Gweithgareddau Awyr Agored

RHOWCH GYNNIG ARNI

Mae Arfordir Penfro yn cynnig anturiaethau o bob math i bawb, o chwaraeon dŵr egnïol i deithiau cerdded hamddenol a gwylio bywyd gwyllt.

P’un ai a ydych yn ddechreuwr llwyr neu’n broffesiynol fedrus, mae’r dyfroedd glân, ymchwydd yr Iwerydd, awel y môr a’r baeau sy’n wynebu i bob cyfeiriad yn cynnig maes chwarae antur bron ym mhob tywydd.

Ar y tir, mae cannoedd o filltiroedd o lwybrau i’w darganfod drwy fynd am dro, gan gynnwys Llwybr Arfordir Sir Benfro sy’n ymestyn am 186 o filltiroedd drwy dirwedd hardd.