Nanhyfer

Sir Benfro: Gwlad y Chwedlau

Erbyn hyn, mae Nanhyfer yn bentref tawel sy'n swatio ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ond mae ei orffennol canoloesol yn fyw o hyd drwy’r chwedlau am y castell a’r eglwys.

Yr Ywen Waedlyd

Pam fod gwaed coch trwchus yn diferu o’r goeden Ywen ym mynwent Nanhyfer? Pryd bydd yn stopio gwaedu?

Nevern Churchyard

Cynnen Teulol

The story of the lives, loves and bitter battles fought at Nevern Castle.

 

Sant Brynach

Dyn duwiol a wnaeth ei gartref yng Ngogledd Sir Benfro gyda chysylltiadau cadarn â Nanhyfer a Charn Ingli.

Yn ôl y chwedl roedd y sant o’r Iwerddon, Sant Brynach, yn ffrindiau â Dewi Sant. Ar ôl clywed pa mor boblogaidd roedd Dewi yn Sir Benfro, penderfynodd ddilyn yn ôl ei draed.

Felly cychwynnodd o’r Iwerddon, hwylio ar garreg i Lydaw ac yna mynd i Aberdaugleddau. Unwaith ar arfordir Cymru, fe
wnaeth ei ffordd ar draws y tir gan aros mewn gwahanol fannau.

Ond wnaeth e ddim setlo yn un ohonyn nhw hyd nes yn y diwedd arweiniodd breuddwyd ef i Nanhyfer.

Yno fe aeth at fan lle’r oedd frwd fechan yn ymuno â’r afon Nanhyfer. Ac i’r fan honno y daeth hwch wen a’i arwain ef i’r man lle’r oedd i setlo.

Ar ôl derbyn tir yn rhodd gan arweinydd lleol adeiladodd fan syml i addoli lle mae Eglwys Nanhyfer nawr yn sefyll.

Roedd Brynach yn ddyn duwiol ac unig. Roedd yn gyfarwydd â’i gwmni ei hun a dywedir iddo adeiladu cell syml iddo’i hun i fyny’n uchel ynghanol creigiau Carn Ingli, sy’n golygu Mynydd o Angylion.

Yma fe dreuliodd oriau lawer, weithiau diwrnodau, yn eistedd yn unig, yn gweddïo, myfyrio a chymuno â’r Angylion.

Dywedir fod ganddo bwerau arbennig gydag anifeiliaid, a’i fod yn gallu dofi hyd yn oed y ffyrnicaf a’r gwylltaf o greaduriaid.

Roedd ganddo ddau garw a dynnai ei gert, a blaidd dof a ofalai am ei hoff fuwch odro. Ei aderyn arbennig oedd y gog, a bob blwyddyn byddai’r gog yn dod i ganu yn Nanhyfer cyn mynd i unman arall yng Ngorllewin Cymru.

Pan fu Sant Brynach farw ar 7fed Ebrill fe’i casglwyd gan angylion o ben Carn Ingli ac oddi yno fe’i cludwyd i’r nefoedd. Mae’r diwrnod hwnnw y bu farw, 7fed Ebrill, yn parhau’n ddiwrnod o ddathlu fel ei ddydd gŵyl.