Beth ydym ni’n ei wneud

Gwasanaethau Awdurdod y Parc Cenedlaethol

Yn wahanol i Barciau Cenedlaethol mewn gwledydd fel America neu Awstralia sydd, i raddau helaeth, yn dir diffaith, mae’r tir ym Mharciau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig yn eiddo preifat yn bennaf, ac yn gartref i lawer o gymunedau.

Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol y dasg ddeublyg o ofalu am yr hyn sy’n arbennig yn y Parc a helpu pobl i fwynhau cymeriad y lle, a’i ddeall.

Mae’r Awdurdod hefyd yn gyfrifol am amrywiaeth eang o swyddogaethau yn ei waith o warchod a gwella’r Parc Cenedlaethol.

Mae’r rhain yn cynnwys:

Mae gennym dimau amrywiol sydd wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaethau gorau posib ar gyfer y Parc, yr ymwelydd a’r preswylydd.

Wooden footpath sign with Solva Harbour in background

Atyniadau

Mae’r Awdurdod yn berchen ar atyniadau poblogaidd amrywiol yn y Parc, ac yn eu rheoli. I ddarganfod mwy am bob atyniad, rhowch glic ar y dolenni isod:

Tir

Rydyn ni’n rheoli tua 40 o feysydd parcio ac ardaloedd parcio. Rydyn ni’n codi tâl ar 14 o’r rhain ac yn defnyddio’r incwm i’n helpu ni i gynnal a chadw’r meysydd parcio ac unrhyw draethau a blaenlaniadau cyfagos.

Mewn llawer o achosion, crëwyd y meysydd parcio i helpu diogelu cynefinoedd gerllaw. Er enghraifft, ym Maenorbŷr, cyn adeiladu’r maes parcio, roedd y ceir yn parcio ar ardaloedd y twyni tywod. Yn Sain Gofan, roedd ceir yn parcio ar frig y clogwyn ac roedd modd eu gweld am filltiroedd ar hyd yr arfordir ac roedden nhw’n erydu glaswelltir calchfaen gwerthfawr.

Yng Nghwm Gwaun, rydyn ni’n berchen ar tua 250 hectar o goetir, ac yn ei reoli. Caffaelwyd peth ohono i’w warchod rhag cael ei newid o goed derw brodorol i blanhigfa goniffer yn y 1960au, a chliriwyd y conifferau o beth ohono a’i ailblannu gyda rhywogaethau brodorol yn y deng mlynedd diwethaf. Dynodwyd llawer o’r ardal yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Ewropeaidd i gydnabod ei werth wrth warchod natur.

Rydyn ni hefyd yn rhoi un bys troed yn y dŵr trwy brydlesu llawer o flaendraeth y parc gan ystâd y Goron. Mae’r Awdurdod yn prydlesu tua 200 milltir o dir rhwng y marc dŵr isel cymedrig a’r marc dŵr uchel cymedrig o Bwynt Giltar i Draeth Poppit.

I ddarganfod mwy, edrychwch ar ein tudalen Gwarchodaeth.

National Park Authority Warden using machine on Coast Path near Marloes Sands

Llwybrau

Rydyn ni’n rheoli Llwybr Arfordir Penfro, yr unig Lwybr Cenedlaethol sy’n cael ei rheoli’n gyfan gwbl gan Awdurdod Parc Cenedlaethol. Mae’n ymlwybro o amgylch yr arfordir cyfan ac yn rhoi profiad heb ei ail o’r Parc Cenedlaethol. Yn wir, dylai troedio’r Llwybr Cenedlaethol fyd yn rhan o unrhyw ymweliad.

Mae bron i 99% o’r parc yn eiddo preifat, ac felly mae llawer o’r mynediad i’r cyhoedd ar hyd llwybrau cerdded a llwybrau ceffylau, ac mae’r Parc Cenedlaethol yn rheoli tua 500 milltir o lwybrau. Y ffordd orau o archwilio’r rhain yw defnyddio’r teithiau cylch ar y we. Mae’r llwybrau hyn yn cael blaenoriaeth uwch pan fyddwn ni’n gwneud gwaith cynnal a chadw ac maen nhw’n cynnig profiad amrywiol o’r gorau o’r Parc Cenedlaethol.

Mae Mynyddoedd y Preseli, Carn Ingli a chomin Tyddewi yn rhan o’n Cefn Gwlad Agored ble mae gan y cerddwr yr hawl i archwilio oddi ar y llwybrau. Ond, hyd yn oed yn yr ardaloedd hyn, mae’r tir yn dal i fod yn eiddo preifat ac yn cael ei ffermio’n breifat, ac felly mae angen defnyddio’r hawl hwn yn ystyriol. Mae gennym 5712 hectar o dir Mynediad sy’n cynnwys 4524 hectar o dir comin a 1188 hectar o gefn gwlad agored sy’n cynnwys gweundir a rhos yn bennaf.

Rôl Cyrff Eraill

Mae’n bwysig pwysleisio bod cyrff eraill yn chwarae rhan bwysig hefyd wrth reoli tir a chyfleusterau ar gyfer y gymuned leol a’r ymwelydd.

Y Cyngor Sir sy’n rheoli casgliadau sbwriel, diogelwch ar y traeth, ansawdd dŵr a thoiledau cyhoeddus ar draws Sir Benfro, ac mae hefyd yn rheoli’r system gwobrwyo traethau yn ogystal â’r hawliau tramwy tu allan i’r parc.

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n berchen ar bron i 25% o hyd arfordir Sir Benfro ac yn rheoli’r tir at ddibenion sy’n mynd law yn llaw gyda dibenion y Parc Cenedlaethol.

Perchennog tir pwysig arall yw’r Weinyddiaeth Amddiffyn ac er bod eu tir, yn bennaf, yn eiddo sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant milwrol, rydyn ni’n gweithio’n agos gyda nhw i sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer cadwraeth a mynediad yn cael eu defnyddio i’r eithaf.

Darganfyddwch fwy am y Parc Cenedlaethol