Mae Ystafell Tyddewi yn arddangos paentiadau, printiau ac ysgythriadau gan artistiaid a chrefftwyr Sir Benfro neu’r rhai sydd wedi’u hysbrydoli gan dirwedd yr ardal.

I wneud cais am arddangosfa, anfonwch e-bost atom am ragor o wybodaeth.

Cysgod Hunan: Breuder a Gobaith gan Heather Bennett a Philip Clarke

Dydd Gwener 20 Medi i ddydd Sul 3 Tachwedd 2024

Yn y drydedd bennod hon o Cysgod Hunan, mae ffotograffwyr lleol Philip Clarke a Heather Bennett yn archwilio ac yn dehongli byd heddiw. Mae’r ddau ffotograffydd yn ymddiddori’n fawr mewn delweddau, geiriau, a’r sylfaen emosiynol i ddynoliaeth.

Darganfyddwch fwy am Oriel y Parc