Pwllgwaelod i Gwm-yr-Eglwys

Taith Fynediad Hwylus

Taith fynediad hwylus: 1.3 milltir (2.0 km).
Cymeriad: taith wastad ar lwybr a grëwyd yn arbennig at y diben, trwy gwm coediog.
Toiledau: yn y ddau faes parcio (tymhorol ym Mhwllgwaelod).
Cyflysterau: Mae yna fwyty ym Mhwllgwaelod

Sut i gyrraedd yno:

Trafnidiaeth gyhoeddus: Roced Poppit i Bwllgwaelod (hygyrch i gadeiriau olwyn).
Eich trafnidiaeth eich hun: Gogledd Sir Benfro, 5 milltir i’r Gogledd Ddwyrain o dref Abergwaun. Dewch ar gefnffordd yr A487. Meysydd parcio ym Mhwllgwaelod (rhad ac am ddim) a Chwm-yr-Eglwys (tâl).

Yn bennaf, mae’r daith ar arwyneb tarmac a grëwyd yn arbennig at y diben.  Mae’r graddiannau’n finimal, a ble mae yna raddiannau, maen nhw am bellterau byr yn unig.

Mae’r adran ar draws maes carafannau Cwm-yr-Eglwys (90m) ag arwyneb gwe concrit ac mae’r borfa’n tyfu trwyddo. Mae’n gallu ysgwyd ychydig o’r gadair olwyn wrth groesi.

Mae’r daith hon yn dilyn cwm a ffurfiwyd gan yr un dŵr tawdd o Oes yr Iâ a ffurfiodd Gwm Gwaun ymhellach i lawr yr arfordir. Mae’n gwm dymunol gyda choetir gwlyb i’r De ac Ynys Dinas i’r Gogledd.

Ar ddiwrnod gwyntog, mae’r gwynt yn ergydio naill ai Pwllgwaelod neu Gwm-yrEglwys, gan adael un cildraeth yn ffres a’r llall yng nghysgod y clogwyni cyfagos.

Mae’n werth edrych ar olion eglwys Cwm-yr-Eglwys: mae’r llwybr at yr eglwys yn wastad, ac mae yna seddau ar y morglawdd.  Dinistriwyd yr eglwys, sydd wedi’i chysegru i Sant Brynach, yn storom fawr 1859.

Directions

O Bwllgwaelod:

Dilynwch yr heol heibio i’r bwyty a throwch i’r dde wrth yr arwydd i’r giât (ramp serth byr, yna 1:15 am 12 metr).

Dilynwch y llwybr tarmac gwastad trwy giatiau (graddiant o hyd at 1:12 am 7 metr yn arwain at y drydedd giât) hyd nes cyrraedd maes parcio Cwm-yr-Eglwys.

O Gwm-yr-Eglwys:

Cerddwch tuag at y maes carafannau ar lwybr sydd wedi’i ddiffinio’n dda.  Ar ôl yr ail giât (graddiant o hyd at 1:12 i lawr am 7 metr) mae’r llwybr wedi’i darmacio.

Dilynwch y llwybr at yr heol ym Mhwllgwaelod (graddiant o 1:15 i lawr am 12 metr ar ôl y giât olaf, ac yna ramp serth byr i lawr).

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN004399