Cynllunio (Gwasanaeth Rheoli Datblygu): Newidiadau i’r gwasanaeth cynllunio yn sgil Covid-19
Mae Covid-19 wedi cael effaith ar y modd y mae’r Awdurdod Parc Cenedlaethol wedi gallu cynnal ei fusnes.
Mae gwasanaeth Rheoli Datblygu yr Awdurdod wedi parhau i weithredu’n ymarferol yn ystod cyfyngiadau’r Coronafeirws. Mae ein gwefan yn gweithredu fel arfer gyda mynediad at agendâu, dogfennau a chofnodion y Pwyllgor Rheoli Datblygu, ynghyd â mynediad arferol i’r cyhoedd at fanylion ceisiadau cynllunio.
Bydd pencadlys Parc Llanion Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ailagor i aelodau’r cyhoedd ar sail apwyntiadau yn unig ddydd Mercher 2 Medi.
O 1 Medi 2020 a hyd nes y rhoddir gwybodaeth bellach, ni fyddwn yn gallu cynnig cyngor cynllunio dros y ffôn na drwy’r e-bost, ac ni chynhelir cymorthfeydd cynllunio am y tro. Gwneir hyn i alluogi swyddogion i glirio’r ceisiadau cynllunio a cheisiadau cyn ymgeisio sydd eisoes wedi dod i law o ganlyniad i faterion Covid-19 a TG.
Bydd cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygiad yn cael eu cynnal dros y we a gellir eu gweld drwy ffrwd fideo byw. Mae manylion am sut i’w gwylio ar y wefan.
Nid oes gan staff fynediad i’r swyddfeydd ar hyn o bryd. O ganlyniad, bydd hysbysiadau safle yn cael eu defnyddio fel y prif fath o hysbysebu ar gyfer pob cais yn ystod y cyfnod hwn, yn hytrach na llythyrau uniongyrchol i eiddo cyfagos. Gallwch hefyd weld y rhestrau wythnosol o geisiadau sydd wedi’u cofrestru a’u penderfynu ar-lein.
Gobeithio eich bod yn deall bod y newidiadau hyn yn anorfod oherwydd yr amseroedd digynsail a wynebwn ar hyn o bryd. Gwerthfawrogir yn fawr eich amynedd a’ch dealltwriaeth.
Croeso i dudalennau cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yr Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer ardal y Parc Cenedlaethol.
Mae yma wybodaeth am geisiadau, ffurflenni, cyngor ac unrhyw beth i’w wneud â chynllunio ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Chwilio Ceisiadau
Chwiliwch am geisiadau yn eich ardal a rhoi eich barn am gynigion presennol.
Cyflwyno Cais Cynllunio
Lawrlwythiwch ffurflen gais neu wnewch cais ar-lein drwy’r Porth Cynllunio.
Cyngor Cynllunio
Gwybodaeth gefndir a chanllawiau ar y broses gynllunio.
Oeddech chi'n gwybod?
Wyddoch chi? Yn 2018-19 penderfynodd yr Awdurdod 500 o geisiadau cynllunio, pob un yn cymryd 69 diwrnod ar gyfartaledd, sef wythnos yn gynt na’r amser cyfartalog ar draws Cymru.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn un o lofnodwyr Siarter Creu Lleoedd Cymru.
Lawrlwythiadau Cynllunio
Cliciwch y dolenni isod i lawr lwytho dogfennau cynllunio allweddol.