Seintiau Sir Benfro

Yma, yn Sir Benfro, rydyn ni wedi cael ein bendithio â nifer o saint cynnar fel Dewi Sant, Sant Teilo, Sant Stinian, Sant Isan, Sant Brynach a Sant Caradog ac, yn eu sgil nhw, mae gennym dipyn go lew o chwedlau lliwgar.

  • Mae’n debyg fod Sant Stinian wedi cael ei lofruddio ar Ynys Dewi. Torrwyd ei ben. Ond, cododd ei ben i fyny a cherdded ar draws y tŵr i’r prif dir.
  • Tra bod Sant Gofan yn dianc rhag y morladron (arfer gyffredin yn y dyddiau hynny!), agorodd hollt yn y graig i’w guddio, ger y capel sy’n dwyn ei enw o hyd.
  • Roedd Brynach yn arfer ‘cyfathrebu â’r angylion’ ar ‘Mons Angelorum’ neu Garningli, Trefdraeth. Dywedir hefyd ei fod wedi dysgu siarad â’r anifeiliaid, gan berswadio dau hydd i dynnu ei gert a blaidd i ofalu am ei fuwch.
  • Oherwydd llifeiriant o law, fe fu’n rhaid gadael cynhebrwng angladd Caradog ar y ffordd i Dyddewi. Wedi i’r glaw ballu, roedd yr elor a’i helorlen o sidan yn hollol sych, medde nhw. Hyd yn oed pan gafodd ei gladdu yn Nhyddewi, gwrthododd Caradog adael i Gwilym o Malmesbury gymryd bys o’i gorff anllygredig.

Roedd dwy bererindod i Dyddewi gyfwerth ag un i Rufain

Cyflwynwyd Cristnogaeth i Gymru yn ystod y cyfnod Rhufeinig hwyr, ond ni chafodd ei harfer yn helaeth hyd nes y 5ed a’r 6ed ganrif. Daethpwyd i alw’r cyfnod hwn yn ‘Oes y Saint’ a dyma’r cyfnod pan ddaeth mynachod cenhadol o Iwerddon a’r Cyfandir i efengylu’r wlad.

Mae hanes y cyfnod hwn yn ddarniog, ond y ganolfan Gristnogol gynnar bwysig oedd Tyddewi. Ganed Dewi tua 530 OC yn St Nons yn ystod storom, a tharddodd ffynnon o’r creigiau – y ffynnon sanctaidd sydd wedi goroesi hyd heddiw. Roedd teulu Dewi o dras fonheddig ac ar ôl iddo dderbyn ei addysg, fe sefydlodd ei fynachlog yn Nhyddewi tua 550 OC.

Roedd rhai’n teimlo bod ei lywodraethu mynachaidd braidd yn llym: ‘Ef na weithia, ni chaiff fwyta’ ac roedd penyd y mynachod yn cynnwys eu gosod mewn dŵr oer, i fyny at eu gyddfau. Roedd gan fynachlog Dewi nifer fawr o ddilynwyr adeg ei farwolaeth ym 589, ond pan ganoneiddiwyd Dewi gan y Pab Callistus II tua 1120 (ar yr adeg hon archddyfarnwyd bod dwy bererindod i Dyddewi cyfwerth ag un i Rufain) parhaodd cysegrfa Dewi Sant i fod yn ganolfan bwysig ar gyfer pererindodau trwy gydol y cyfnod canoloesol.

Yn Ne Sir Benfro, roedd ardaloedd Ynys Bŷr a Phenalun yn ganolfannau pwysig ar gyfer Cristnogaeth gynnar, bron ar yr un adeg â Dewi Sant. Fe sefydlodd yr Abad Pyro fynachlog ar Ynys Bŷr ac yna daeth Sant Samson yn abad yn ei le tua 550-2. Ym Mhenalun, roedd yna fynachlog Geltaidd a dyma fan geni Sant Teilo yn y 6ed Ganrif.

Mae llawer o’r eglwysi ar draws y Parc Cenedlaethol wedi eu cysegru i saint a oedd yn gysylltiedig â mynachlog Dewi. Roedd Elfis, Gofan, Brynach a Madog oll yn saint o’r chweched ganrif, o dras Wyddelig, tra bod Stinian ac Isan o dras Lydewig fonheddig, ac wedi troi at Gristnogaeth. Mae’n ymddangos fod Isel, a’i dad, Teilo, yn frodorion a drodd at Gristnogaeth. Yr olaf o’r saint Celtaidd oedd Caradog (tua1124), a chredir mai ei esgyrn yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.