Gall Llwybr Arfordir Penfro fod yn daith gerdded wledig heriol ar hyd arfordir sydd heb ei ddifetha’n bennaf. Nodwch fod llawer o Lwybr yr Arfordir yn llwybr troed agored ar ben y clogwyn, ac mae wyneb y llwybr yn cael ei gadw yn ei gyflwr naturiol.

Wrth i chi ddilyn tonnau’r dirwedd arfordirol o ben clogwyni i draethau, mae’r esgyniadau a’r disgynfeydd ar hyd y llwybr yn cyfateb i ddringo Mynydd Everest!

Ond nid oes yn rhaid i chi gerdded y cyfan ar unwaith a ph’un a ydych chi’n chwilio am her enfawr neu daith gerdded olygfaol, mae yna opsiynau i bawb, gan gynnwys rhai darnau byr sy’n addas ar gyfer y rhai â chadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.

Gall rhai rhannau fod yn heriol mewn mannau, gall arwynebau’r llwybrau fod yn gul, yn anwastad ac yn gyfnewidiol yn ôl y tywydd, felly bydd angen i chi fod yn weddol heini.

Bydd ein hadran Cynllunio eich taith gerdded yn rhoi syniad gwell i chi beth i ddisgwyl o natur y dirwedd, fel y bydd ein tudalen Google Street View. Mae’r Cod Diogelwch Llwybr yr Arfordir isod wedi’i ategu gan y cyngor i gadw’n ddiogel a chadw at y llwybr yn yr amgylchedd arfordirol naturiol hwn.

I'ch helpu i fwynhau'ch taith cerdded, a wnewch chi ddilyn Côd Diogelwch Llwybr yr Arfordir os gwelwch yn dda.

  • Cymerwch ofal ar Lwybr yr Arfordir – mae’n dir garw, naturiol
  • Cadwch at y llwybr, i ffwrdd oddi wrth ymylon y clogwyni a throsgrogau
  • Goruchwyliwch blant ar bob adeg, yn enwedig ger ymylon y clogwyni
  • Mae arwynebau cerdded yn gallu amrywio’n sylweddol yn ôl y tywydd. Gwisgwch esgidiau cryfion gyda gafael dda a chynhalwyr pigyrnau bob amser
  • Gwisgwch ddillad cynnes sy’n dal dŵr, neu dewch â hwy gyda chi
  • Mae’n gallu bod yn beryglus cerdded at gopa clogwyni mewn gwyntoedd uchel
  • Byddwch yn ofalus wrth dorri ar draws traethau i arbed amser – efallai y gallai’r llanw eich ynysu. Mae nofio’n gallu bod yn beryglus hefyd
  • Peidiwch ag eistedd o dan glogwyni na’u dringo
  • Cadwch eich cŵn dan reolaeth agos
  • Rheolir Llwybr yr Arfordir ar gyfer cerddwyr; nis yw’n ddiogel nac yn gyfreithlon marchogaeth na beicio ar hyd mwyafrif Llwybr yr Arfordir
  • Gadewch y clwydi a’r eiddo fel y cawsoch nhw
  • Cofiwch nad yw signal ffôn symudol yn ddibynadwy ar yr arfordir.
Haroldston Chins easy access route on the Pembrokeshire Coast Path

Mwy o wybodaeth am cerdded Llwybr yr Arfordir