Dyfrgwn a Chynllunio

Creadur lled-acwatig yw'r dyfrgi sy'n byw'n bennaf ar hyd afonydd. Mae'n greadur eithaf swil ac unig ac yn fwy effro yn y gwyll ac wedi nos. Mae niferoedd dyfrgwn wedi gostwng yn ddifrifol, yn rhannol oherwydd colli cynefin ac ansawdd gwael y dŵr, ond o ganlyniad i fesurau cadwraeth mae eu niferoedd bellach ar gynnydd.

Mae’r dyfrgi’n dal i fod mewn perygl ac felly’n Rhywogaeth a Warchodir o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (wedi’i diwygio). Mae’n drosedd dal, lladd, anafu neu aflonyddu ar ddyfrgi na gwneud difrod neu ddinistrio safle magu neu orffwysfa dyfrgi.

Ceisiadau Cynllunio ac Arolygon

Wrth benderfynu cais cynllunio, bydd presenoldeb dyfrgwn fel Rhywogaeth a Warchodir (PS) yn ystyriaeth berthnasol os yw’r datblygiad yn debygol o achosi aflonyddwch neu niwed i’r rhywogaeth. Bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried effaith bosib y datblygiad ar y rhywogaeth ar sail gwybodaeth sy’n cael ei chyflwyno gan yr ymgeisydd i gefnogi eu cais.

Os oes tystiolaeth fod dyfrgwn ar neu gerllaw safle’r datblygiad, bydd angen arolwg dyfrgwn i gyd-fynd ag unrhyw gais cynllunio a gyflwynir.  Gall yr arolwg gadarnhau a oes dyfrgwn yn bresennol ac argymell mesurau lliniaru i warchod y dyfrgwn ac i leihau neu ddileu effaith y datblygiad. Dylid cyflwyno’r adroddiad hwn, ynghyd â chynlluniau’n dangos y mesurau lliniaru, ar yr un pryd ag y cyflwynir y cais cynllunio.

Dyfrgwn fel nodwedd o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)

Mae cynllun rheoli Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afonydd Cleddau, ACA Morol Sir ac ACA Safleoedd Ystlumod Sir Benfro a Llynnoedd Bosherston yn rhestru dyfrgwn fel nodwedd gymwys.  O ganlyniad os yw safle datblygu’n agos at unrhyw un o’r ardaloedd ACA hyn, neu wedi eu cysylltu drwy gwrs dŵr, efallai y bydd angen mwy o wybodaeth i asesu effaith y datblygiad ar y rhywogaeth. Am fwy o wybodaeth ewch i Safleoedd a Warchodir neu cysylltwch â’r Ecolegydd Cynllunio.

 

European otter on river bank

Trwyddedu

Os oes gennych ddatblygiad neu weithgaredd mewn golwg fydd yn effeithio ar unrhyw Rywogaeth arall a Warchodir Gan Ewrop, mae’n debyg y bydd angen trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) arnoch. Os oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad, rhaid ei gael cyn i chi gael y drwydded.

Unwaith y cewch ganiatâd, cyfrifoldeb yr ymgeisydd wedyn yw gwneud cais am drwydded – rhoddir mwy o fanylion drwy chwilio o dan ‘Trwydded ar gyfer Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop’ ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cysylltwch â'n Hecolegydd

Dylid anfon unrhyw ymholiad am rywogaethau a safleoedd a warchodir at yr Ecolegydd Cynllunio drwy ffonio 01646 624800 neu ebostio dc@pembrokeshirecoast.org.uk.