Enghreifftiau o brosiectau addysg

Mae addysgu plant a phobl ifanc am eu hamgylchedd, y bywyd gwyllt y mae'n ei gefnogi a sut y gallwn ni, trwy ein gweithredoedd, helpu i'w amddiffyn ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy (SDF) felly wedi cynorthwyo nifer o brosiectau blaengar a chyffrous, gan gynnwys y ddwy enghraifft ganlynol.

Sioe deithiol i ennyn Ymwybyddiaeth Ysgolion am Fywyd Gwyllt y Môr

Cyfraniad ariannol Cronfa SDF: £2,400

Daeth “Byd Tawel i Chi” â bywyd y môr i mewn i’r ystafell ddosbarth i roi profiad hudol o gyffwrdd a theimlo i blant ysgolion cynradd rhwng tair a saith oed. Roedd dod â phyllau trai i mewn i’r ysgolion yn gyfle i’r plant ymchwilio i fywyd glan y môr a chael blas ar yr hyn sydd i’w weld ar ein traethau lleol, heb orfod aros tan y tywydd braf na threfnu bysiau!

Grŵp Ardal Cadwraeth Morol Arbennig Sir Benfro sefydlodd y prosiect i ennyn ymwybyddiaeth o fywyd gwyllt lleol y môr, o Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro, ac i amlygu’r ffaith y gall defnyddio’r amgylchedd morol a’r glannau gerllaw gael effaith ar fywyd y môr sy’n bresennol yn y moroedd o gwmpas ein harfordir.

Cludwyd acwaria yn cynnwys bywyd gwyllt i’r ysgolion, a threfnwyd gweithdy i wneud gweithgareddau ymarferol. Hefyd paratowyd adnoddau atodol a phecyn gweithgareddau estynedig a’u gadael gyda’r athrawon yn yr ysgolion oedd yn cymryd rhan fel y gallent wneud y mwyaf o’r profiad. Hefyd gallai’r ysgolion fanteisio ar gael ymweliad dilynol gan fiolegydd morol lleol os dymunent.

Llwyddodd “Byd Tawel i Chi” i wneud pump ar hugain o sioeau teithiol ar fywyd morol. I lawer o blant, dyma oedd eu cysylltiad cyntaf agos â chreaduriaid y môr, oedd yn brofiad rhagorol iddynt. Roedd yr adborth a dderbyniwyd fel rhan o werthuso’r prosiect yn bositif iawn, ac roedd mwy o alw nag y gellid ei gyflawni am y rhaglen. Roedd yr ymgysylltu a’r rhwydweithio yn llwyddiant mawr i ennyn ymwybyddiaeth o fywyd gwyllt lleol, defnydd cynaliadwy o’r amgylchedd morol, llygredd a chadwraeth forol.

Beth nesaf?
Mae arian y gronfa SDF wedi galluogi’r prosiect hwn gael cychwyn da, a’r gobaith yw y bydd y llwyddiant cychwynnol hwn yn sicrhau y bydd y prosiect yn parhau. Efallai y bydd angen cael cyfraniad gan yr ysgolion i barhau i gynnal y sioeau teithiol hyn, fydd yn derbyn cymorth ariannol gan Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro.

Hermit crab in Silent World rockpool tank, Pembrokeshire Coast National Park, Wales, UK

Yn gall gyda gwastraff

Cyfraniad ariannol Cronfa SDF: £5,067

Mae Canolfan Darwin, sef elusen yn Sir Benfro, yn dod â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yn fyw drwy gynnal astudiaethau maes gwyddonol ac amgylcheddol a gweithdai dilynol. Mae’r gronfa SDF wedi cefnogi nifer o’u prosiectau, ond mae eu cymorth ariannol diweddaraf wedi’u galluogi i ddatblygu rhaglen newydd o’r enw ‘Yn gall gyda Gwastraff’, sy’n mynd i’r afael â materion gwastraff a’r hyn a wnawn gyda gwastraff.

Cyflawnwyd y prosiect mewn partneriaeth â Safle Tirlenwi a Chyfleusterau Ailgylchu Withyhedge, a thros ddwy flynedd mae’r rhaglen, oedd yn cynnwys ymweliad safle â’r cyfleuster tirlenwi ac ailgylchu a ddilynwyd gan weithdy rhyngweithiol, wedi’i chyflwyno i 16 o ysgolion cynradd a chwe grŵp cymunedol. Mae 363 o ddisgyblion a 98 o gyfranogwyr eraill wedi elwa o’r profiad.

“SITA” (Y Cwmni Ailgylchu a Rheoli Adnoddau ar safle Withyhedge) oedd yn arwain yr ymweliad safle, oedd yn gadael y plant a grwpiau eraill ag argraff arogleuol a gweledol go iawn o’u profiad! Roedd y cefndir hwn yn gyfrwng mwy ystyrlon o gyfleu negeseuon pwysig am leihau gwastraff, y pwysau ar dirlenwi a materion tirlenwi, gwaredu methan, didoli deunydd ailgylchu, problemau o ran deunydd plastig yn yr amgylchedd, a’r farchnad nwyddau ailgylchu.

I rai yr uchafbwynt oedd cyfarfod â Buster, yr Hebog Tramor, a ddefnyddir i gadw’r gwylanod draw.

Os nad oedd ymweld â’r safle tirlenwi ac ailgylchu yn bosibl, cynigiwyd teithiau maes yn seiliedig ar sbwriel fel dewis arall, oedd yn golygu casglu gwastraff plastig o’r amgylchedd glan y môr.

Yn y gweithdy dilynol, roedd disgyblion yn defnyddio llaeth a finegr i wneud eitem blastig eu hunain. Roedd hyn yn llwyddiannus iawn o ran helpu grwpiau i ddeall sut mae plastig yn cael ei wneud, ac os nad ydynt yn cael eu gwneud o gynhwysion megis llaeth a finegr, nid ydynt yn fioddiraddadwy.

Roedd gwerthuso ymhlith disgyblion, athrawon a grwpiau cymunedol yn dangos bod y prosiect yn llwyddiant o ran ennyn diddordeb, mwynhad a dealltwriaeth.

Beth nesaf?
Bydd y rhaglen newydd hon a’r fformat yn cael eu hymgorffori yn awr yn rhaglen graidd addysg Canolfan Darwin a gynigir i ysgolion ar hyd a lled y sir.