Mae Diwrnodau Darganfod Cynefin yn cynnig gyfleoedd i ddysgwyr archwilio eu tirwedd, cynefinoedd a threftadaeth.
Maent yn brofiadu aml-ddisgyblaeth, sy’n cysylltu’r profiadau dysgu â’r canlynol:
- gweithgareddau gwyddoniaeth, llythrennedd a rhifedd
- ymateb creadigol
- mwynhad ystyriol o fanteision iechyd a lles bod yn rhan o’r dirwedd.
Bydd Diwrnodau Darganfod Cynefin yn cael eu cynnal mewn lleoliadau amrywiol gyda Pharcmyn a Staff ein Canolfannau drwy gydol y flwyddyn. Mae’r rhaglen ysgolion ar gael i bawb. Holwch ni am offer, cyfleusterau a lleoliadau addas.
Ffioedd archebu
Ar gyfer 2023-2024 caiff y teithiau hyn eu cefnogi’n hael gyda chyllid gan Ffrindiau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. I ddarganfod a yw eich ysgol yn gymwys, ewch i’n tudalen Cyllid ar gyfer Diwrnodau Darganfod Cynefin.
- Hanner diwrnod: £3.50 y disgybl
- Diwrnod llawn: £6 y disgybl
Mae isafswm ffi archebu o £75 ar gyfer archebion gan ysgolion.
Cysylltu â ni
Am fwy o fanylion neu i drefnu eich ymweliad e-bostiwch ein Tîm Darganfod or call 01646 624853.
Cysylltu â ni
Am fwy o fanylion neu i drefnu eich ymweliad e-bostiwch ein Tîm Darganfod neu ffoniwch 01646 624853.