Maes Awyr Tyddewi

Taith Fynediad Hwylus

Taith fynediad hwylus: 3.7 milltir  (5.9 km) yno ac yn ôl. 2.4 milltir (3.9 km) os ydych yn defnyddio’r heol.
Cymeriad: taith wastad ar hen faes awyr, golygfeydd o weundir, ehedyddion yn y Gwanwyn a’r Haf.
Toiledau: y toiledau agosaf yn Solfach a’r prif faes parcio yn Nhyddewi (nid ydynt gerllaw).

Sut i gyrraedd yno:

Trafnidiaeth gyhoeddus: safle bws agosaf yn Solfach (1.7 milltir).
Eich trafnidiaeth eich hun: Gogledd Orllewin Sir Benfro; 1.5 milltir i’r dwyrain o ddinas Tyddewi.  Dewch ar heol yr A487.

Mae yna arwyneb ar bob cam o’r daith wastad hon, ar hyd ymylon Maes Awyr Tyddewi, ac yna trwy’r canol.

Os ydych yn dewis defnyddio’r heol i gerdded y daith gylch hon, byddwch y ofalus oherwydd mae’n isffordd wledig ac nid oes llwybr arbennig i gerddwyr.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Maes Awyr Tyddewi yn haid o weithgarwch fel canolfan Awdurdod Arfordirol y Llu Awyr Brenhinol (yr RAF) a oedd yn rhan o Frwydr yr Iwerydd.

Heddiw, mae Maes Awyr Tyddewi’n lle i enaid gael llonydd. Yn y Gwanwyn, mae’r awyr nawr yn haid o ehedyddion.

Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy’n berchen ar y rhan fwyaf o’r hen faes awyr ac mae wedi adfer ac ail-greu cynefinoedd bywyd gwyllt tra’n diogelu mynediad a mwynhad y cyhoedd ar yr un pryd. Mae gweddill y maes awyr wedi mynd yn ôl at gael ei ddefnyddio fel tir ffermio.

Erbyn hyn, mae rhan o’r maes awyr yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac mae’n cynnwys gweundir a gwlypdir o bwysigrwydd cenedlaethol.

Mae’r cylch cerrig yn dyddio o 2002, pan gynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar y safle.

Cyfarwyddiadau

Ewch drwy’r giât a dilynwch y llwybr concrit gyda’r clawdd ar y dde. Mae’r llwybr wedi’i wneud o goncrit, ac weithiau mae yna darmac ar ei ben.

Mewn mannau mae yna rigolau wedi’u torri ar ei draws, ac mae hyn yn gallu ysgwyd ychydig ar gadeiriau olwyn. Dilynwch y llwybr amlwg o amgylch perimedr yr hen faes awyr.

Trowch i’r dde ar ôl pasio cylch cerrig arno i lwybr. Dilynwch y llwybr, gyda chloddiau ar bob ochr, yn syth ymlaen i giât mochyn wrth yr heol.

Yma, fe allwch ddewis mynd yn ôl yr un ffordd neu ddychwelyd ar yr heol. Os ydych yn dewis dychwelyd ar yr heol, trowch i’r dde arno i’r heol – byddwch yn ofalus iawn – a throwch i’r dde wrth y gyffordd T.

Neu, ar ôl pasio’r cylch cerrig, ewch yn syth ymlaen ar hyd y llwybr perimedr a throwch i’r chwith i basio trwy giât a dilyn dolen ar hyd llwybr cul sydd wedi’i godi, o gerrig cywasgedig, sy’n pasio trwy’r gweundir.

Dewch yn ôl trwy giât arall a throwch i’r chwith i orffen wrth y giât ger yr ardal parcio ar ochr ddwyreiniol y maes awyr. Ewch yn ôl yr un ffordd.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM781254