Cyfleoedd Hyblyg a Micro Wirfoddoli

Os hoffech wirfoddoli ar amser sy’n gyfleus i chi, a gwirfoddoli ar eich pen eich hun neu gyda ffrind, efallai y bydd un o’n cyfleoedd gwirfoddoli hyblyg neu ficro yn addas i chi.

  • Warden coed – cadw golwg ar gyflwr coed arbennig yn eich ardal ac adrodd yn ôl.  Sawl cyfle hyfforddi.
  • Gwarcheidwad treftadaeth – monitro ein hasedau treftadaeth ac adrodd ar eu cyflwr.  Darperir hyfforddiant.

 

Micro Wirfoddoli

Nid oes rhaid i bob gwirfoddoli fod yn drefnus nac yn ffurfiol. Mae micro-wirfoddoli yn rhywbeth y gallwch ei wneud mewn talpiau bach, bach, heb fod angen cofrestru. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi helpu, sdim ots faint o bobl sy’n ymuno, gorau po fwyaf. Gallwch wneud y pethau hyn ar eich pen eich hun, gyda’ch ffrindiau neu’ch teulu, neu fel rhan o grŵp cymunedol.

 

LookWild

Helpwch i gofnodi natur. Pan fyddwch allan yn yr awyr agored, edrychwch yn agosach ar eich amgylchoedd. Tynnwch lun o blanhigion neu greaduriaid gwyllt ac yna lanlwythwch nhw i’r prosiect LookWild (yn agor mewn ffenest newydd).

Dros amser, gyda chyfraniadau gan y cyhoedd, byddwn yn creu darlun da o’r bywyd gwyllt sy’n byw yn Sir Benfro ac yn y 14 Parc Cenedlaethol arall ar draws y DU.

Sut i gymryd rhan:

Pam ddylwn i gymryd rhan?

  • Byddwch yn rhan o Brosiect Cenedlaethol ar draws holl Barciau Cenedlaethol y DU
  • Bydd eich arsylwadau’n helpu i ddangos beth sy’n digwydd i adar, chwilod, ffyngau, blodau a choed ar lefelau lleol a chenedlaethol a gallent lywio gwaith cadwraeth natur yn y dyfodol.
  • Mae’n hwyl i deuluoedd ac ymwelwyr newydd â’r Parciau Cenedlaethol, ac yn gyflwyniad da i wirfoddoli
  • Dysgwch fwy am y bywyd gwyllt o’ch cwmpas
  • Mae bod yn yr awyr agored ac yn agosach at natur yn dda i chi.

Male using smartphone to identify wildflowers
Person yn defnyddio ffôn clyfar i adnabod blodau gwyllt Gwirfoddolwr yn defnyddio ap iNaturalist i adnabod planhigyn.

 

Arfordir ar Daith

Helpwch ni i gofnodi’r newidiadau i’n harfordir trwy dynnu llun ar un o’n safleoedd ffotograffio sefydlogo a’i rannu gyda ni. Am ragor o wybodaeth ewch i’n tudalen Arfordir ar Daith.

Changing Coasts photograpy post at Abereiddi, Pembrokeshire Coast Naitonal Park, Wales, UK Post ffotograffiaeth Arfordir ar Daith yn Abereiddi.

 

Codi sbwriel

Pan fyddwch chi’n mynd am dro, neu’n ymweld â thraeth, parc neu ardal bicnic gallech chi godi unrhyw sbwriel a welwch. Cadwch bâr o fenig a bag yn eich car neu sach gefn pan fyddwch chi allan.

Chwiliwch am fyrddau glanhau traeth 2 funud ar draethau lleol neu gallwch fenthyg offer codi sbwriel o Oriel y Parc neu ganolfan hamdden leol. I gael rhagor o wybodaeth am hybiau casglu sbwriel eraill yng Nghymru ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus (yn agor mewn ffenest newydd).

Mwy ar Wirfoddoli