Yn aml, fe glywch chi bobl yn dweud bod bryniau clegyrog ynysig fel Carn Llidi a Phenberi, ger y Porth Mawr, neu Garn Fawr ar Ben-caer, yn olion hen losgfynyddoedd wedi eu herydu.
Er bod yna beth gwirionedd yn y datganiadau hyn – fe ymffurfiodd y creigiau pan oerodd y graig dawdd a chrisialu – nid oes unrhyw berthynas rhwng ffurf y bryniau hyn, a’r math o graig, a llosgfynyddoedd.
Yn wreiddiol, magma wedi oeri a chrisialu ar ddyfnderoedd amrywiol, o fewn trwch sylweddol o fwd a lludw a oedd yn ymgasglu mewn basn dwfn ar lawr y môr, oedd y creigiau mawr hyn a welir yn y Parc Cenedlaethol.
Yn wir, mae’r bryn uchaf ar Ynys Dewi, Carn Llundain, yn edrych fel llosgfynydd, ond fe fyddwch chi’n siomedig iawn os ydych chi’n disgwyl dod o hyd i grater yn mygu ar y copa (peidiwch â phoeni, mae’n bosib mai’r olygfa o’r fan hon yw’r olygfa orau yn Sir Benfro!).
Gan fwyaf, mae’r haenau goleddol o greigiau sy’n gorwedd o dan y bryn hwn yn groniadau trwchus o ludw a darnau mwy sydd wedi crynhoi ar wely’r môr yn ystod ffrwydradau ffyrnig iawn o dan y dŵr. Felly, nid yw’n llosgfynydd o gwbl!
Llosgfynyddoedd?
Felly, nid ydynt yn olion hen losgfynyddoedd. Maen nhw’n fewnwthiadau igneaidd – yn bennaf, siliau a ffurfiwyd wrth i graig dawdd wthio a thoddi ei ffordd rhwng haenau eraill – sydd wedi cael eu dinoethi ers hynny gan y tywydd ac erydiad.
Arweiniodd proses oeri araf y magmâu, a oedd yn rhai sylfaenol yn bennaf, at ddatblygiad crisialau mawr, ac ni fuasai hyn i’w weld mewn craig a ffurfiwyd wrth i lafa arllwys allan.
Symudiad Cyfandirol
eth pwysig arall i’w ystyried yw’r ffaith fod y creigiau hyn wedi cael eu ffurfio tua 470 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ac mewn lleoliad y gellir ei gymharu at safle presennol Penrhyn yr Antarctig. Bryd hynny, nid oedd cyfluniad cyfandiroedd yn debyg o gwbl i’r hyn a welwn ni heddiw.
Mae’r creigiau hyn wedi cyrraedd eu safle presennol (tua 9,000 milltir o’r man lle y dechreuwyd eu taith) trwy broses a elwir yn drifft cyfandirol (symudiad y ‘platiau’ sy’n ffurfio cramen y Ddaear). Yr hyn a welwn ni heddiw yw darn bach o lawr cyfandir hynafol sydd wedi ffitio i mewn i’r brithwaith o greigiau a adwaenir heddiw fel Sir Benfro.
Yn ystod yr amser hwn, mae yna ddigon o dystiolaeth o weithgarwch folcanig hefyd, ond fe ddigwyddodd fel ffrwydradau tanfor, gan fwyaf, er, bob hyn a hyn, efallai y crynhodd digon o ddefnydd i ffurfio ynys folcanig.
Lafa Clustog
Mae llawer o’r ardal o amgylch Pen Caer wedi ei wneud o lafâu clustog. Ffrwydrai’r basaltau hyn yn weddol oddefgar mewn dŵr dwfn.
Felly, er bod tirwedd drawiadol Sir Benfro yn ganlyniad i weithgarwch folcanig, ni allwn ni ddweud am eiliad fod gennym losgfynyddoedd a chraterau o’r math a welir ar ynys Tracey.
Ond, diolch i’r gweithgarwch folcanig, mae gennym dirwedd ddaearegol gyfoethog sydd yr un mor gyffrous a dramatig ag unrhyw bennod o Thunderbirds!