Ble bynnag mae pobl yn mynd, rydym yn gadael ein hôl ar yr amgylchedd. Doedd y bobl oedd yn byw yng ngogledd Sir Benfro ddim yn eithriad. Gadawsant eu hôl ar y dirwedd fel cliwiau i ni greu darlun o’u bywydau a’u storïau.

Ewch ychydig bach pellach na Chastell Henllys a chewch barhau ar eich taith o amgylch safleoedd cynhanes Sir Benfro.

Gelwir y dirwedd arw hon lle saif Castell Henllys yn Wlad Hud a Lledrith.

Mae saith safle cynhanes pwysig yn y rhan hon o’r Parc Cenedlaethol sy’n dangos i ni cymaint o gysylltiad oedd gan y Celtiaid â’r tir hwn.

Yng Nghanolfan Ymwelwyr Castell Henllys, edrychwch am wybodaeth am y safleoedd arbennig hyn, yna dilynwch hanes Sir Benfro yn y cyfnod cynhanes drwy ymweld â’r safleoedd.

Y safleoedd yw:

  • Crugiau Cemaes – Safle claddu o’r Oes Efydd ac anheddiad o’r Oes Haearn
  • Carreg Coetan Arthur – Cromlech Neolithig
  • Dinas Mawr – Caer o’r Oes Haearn (swyddogaeth anhysbys)
  • Pentre Ifan – Cromlech Neolithig
  • Foel Drygarn –  Tair tomen gladdu o’r Oes Efydd ac anheddiad o’r Oes Haearn
  • Carn Meini – Creigiau dolerit, a elwir yn gerrig gleision
  • Gors Fawr – Cylch cerrig, wedi’i godi dros 4,000 o flynyddoedd yn ôl.
A map of seven prehistori sites in the Castell Henllys area