Mae modd i chi yn awr weld Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro ar eich cyfrifiadur, eich ffôn symudol neu eich dyfais symudol, gan fod y llwybr cerdded byd-enwog wedi cael ei ychwanegu at Google Street View.

Rhoddodd Google fenthyg un o’i gamerâu Google Trekker, y gellir ei gario ar eich cefn, i Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ystod 2016, gan ei gwneud yn bosibl i ffilmio golygfeydd arfordirol godidog Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.


Mae Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro wedi cael ei ychwanegu at Google Street View.

Roedd y gwaith yn gofyn am wneuthurwyr ffilmiau heini, gan fod y camera a’r offer yn pwyso 25kg, sef tua’r un fath â sach o datws. Yn ffodus, roedd dau o Wardeiniaid Awdurdod y Parc yn barod am yr her, gydag Alex Payne ac Ainsley Corp yn cyfnewid eu peiriannau torri gwair a’u strimwyr am y Trekker i ffilmio Llwybr yr Arfordir.

Google Trekker at Amroth

Dywedodd Anthony Richards, Rheolwr Mynediad a Hawliau Tramwy Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Un o’r prif heriau oedd dod o hyd i ddigon o ddiwrnodau sych, golau a heulog i ffilmio. Roedd yn rhaid i bawb ohonom fod yn hyblyg a mynd ati ar fyr rybudd, gan achub ar bob diwrnod braf i ffilmio. Yn y diwedd cymerodd y gwaith 28 o ddiwrnodau, rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, ond mae’n werth yr ymdrech gan ei fod yn dangos y Parc Cenedlaethol ar ei orau un.

“Mae Llwybr yr Arfordir yn asgwrn cefn i ddwsinau o deithiau cerdded cylchol, sy’n cael eu hyrwyddo ar wefan y Parc Cenedlaethol; bydd yn caniatáu i bobl gael golwg ymlaen llaw ar y daith i weld a fydd yn addas ar eu cyfer o ran ei thirwedd a’i chlogwyni. Gallwch hefyd sgrolio i fwynhau’r golygfeydd o dirnodau eiconig, fel Pont Werdd Cymru, neu rai o’r rhannau mwy anghysbell a llai adnabyddus o’r arfordir.”

Mae’r ffilm ar-lein o Arfordir Penfro yn awr yn ymuno â thirweddau eiconig fel y Grand Canyon, a’r gobaith yw y bydd yn helpu i hyrwyddo Sir Benfro fel cyrchfan ar gyfer ymwelwyr o bob cwr o’r byd.

Dechrau Street View ar y pen gogleddol

Llandudoch (Cyfiernod Grid: SN163468)

Dechrau Street View ar y pen deheuol

Llanrath (Cyfiernod Grid: SN17270724)

Darganfyddwch fwy am Lwybr yr Arfordir