Ystadegau a ffeithiau am Lwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro.
- Enw: Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Lleoliad: Sir Benfro, De Orllewin Cymru.
- Hyd: 186 milltir. 299 cilomedr (cymeradwywyd y llwybr fis Gorffennaf 1953, agorwyd ar 16/5/70)
- Defnyddwyr: 10% ffyrdd, 7% ffordd amgen y Weinyddiaeth Amddiffyn *, 2% ffordd amgen oherwydd llanw uchel *, 0.3% cychod (Traws gwlad) 77% llwybrau troed, 2.6% llwybrau march, 0.4% llwybrau beicio * = Gellir osgoi rhai rhannau o’r ffordd trwy amseru gofalus
- Nifer y dyddiau i orffen cerdded y llwybr: 10-15
- Pwynt uchaf: Pen yr Afr – 175m
- Pwynt isaf: Croesfan Sandy Haven – 2m uwchben dŵr isel.
- Cyfanswm codiad a gostyngiad yr holl Lwybr – oddeutu 35,000 troedfedd.
Cyfanswm y camfeydd:
- 540 yn 1993
- 400 yn 2001
- 298 yn 2003
- 181 yn 2006
- 108 yn 2008
- 25 yn 2020.
- Cyfanswm y nifer o giatiau (2017): 475
- Cyfanswm y nifer o bontydd (2017): 149
- Cyfanswm y nifer o arwyddion (2016): 530
- Cyfanswm y nifer o resi o risiau (2017): 273
- Cyfanswm y nifer o risiau (2017): 3779.
Uchafbwyntiau
- Mwy na 50 o draethau
- Mwy na 40 o geyrydd pentir
- Trefi / cestyll Normanaidd / canoloesol (yn arbennig Dinbych-y-pysgod, Maenorbŷr a Phenfro)
- Cadwyn o geyrydd Napoleonaidd a cheyrydd diweddarach
- Llond gwlad o odynau calch ac olion archeolegol eraill yn ymwneud â diwydiannau
- Cyfres o borthladdoedd hardd (e.e. Dinbych-y-pysgod, Solfach, Porthgain)
- Cildraethau cudd di-rif
- Pyllau Lili Bosherton
- Adar a blodau
- Diwylliant dwyieithog / ffin ieithyddol.
Cysylltiadau enwog
- Hubba (rhyfelwr o Lychlyn a orchfygodd y Brenin Alfred)
- Gerallt Gymro
- Harri VII
- Barti Ddu (môr-leidr)
- Goresgyniad olaf y DU (1797)
- Y Llyngesydd Nelson
- Gordon o Khartoum
- Isambard Kingdom Brunel
- Y daith gyntaf mewn awyren i Iwerddon
- RM Lockley
- Y traeth cyntaf yng Nghymru i’r Tywysog Siarl ei droedio (1955)
- Sea Empress.
Trefi agosaf: Mae Saundersfoot, Dinbych-y-pysgod, Penfro, Doc Penfro, Neyland, Aberdaugleddau, Broad Haven, Solfach, Wdig, Abergwaun a Threfdraeth (Sir Benfro) i gyd ar y Llwybr.
Tŷ Ddewi 1 filltir, Hwlffordd 6 milltir, Aberteifi 2 filltir, Caerfyrddin 30 milltir, Abertawe 50 milltir, Caerdydd 90 milltir.
Mynediad: Ffyrdd – M4, A40, A477. Caerdydd i Gaerfyrddin, 2 awr mewn trên (Caerdydd i Ddinbych-y-pysgod, 2.5 awr; bws yn ôl i Amroth, 40 munud). Hefyd, ceir trenau i Hwlffordd, Doc Penfro, Aberdaugleddau ac Abergwaun. Bysiau: Caerfyrddin i Amroth trwy Bentywyn – 1 awr. Bws o Gaerfyrddin i Aberteifi, 1.75 awr. Ceir mwy o fysiau i rannau o’r Llwybr o Hwlffordd. Gellir cael y manylion ar wefan Cyngor Sir Benfro neu drwy ffonio’u llinell ymholiadau ar 01437 775227.
Mannau cychwyn / gorffen: Y bont i’r dwyrain o Gastell Amroth, y llithrfa i’r gogledd o Landudoch , Aberteifi (mae plac y gogledd yn Poppit Sands).
Gwybodaeth: National Trail Guide gan Brian John – Gwasg Aurum ISBN =978-1-84513-563-8.
Mae llwybrau a fydd yn cysylltu efo Llwybr Arfordir Ceredigion yn y Gogledd a Llwybr Arfordir Bae Caerfyrddin yn y De yn cael eu datblygu.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol – Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY. Ffoniwch 01646 624800, neu ebostiwch: pcp@pembrokeshirecoast.org.uk.