Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol

Cynllun Datblygu Lleol 2

Caeodd y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo ddydd Gwener 1 Mehefin 2018.

Mae’r Awdurdod wedi paratoi Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol sy’n rhoi manylion pellach am y broses o Ymgynghori ar y Strategaeth a Ffefrir, yn crynhoi’r prif faterion a godwyd gan yr ymgynghoriad, ac yn rhoi crynodebau o’r sylwadau ynghyd ag ymateb yr Awdurdod.

Mae’r Adroddiad yn rhoi crynodeb o’r sylwadau a dderbyniwyd ar y safleoedd ar y Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol ac ar y safleoedd newydd neu ddiwygiedig a dderbyniwyd. Hefyd mae ymateb yr Awdurdod wedi’i nodi.

Mae rhestr fanwl o’r sylwadau a dderbyniwyd ac ymateb yr Awdurdod i’r sylwadau hynny i’w gweld isod:

Cwestiwn 1: Y Strategaeth a Ffefrir

Cwestiwn 2: Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol

Cwestiwn 3: Arfarniad o Gynaliadwyedd

Cwestiwn 4: Asesiad Effaith Cydraddoldeb

Cliciwch y ddolen i weld asesiad llawn wedi’i ddiweddaru o’r Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol.

Cliciwch y ddolen i weld asesiad llawn yr Awdurdod o’r Safleoedd Newydd neu’r Safleoedd Diwygiedig.

Er bod yr Awdurdod wedi cofnodi ei farn ei hun ar y safleoedd amgen neu ddiwygiedig, os oes gan randdeiliaid farn ar y safleoedd hyn, rhaid cyflwyno’r farn honno fel rhan o’r ymgynghoriad Adneuo. Mae posibilrwydd i hyn newid drwy’r Archwiliad, a bydd angen i randdeiliaid fynegi eu barn ar y safleoedd amgen yn awr drwy ddefnyddio’r ffurflen sylwadau a ddarperir (Cynllun Adneuo).

Os oes angen y dogfennau hyn arnoch mewn fformat arall, h.y. testun hawdd ei ddarllen, testun mawr, sain, a fyddech gystal â chysylltu â info@pembrokeshirecoast.org.uk / 01646 624800.

Sut alla i gymryd rhan?

A fyddech gystal â chyflwyno eich sylwadau ar y Cynllun Adneuo erbyn y dyddiad cau a nodir ar frig y dudalen we hon.

Dylid anfon sylwadau yn ysgrifenedig at Bennaeth Cyfarwyddyd y Parc, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY neu gellir eu hanfon at devplans@pembrokeshirecoast.org.uk. Mae’r Arolygiaeth wedi darparu ffurflen sylwadau safonol i’w defnyddio.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd pob un o’r sylwadau a gyflwynir yn derbyn cydnabyddiaeth. Efallai y bydd angen i’r Awdurdod gysylltu â chi i drafod eich sylwadau ymhellach. Noder y bydd yr Awdurdod yn ystyried yr ymatebion a dderbynnir, a bydd yr Awdurdod yn barnu sut y dylid ymdrin â’r sylwadau drwy Archwiliad. Bydd yr ymatebwyr yn cael gwybod am y gwrandawiad archwilio a gynhelir.

Mwy am Gynllun Datblygu Lleol 2