Maes Awyr Tyddewi

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Maes Awyr Tyddewi yn fan o weithgarwch parhaus wrth i Rheolaeth Arfordirol y Llu Awyr Prydeinig gymryd rhan ym Mrwydr yr Atlantig. Heddiw, mae Maes Awyr Tyddewi yn lle heddychlon. Yn y Gwanwyn, mae ehedyddion yn llenwi’r awyr gyda’u cân barhaus.

Yng nghanol y 1990au, fe brynodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol y rhan fwyaf o’r maes awyr nad oedd yn cael ei ddefnyddio ac fe ddechreuodd brosiect tirweddu sylweddol i adfer ac ail-greu cynefinoedd bywyd gwyllt ac i ddiogelu mwynhad a mynediad y cyhoedd. Dychwelwyd gweddill y maes awyr at ddefnydd ffermio.

Erbyn hyn, mae rhan o’r hen faes awyr yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac mae’n cynnwys gweundir a gwlyptir o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae yna lwybrau troed a ffyrdd seiclo yn croesi’r hen faes awyr. Yn 2002 cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar y safle. Bellach, Cerrig yr Orsedd – sy’n cynnwys cerrig a gasglwyd o ffermydd lleol gan wirfoddolwyr – yw’r unig atgof o’r digwyddiad diwylliannol pwysig hwn.

Cadwraeth

Gweirgloddiau – llwyddiant yn hanes yr ehedydd!

Gweithiodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyda’r ffermwr lleol i reoli’r glaswelltir fel gweirgloddiau traddodiadol. Mae hyn yn golygu lladd gwair unwaith y tymor yn unig, yn lle sawl gwaith y tymor. Caiff y gwair ei dorri ym mis Gorffennaf er mwyn rhoi cyfle i’r blodau gwyllt fwrw’u hadau, ac fel nad oes unrhyw darfu ar yr ehedyddion.

Mae ehedyddion yn nythu ar y tir, a byddai torri’n gynharach na mis Gorffennaf yn dinistrio’u hwyau. Nawr, mae gan y ddôl statws organig ac mae’n cael ei harchwilio’n rheolaidd gan Gymdeithas y Pridd. Gwelwyd ffrwyth yr ymdrechion hyn, oherwydd mae poblogaeth yr ehedydd wedi dyblu ers rheoli’r glaswelltir mewn ffordd draddodiadol.

Gweundir

Dynodwyd y gweundir ar hyd ochr ogleddol y maes awyr yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Nawr, mae’r gweundir yn gartref i blanhigion arbennig, sy’n darparu bwyd a chysgod ar gyfer amrywiaeth eang o bryfed, gan gynnwys mursen brin y de, pili-pala britheg y gors, y chwilen deigr werdd a lindysyn yr ymerawdwr.

Mae yna fwy o weundir isel yn Sir Benfro nag yn unrhyw le arall yng Nghymru. Mae gweundiroedd yn ardaloedd o brysglwyni bach fel grug ac eithin sy’n tyfu’n dda mewn pridd gwael, sy’n aml yn wlyb iawn. Cawsant eu creu tua 5000 o flynyddoedd yn ôl pan gliriwyd fforestydd i wneud lle i ffermydd, ac fe’u cynhaliwyd trwy gylchoedd o losgi a phori.

Wrth i arferion ffermio newid a dod yn fwy dwys, mae ardaloedd mawr o weundir wedi diflannu. Ail-grewyd y gweundir ar Faes Awyr Tyddewi. Dymchwelwyd yr hen adeiladau, gosodwyd clai a mawn yn lle’r uwchbridd a gosodwyd grug ac eithin ar ei ben. Caiff yr ardal ei llosgi bob pum mlynedd ac mae defaid a gwartheg yn pori yma dros y gaeaf.

Wildflower Meadow on St Davids Airfield, Pembrokeshire Coast National Park, Pembrokeshire, Wales, UK

Hanes Milwrol

Maes Awyr Tyddewi oedd yr olaf o wyth a adeiladwyd yn Sir Benfro ac roedd yn weithredol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn wahanol i feysydd awyr eraill, roedd yn dal i gael ei ddefnyddio ar ôl y rhyfel i gefnogi’r Llynges Frenhinol. Ganol y 1990au, penderfynodd y Llywodraeth nad oedd ei angen mwyach ac ym 1997 prynodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro’r safle.

Gan mai dyma’r unig un o’r wyth maes awyr sy’n eiddo cyhoeddus, dyma’r unig un ble mae cadwraeth a gwarchodaeth yn flaenoriaeth fel opsiwn rheoli. Mae yna gred gref, hefyd, y dylid gwarchod y rhedfeydd a’r adeiladau sy’n weddill fel nodwedd hanesyddol ar y dirwedd.

O amaeth i awyrennau

Cyn dod yn faes awyr, roedd yn ddwy fferm. Dywedir bod y tywod a ddefnyddiwyd i adeiladu’r rhedfeydd wedi dod o’r Traeth Mawr gerllaw. Prin oedd dewis y ffermwyr. Roedd yn rhaid iddynt roi caniatâd neu byddent wedi bod ‘yn erbyn ymdrech y rhyfel’.

Gweithgarwch yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Agorodd y maes awyr yn hydref 1943 ac roedd iddo’r patrwm tair rhedfa arferol, gyda thyrau rheoli ac awyrendai. Gweithredai o dan Reolaeth Arfordirol y Llu Awyr Brenhinol ac roedd yn gartref i sgwadronau’r Llu Awyr Brenhinol a hedfanai awyrennau bomio Fortress, awyrennau Halifax a Liberators.

Oherwydd lleoliad Sir Benfro ar ben gorllewinol pellaf Cymru, roedd yn ddelfrydol i gadw awyrennau a oedd yn cymryd rhan ym Mrwydr yr Iwerydd. Y prif nod oedd amddiffyn masnach forol Prydain ac ymladd y llongau tanfor Almaenig. Roedd treill-longau a weithredai o Aberdaugleddau yn arbennig o agored i niwed. Chwaraeodd awyrennau Halifax Tyddewi ran bwysig yn atal y llongau tanfor Almaenig a’r llongau ‘E’ rhag ymosod ar armada glaniad D-Day. Weithiau, hedfanai awyrennau cyn belled â Bae Biscay. Ar adegau eraill, byddent yn mynd ar daith fer i Freudraeth gerllaw gyda llwyth o fomiau, ac yna byddent yn llanw’r awyren â thanwydd ac yn hedfan oddi yno, ble’r oedd y rhedfeydd mewn safleoedd mwy addas ar gyfer tywydd gwael.

Damweiniau!

Roedd mwyafrif yr ymgyrchoedd allan o Dyddewi yn hwylus, ond cafwyd brwydrau achlysurol yn erbyn llongau tanfor Almaenig a chychod ar y dŵr ac, wrth gwrs, roedd yna ddamweiniau. Ym mis Chwefror 1944, saethwyd awyren Halifax i lawr ychydig oddi ar yr arfordir gan ymyrwyr Almaenig. Aeth saith Halifax i lawr ar y ffyrdd peryglus at y maes awyr rhwng mis Ionawr 1944 a’r mis Medi canlynol. Wedi i’r rhyfel ddod i ben, gwrthdarodd Liberator a’i chriw o bedair o ddynion ar yr heol at y Traeth Mawr. Coffawyd y gwrthdrawiad gan Grŵp Hedfan Sir Benfro ac mae wedi’i nodi gyda chofeb o lechen.

Black and white image of St David Airfield

Gweithgarwch ar ôl y rhyfel

Yn wahanol i feysydd awyr eraill Sir Benfro, roedd un Tyddewi’n dal i gael ei ddefnyddio ar ôl y rhyfel. Fe’i defnyddiwyd i gefnogi’r Llynges Frenhinol o 1951 i 1960 ac yna’n ddiweddarach i gefnogi’r uned arfau tactegol ym Mreudraeth o 1974 tan 1992. Ym 1990-91 roedd Llynges yr Unol Daleithiau am osod radar ar y maes awyr, ond cafwyd gwrthwynebiad tanbaid o’r gymuned. Erbyn canol y 1990au, roedd y llywodraeth wedi penderfynu nad oedd angen y maes awyr mwyach. Gyda chymorth grant, llwyddodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol i brynu peth o’r tir.

O’r bomiau i bili-palaod

Pan brynodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol y tir, edrychwyd drosto i sicrhau nad oedd unrhyw ffrwydron ar ôl a chliriwyd adeiladau a oedd wedi dymchwel ac asbestos. Unwaith yr oedd yn ddiogel, crëwyd cloddiau a dechreuwyd gwella cynefinoedd a mynediad. Adferwyd ardaloedd o dir yn weundir a gweirgloddiau. Nawr, mae’n ardal ble mae bywyd gwyllt yn ffynnu a phobl yn gallu mwynhau cerdded, beicio a marchogaeth.