Haroldston Chins

Taith Fynediad Hwylus/Taith Antur

Taith fynediad hwylus: 0.8 milltir (1.3 km).
Taith antur: 2.1 milltir (3.4 km).
Cymeriad: taith ar hyd Llwybr yr Arfordir gyda golygfeydd gwych.  Mae yna arwyneb ar y rhan gyntaf (taith fynediad hwylus) ac mae’r gweddill ar arwynebau naturiol, sy’n cynnwys porfa, gyda graddiannau serth.
Toiledau: dim toiledau.  Toiledau agosaf ym maes parcio Broad Haven (tymhorol, 2 filltir) a maes parcio Nolton Haven (1.5 milltir).
Sylwer: mae yna lechfaen mawr wrth yr ail olygfan a ddefnyddir fel sedd anffurfiol.

Sut i gyrraedd yno:

Trafnidiaeth gyhoeddus: Y Pâl Gwibio (hygyrch i gadeiriau olwyn).
Eich trafnidiaeth eich hun: De Sir Benfro; 8 milltir i’r Gorllewin o Hwlffordd. Dewch ar heol y B4341.  Maes parcio bach ar ddechrau’r daith gyda llefydd parcio i ddeiliaid Bathodyn Glas.

Y rhan gyntaf o’r daith hon (at yr ail olygfan) yw’r daith fynediad hwylus: mae arni arwyneb tarmac a seddau ar hyd y daith. Mae gweddill y daith (ar ôl yr ail olygfan) ar arwynebau naturiol, gyda rhai rhigolau a graddiannau serth.

Mae yna olygfeydd gwych dros Fae San Ffraid: i’r Gogledd, y morlin garw i Rickets Head, penrhyn Tyddewi ac Ynys Dewi, ac i’r De tuag at Ynys Sgomer.

Ar ddiwrnodau clir, rydych chi hefyd yn gallu gweld ynys Gwales yn y Gorllewin; mae’r mulfrain gwynion sy’n nythu ar yr ynys yn ei gorchuddio gyda baw adar, a dyna sy’n rhoi’r lliw gwyn iddo yn yr Haf.

Wrth i chi ddychwelyd ar hyd y llwybr sydd ag arwyneb, fe allwch chi weld y clogwyni fertigol trawiadol o siâl du gyda haenen drwchus o dywodfaen uwch eu pennau.

Cyfarwyddiadau

Gadewch y maes parcio ar y llwybr tuag at y môr. Dilynwch y llwybr o amgylch yr olygfan gyntaf arno i Lwybr yr Arfordir.

Ychydig heibio i’r drydedd sedd mae yna raddiant o 1:15 am 10 metr. Ar gyfer yr ail olygfan dilynwch y llwybr ag arwyneb i’r dde.

Ewch yn ôl yr un ffordd os ydych ond yn dilyn y daith fynediad Hwylus.

Ar gyfer y Daith Antur, cerddwch yn ôl o’r ail olygfan am ychydig o fetrau ac ewch yn ôl arno i Lwybr yr Arfordir trwy ddilyn y llwybr ar y dde.

Dilynwch y llwybr hwn i lawr y tyle (graddiant o 1:12 i 1:6 am 20 metr), ac yna i fyny (graddiant o 1:8 am 6 metr).

Ar ôl mynd trwy giât a chyn cyrraedd y sedd nesaf, mae yna ddwy adran serth i lawr y tyle (hyd at 1:8 am 8 metr, yna 1:8 i 1:6 am 13 metr), ac yna adran fer i fyny’r tyle (1:8 am 6 metr).

Mae’r sedd yn ôl oddi wrth y llwybr. Ar ôl y sedd, mae yna adran serth i lawr y tyle tuag at y môr (1:8 i 1:6 am 32 metr), ac yna llethr sydd ychydig yn ysgafnach i lawr y tyle (1:9 i 1:6 am 25 metr).

Yna, mae’r llwybr yn codi eto gyda dwy adran serth (1:9 am 5 metr ac 1:9 i 1:7 am 54 metr) at giât. Ar ôl y giât mae’r llwybr yn mynd i lawr y tyle’n hamddenol.

Mae’r daith yn dod i ben wrth graig fawr wen, gyda golygfeydd da o’r gaer o’r Oes Haearn. Ewch yn ôl yr un ffordd.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM863163