Adeiladau Rhestredig

Beth sy'n gwneud adeilad mor arbennig?

O dai crwn i ffermydd, cerrig milltir ac ambell i giosg ffôn, nid edrychiad adeilad yn unig sy'n gallu rhoi statws 'rhestredig' iddo.

O dai crwn i ffermydd, cerrig milltir ac ambell i giosg ffôn, nid edrychiad adeilad yn unig sy’n gallu rhoi statws ‘rhestredig’ iddo.

Rhestrir adeiladau ar sail eu haeddiant pensaernïol neu hanesyddol, a hefyd oherwydd eu gwerth grŵp, pwysigrwydd technegol neu gysylltiad â phobl a digwyddiadau pwysig.

Mae gennym ystod eang ac amrywiol o adeiladau rhestredig yn y Parc gan gynnwys tai gwledig mawr, eglwysi canoloesol, ffermydd, capeli, bythynnod, cerrig milltir a hyd yn oed ciosgau ffôn. Ein hadeilad rhestredig mwyaf modern yw’r Tŷ Crwn, Y Cwcwll, Tyddewi, a adeiladwyd yn 1965 yn y dull modernaidd gan y penseiri Sterling a Gowan.

Mae adeiladau rhestredig yn cael eu graddio yn ôl eu pwysigrwydd cymharol ar draws tri chategori: gradd I, gradd II* a gradd II. Mae adeiladau gradd I yn rhai o ansawdd eithriadol ac yn cynnwys cestyll canoloesol, eglwysi a thai gwledig mawr. Mae gennym 28 o adeiladau gradd I yn y Parc Cenedlaethol.

Mae adeiladau gradd II* yn rhai arbennig o bwysig ac yn cael eu disgrifio fel rhai ‘gyda mwy na chymeriad arbennig’ – er enghraifft tai bonedd neu gapeli pwysig ac mae 74 o’r adeiladau hyn yn y Parc Cenedlaethol.

Y trydydd chategori a’r mwyafrif llethol o adeiladau rhestredig yw rhai gradd II. Mae’r adeiladau hyn yn nodweddiadol o’n trefi a’n cefn gwlad ac wedi goroesi cael eu haddasu a’u moderneiddio. Fodd bynnag, mae gan bob un o’r graddau hyn yr un faint o warchodaeth gyfreithiol.

Mae rhestru hefyd yn cynnwys y tu mewn i adeiladau a’u cwrtil – yr ardal o gwmpas yr adeilad. Mae’r cwrtil yn cynnwys pob math o nodweddion sy’n bwysig i gymeriad yr adeilad rhestredig – gall gynnwys tai allan, strwythurau mewn gerddi ffurfiol, gatiau neu reilins. Mae’r cwrtil yn berthnasol i bob adeilad sy’n dyddio’n ôl cyn Gorffennaf 1948 ac yn ymwneud â gosodiad adeilad hefyd – yr amgylchoedd sy’n gwneud cyfraniad mor bwysig i’w gymeriad a’i arwyddocâd.

Mae ffitiadau, e.e. llefydd tân hanesyddol, drysau, cornisiau a grisiau hefyd yn rhan o’r rhestru, p’un ai y sonnir amdanynt yn y disgrifiad neu beidio.

Os ydych yn berchen ar neu’n rhedeg adeilad hanesyddol a / neu restredig, darllenwch y llawlyfr hwn i berchenogion a deiliaid adeiladau rhestredig. Rydym hefyd wedi cynhyrchu’r taflenni cyngor hyn:

Cofrestr Adeiladau Rhestredig

Cliciwch yr eiconau ar y map isod i weld manylion adeiladau rhestredig yn Sir Benfro.

Mwy o gwybodaeth

Os hoffech dderbyn mwy o gyngor cysylltwch â ni. I weld yr adeiladau rhestredig sydd yn y Parc, edrychwch ar y map neu ewch i www.britishlistedbuildings.co.uk.