Ynys Farged

Ger Ynys Bŷr, saif Ynys Farged. Ar un adeg, roedd capel canoloesol o’r un enw ar yr ynys, ond fe’i trawsnewidiwyd yn dai ar gyfer y dynion a gloddiai am galchfaen ar yr ynys, yn oes Fictoria. Erbyn hyn, nid oes unrhyw un yn byw ar yr ynys, ond mae’n warchodfa natur fechan a phwysig.

Ar yr ynys, mae yna gytrefu o heligogod sy’n nythu ar y clogwyni a gweilch y penwaig, hyd at 250 pâr o filidowcars a chyfuniad da o bob un o’r tri gwylan fawr: yr wylan gefnddu, yr wylan gefnddu fach a gwylan y penwaig.

Ers sawl blwyddyn, mae mulfrain gwynion wedi bod yn cylchu’r ardal ac yn sefydlu eu tiriogaethau ar ochr ogledd-ddwyreiniol yr ynys, a allai ddod yn gytref i’r fulfrân wen yn y dyfodol.

Mae ambell bâr o balau yn bridio ar y llethrau sy’n wynebu Dinbych-y-pysgod, ond mae llygod mawr yn cwtogi ar y niferoedd o adar llai sy’n nythu ar y tir.

Mae llystyfiant yr ynys yn gyfoethog ac yn ffrwythlon, gyda betys mor trwchus, amranwen y môr a glaswelltau bras uchel.

Cloddiwyd am galchfaen ar yr ynys hyd nes 1851. Mae yna olion bythynnod, cae muriog, siediau storio a ffynnon sydd â dŵr melys yn llifo o hyd.

Mae un chwarel, gyda chymorth ambell storm yn ystod gaeaf 2001/02, bron â hollti’r ynys yn ddwy.

Dod o hyd i Ynys Farged

Ffeil Ffeithiau Ynys Farged

  • Eiddo i: Ystâd Castell Picton, ar brydles gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru
  • Nid oes mynediad i’r cyhoedd
  • Ardal y Parc: De
  • Cyfeirnod Grid: SS120793