Astudiaethau Achos Gwirfoddoli

Beth mae gwirfoddoli'n ei olygu i mi?

Os ydych chi'n ystyried gwirfoddoli i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ond eich bod yn ansicr ynglŷn â pha swydd fyddai orau i chi, darllenwch rai o'r sylwadau hyn gan bobl sydd wedi mwynhau helpu mewn gwahanol swyddi.

Gwirfoddolwr Gweithgareddau

Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at fy nigwyddiadau gwirfoddoli yn Oriel y Parc ac yn yr ardal o amgylch Tyddewi. Rwyf yn gwybod y byddaf yn treulio amser gyda phobl hapus a phositif ac y bydd yn ddigwyddiad tîm go iawn. Mae yno wastad rywbeth newydd i’w ddysgu naill ai am y digwyddiad neu gan y cyfranogwyr. Wrth siarad gyda chyfranogwyr am y lle a’r iaith rwyf yn falch o’r gwaith rwyf yn ei wneud ac mae’n fy ngwneud yn hapus.

Gwirfoddolwr Gweithgareddau

Mae cerdded gyda grwpiau yn fuddiol yn gorfforol ac yn feddyliol. Fel gwirfoddolwr mae’n fraint cael cynnig y manteision hyn i bobl eraill wrth gyfarfod pobl newydd a rhannu harddwch anhygoel Sir Benfro.

Warden Gwirfoddol

Roeddwn i’n ddigon ffodus i ymddeol yn gymharol ifanc, ac yn weddol heini, a chefais fy ysgogi i wirfoddoli fel Warden gyda’n Parc Cenedlaethol ar ôl dychwelyd i Sir Benfro ar ôl 32 o flynyddoedd.

Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth yn yr awyr agored, a oedd yn weddol gorfforol a gan fy mod yn hoff iawn o Lwybr yr Arfordir ac o gerdded roeddwn i’n meddwl y byddai’r ddau beth yn cyd-fynd yn dda.

Dywedodd fy Mharcmon lleol y gallai’r gwaith fod yn therapiwtig ac y gallai fy ysbrydoli ac y byddwn i’n cael gweld rhannau o Sir Benfro sydd ddim yn agored i’r cyhoedd. Roedd ei disgrifiad hi’n hollol gywir.

Dair blynedd yn ddiweddarach, rwyf yn gweithio gyda dau griw o Barcmyn yng ngogledd Sir Benfro, ac yn helpu gyda rhaglen ddigwyddiadau Awdurdod y Parc. Rwyf yn mynd ar bob cwrs hyfforddi y galla i, ac erbyn hyn rwyf yn gymwys i ddefnyddio peiriant strimio yn gyhoeddus.  Rwyf hefyd wedi cofrestru ar y rhaglen ‘Llwybrau’ sef rhaglen arbennig sydd gan yr Awdurdod.

Y peth gorau yn fy marn i yw’r amrywiaeth o dasgau, gallech chi fod yn cynnal arolwg o ddraenogod ar ben Mynyddoedd y Preseli un diwrnod ac yna’n gweithio gyda staff llawn amser yn datgymalu tŷ crwn ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys rhyw ddiwrnod arall, gyda’r peiriannau arbenigol a’r gwaith tîm sydd eu hangen i wneud hynny, neu yn helpu Parcmon gyda digwyddiad Crefftau’r Gwyllt i blant o dan ddeg yng nghoedwig Pentre Ifan.

Fyddwch chi ddim angen aelodaeth o gampfa os gwnewch chi gofrestru fel Warden! Byddwch yn cyfarfod pobl eraill o’r un anian â chi o bob sector cymdeithasol a chyflogaeth, ond byddwch yn canfod fod gennych chi un peth yn gyffredin, sef awydd pendant i helpu Parcmyn a staff y Parc Cenedlaethol sy’n frwd dros ein Parc Cenedlaethol ac sy’n haeddu ac yn gwerthfawrogi ein cymorth gyda’u hymdrechion.

n

Warden Gwirfoddol

Dyma’r unfed flwyddyn ar ddeg i mi gynnal arolygon llwybrau troed teithiau gwe i Reolwr Wardeiniaid yr Awdurdod, Phill Lees, sy’n cynnwys pob un o’r teithiau gwe (sydd wedi’u rhestru ar wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethol) o Wdig i Aberdaugleddau, pellter o 200 milltir a mwy. Fy swydd i yw cadw golwg ac adrodd yn ôl ar yr holl lwybrau os oes rhwystrau, arwyddion neu broblemau posib eraill fel camfeydd a chlwydi sydd angen sylw.

Pan symudais i Sir Benfro 12 mlynedd yn ôl, gweithiais am ddwy flynedd yn Oriel y Parc. Roeddwn i wedi bod yn gwneud gwaith tebyg fel Swyddog Llwybrau Troed i Gyngor Swydd Amwythig felly roedd gen i sgiliau trosglwyddadwy y gellid eu defnyddio yma. Roedd yn ffordd wych o grwydro’r rhan yma o Sir Benfro a dod i adnabod yr ardal. Rwyf wedi ymddeol erbyn hyn a gan fod gen i gi, mae’n ffordd dda i’r ddau ohonom ni gadw’n heini, er fy mod yn arafu rhyw ychydig!

Mae Phil wastad yn dweud bod fy ngwaith yn gymorth mawr iddo, yn rheoli ei dimau ac yn cadw hawliau tramwy yn agored ac mewn cyflwr da gan nad oes gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ddigon o staff i wneud y gwaith. Mae hefyd yn gallu canfod lle’n union y mae angen i’w dimau weithio.

Gyda chytundeb Phil, rwyf wedi ymestyn y cyfnod arolwg o tua mis Mehefin i fis Hydref pob blwyddyn er mwyn i mi gael mwy o amser i wneud y gwaith.

Rod Williams from the Friends of Oriel y Parc, St Davids, Pembrokeshire Coast National Park, Wales, UK

Gwirfoddolwr Oriel – Oriel y Parc

Rwyf yn gyfarwydd ag Oriel y Parc ers iddi agor. Rwyf wastad yn canfod rhywbeth o ddiddordeb yno, yn enwedig yn yr Oriel.

Fel aelod o Grŵp Celf Tyddewi a Solfach rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r arddangosfeydd rydym wedi’u cynnal yno ac un diwrnod gwelais fod angen gwirfoddolwyr ar gyfer rhai o weithgareddau’r Parc Cenedlaethol felly gofynnais a allwn i helpu. ‘Gallwch’ oedd yr ateb.

Rwyf nawr yn stiwardio yn yr oriel, am sesiwn o awr ar y tro, yn gwneud yn siŵr bod yr arddangosfeydd yn ddiogel.

Rwyf hefyd wedi sylweddoli bod rhai pobl yn hoffi gofyn cwestiynau ac rwyf yn gwneud fy ngorau i’w hateb gan ddweud fod taith dywys yn cael ei chynnal ar fore dydd Mawrth gan Rod Williams o Ffrindiau Oriel y Parc, ac y gallai honno fod o ddiddordeb iddyn nhw.

Rwyf yn edrych ymlaen at fynd i stiwardio; mae’r staff llawn-amser mor gyfeillgar a pharod i helpu. Rhaid i mi ychwanegu fy mod yn bensiynwr sy’n hoffi cyfarfod pobl.

Mwy ar Wirfoddoli