Mae Castell Henllys bellach wedi cau am y gaeaf.
Bydd y caffi yn aros ar agor. Ewch i dudalen Facebook Caffi'r Caban i gael amseroedd agor a diweddariadau.
Rydym dal yn gallu derbyn archebion oddi wrth grwpiau ac ysgolion.
I wneud ymholiad ynglŷn ag archebu ar gyfer grŵp neu ysgol, cysylltwch â ni drwy e-bostio ymholiadau@castellhenllys.com.
Castell Henllys yw’r unig le y gallwch gerdded ymhlith y tai crwn o’r Oes Haearn sydd wedi’u hailadeiladu yn y fan a’r lle y byddent wedi sefyll 2,000 o flynyddoedd yn ôl.
Bob blwyddyn – ers dros 20 mlynedd – mae tua 6,000 o blant wedi ymweld â Chastell Henllys i weld, arogli a chyffwrdd bywyd mewn pentref o’r Oes Haearn, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau a chwarae rôl.
Cyhoeddir dyddiadau ac amseroedd agor ar gyfer 2021 yma maes o law.
Polisi Cwcis (Cookies)
I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i ‘ganiatáu pob cwci’. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi cwcis a’n polisi preifatrwydd.