Abereiddi i’r Lagŵn Glas

Taith Antur

Taith antur: 0.4 milltir (0.7 km).
Cymeriad: llwybr ag arwyneb, adrannau serth, golygfeydd gwych o’r arfordir, olion chwarel lechi a bythynnod gweithwyr.
Toiledau: tymhorol, nid ydynt yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Toiledau hygyrch agosaf ym Mhorthgain (tua 3 milltir).
Sylwer: byddwch yn ofalus wrth ymylon y clogwyni ac ar lethrau serth.

Sut i gyrraedd yno:

Trafnidiaeth gyhoeddus: Gwibiwr Strwmbl (hygyrch i gadeiriau olwyn).
Eich trafnidiaeth eich hun: Gogledd Orllewin Sir Benfro; 5 milltir i’r Gogledd Ddwyrain o ddinas Tyddewi. Dewch ar heol yr A487.

Mae yna fan parcio anffurfiol uwchben y traeth, sydd ag arwyneb naturiol, anwastad. Mae 250 metr cyntaf y daith hon ar lwybr concrit sydd wedi’i greu’n arbennig, ac mae’n codi’n raddol i fyny’r tyle, gyda llethrau o hyd at 1:10.

Mae’r rhan olaf yn mynd i lawr y tyle ar rwbel llechi wedi’i gywasgu ar raddiant o 1:15.  Rhagwelir y bydd yr adran hon yn cael arwyneb newydd yn y dyfodol agos.

Mae hen fythynnod gwag y gweithwyr chwarel yn atgof o’r adeg pan yr oedd Abereiddi’n haid o weithgarwch.  Tynnwyd llechi oddi yma yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond ni ddefnyddiwyd y chwarel ar ôl 1901.

O ganlyniad i lifogydd yn y tridegau, gorfodwyd pobl i symud i rywle arall. Mae’r Lagŵn Glas yn un o’r enghreifftiau gorau o chwarel fôr yn Sir Benfro.

Mae chwarelau môr yn cael eu ffurfio wrth i’r môr orlifo hen weithfeydd chwarel ac maen nhw’n nodwedd unigryw o’r ardal hon.

Defnyddiwyd y lagŵn fel porthladd ar gyfer cychod pysgota yn y gorffennol.

Yn dilyn stormydd difrifol yn 2014, mae erydu’r arfordir wedi ail ffurfio y traeth hwn gyda’r traethlin wedi encilio a ffrwd ar hyd sianel wedi agor ar draws y blaenlaniad.

Erbyn hyn, mae olion chwarel Abereiddi yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cyfarwyddiadau

Gadewch y maes parcio trwy’r giât agosaf at olion y teras o fythynnod gweithwyr (wrth y banel gwybodaeth).

Dilynwch y  llwybr ar hyd ‘y stryd’, heibio i’r bythynnod, ac ar ôl y bwthyn diwethaf, trowch i’r chwith i fyny’r tyle.

Mae’r llwybr yn dringo am ryw 185 metr, gyda mannau pasio rheolaidd. Mae’r 55 metr cyntaf yn 1:14 i 1:18, yna ceir 30 metr sy’n 1:10, ac yna 90 metr sy’n 1:15 (arhoswch ar y llwybr sydd ag arwyneb pan ddewch at y fforc) ac yn olaf 10 metr sy’n 1:12.

Nawr, mae’r llwybr yn disgyn tuag at yr hen chwarelau segur ar arwyneb  anwastad o lechi wedi’u cywasgu a llechi rhydd, am 60 metr, ac mae’n 1:15.

Mae yna ramp 1:12 i fyny at y bont droed ac yna disgyniad o 1:6 am 6 metr arno i ardal wastad gyda golygfeydd gwych o’r Lagŵn Glas.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyferinod Grid: SM797313