Copa Clogwyn Porthgain

Taith Antur

Taith antur: 3.6 to 4.4 milltir (5.8 i 7.1km).
Cyferiad:  golygfeydd arfordirol gwych, treftadaeth ddiwydiannol, ar lwybrau glaswelltog yn bennaf, graddiannau.
Toiledau: yn y pentref yn agos at y maes parcio.
Please note: mae’n bosib i’r rheiny sy’n defnyddio Tramper i ddilyn Llwybr yr Arfordir ymhellach tuag at y Lagˆ wn Glas ger Abereiddi.  Sylwer, i gael mynediad i’r maes parcio yn Abereiddi, mae angen dilyn cyfres serth o risiau.

Sut i gyrraedd yno:

Trafnidiaeth gyhoeddus: Gwibiwr Strwmbl (hygyrch i gadeiriau olwyn).
Eich trafnidiaeth eich hun: Gogledd Orllewin Sir Benfro; 6 milltir i’r Gogledd Ddwyrain o ddinas Tyddewi. Dewch ar heol yr A487.

Mae’r daith hon ar hyd arwynebau glaswelltog yn bennaf, ac mae’n cynnwys amrywiaeth o raddiannau. Unwaith mae’r daith yn cyrraedd y tir uwch, mae’n dod yn fwy gwastad, ac mae yna nifer o fannau i amsugno’r golygfeydd.

Mae pentref bach prydferth Porthgain yn lle heddychlon heddiw, ond, ar un adeg, roedd yn haid o ddiwydiant.

Hyd nes y 1930au, roedd y cildraeth yn borthladd prysur ac allforiwyd llechi, briciau a meini heol oddi yma ar gyfer adeiladu tai a heolydd.

Chwiliwch am yr olion anferth ar hyd un ochr o’r gilfach; mae’r rhain yn gyfres o hopranau bric coch a arferai ddal y meini heol wedi’u malu.

Llwythwyd y cychod trwy lithrennau a gyrhaeddai ymyl y porthladd.

Mae gan Borthgain hanes hudolus, ac mae taflen ar wahân (gyda thaith gerdded ychwanegol) ar gael yn y pentref.

Cyfarwyddiadau

Cerddwch yn ôl arno i’r heol a throwch i’r dde arno i’r llwybr, ychydig bach ar ôl y blwch ffôn.

Unwaith y byddwch wedi mynd heibio i’r ty, mae’r llwybr yn dod yn eithaf serth am 134 metr: 1:5 am 18 metr, ac yna 1:10 i 1:12 am 56 metr, ac yna 1:6 am 6 metr, 1:10 am 29 metr ac yn olaf 1:15 am 25 metr.

Dilynwch y llwybr o amgylch i’r dde, yna ar draws trac mynediad i lwybr ar yr ochr gyferbyn tu ôl i’r clawdd. Dilynwch y llwybr, ewch yn syth ymlaen trwy giât, yna giât mochyn ac wedi cyrraedd postyn sy’n marcio’r ffordd, mae yna ddewis o ddwy olygfan.

Ar gyfer yr olygfan o’ch blaen: ewch fwy neu lai yn syth ymlaen rhwng dwy wal isel a dilynwch y llwybr hyd nes cyrraedd y clogwyn.

Ar gyfer yr olygfan wrth hen adeiladau’r chwarel: trowch i’r chwith a ble mae’r llwybr yn fforchio, cymerwch y llwybr ar y dde.

Cyn hir, mae’n fforchio eto, cadwch i’r dde eto arno i’r llwybr uwch.

Mae hwn yn dilyn llinell yr hen dramffordd, ac mae’n fwy anwastad, gyda rhai sliperi rheilffordd i’w gweld ar yr arwyneb. Dilynwch y llwybr hyd nes cyrraedd adeiladau’r chwarel.

I fynd yn ôl i’r pentref, ewch yn ôl yr un ffordd.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyferinod Grid: SM815325