brenin, fe fyddai angen Rhys a’i ddynion ar eu hochr.

Roedd Rhys, serch hynny, wedi tyngu llw o deyrngarwch i’r Brenin Richard y Trydydd. Roedd e hefyd wedi addo i’r Brenin Richard y byddai Harri Tudur yn glanio yng Nghymru-‘dros fy mola i’ yn unig.

Felly i leddfu ei gydwybod ynglŷn â helpu Harri gorweddodd Rhys o dan bont Mullock a chaniatáu i Harri a’i ddynion gerdded dros ei fola.

Ar ôl hynny profodd ei hun yn gefnogwr ffyddlon i Harri, gan ddod â byddin o ddynion wedi’u hyfforddi’n dda gydag ef.

Gorymdeithiodd y dynion i gyfeiriad y dwyrain. Erbyn iddyn nhw gyrraedd Bosworth, roedden nhw tua 5000 mewn nifer.

Pan gyrhaeddodd y Brenin Richard i gwrdd ag ef, roedd ganddo 12,000 o ddynion y tu ôl iddo.

Rhuthrodd ceffylau, hedfanodd saethau, atseiniodd arfau, gwrthdarodd cleddyfau. Ar ôl brwydr fer ond gwaedlyd, gorchfygwyd Richard a’i gario i ffwrdd ar gefn ceffyl.

Urddwyd Rhys ar faes y frwydr ac yna dychwelodd i Gastell Caeriw lle dathlodd ei ddyrchafiad mewn
statws trwy adnewyddu Castell Caeriw yn llwyr ac yn ddiweddarach cynnal twrnamaint mawr yno- 5
diwrnod o wledda ac ymryson godidog.

Yn y cyfamser, gorymdeithiodd Harri i Lundain a dod yn Frenin Harri’r Seithfed, sylfaenydd Llinach y Tuduriaid.

Henry Tudor (Henry VII)