Cyllid gan y ffrindiau ar gyfer Diwrnodau Darganfod Cynefin

Mae cefnogaeth gan Gyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn galluogi mwy o ysgolion i gael y cyfle i ymweld â’r Parc Cenedlaethol i ddysgu.

Mae Cyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (agor mewn ffenestr newydd) yn elusen leol a sefydlwyd ym 1991. Maen nhw’n helpu i ddiogelu, cadw a gwella Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro .Mae’r Cyfeillion yn gweithio i gynyddu dealltwriaeth pobl ifanc o gadwraeth a datblygu cynaliadwy yn y Parc Cenedlaethol. Mae’r grŵp yn dymuno gweld dysgwyr yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gael dysgu mwy am y Parc Cenedlaethol fel rhan o brofiad sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm.

Beth sy’n cael ei gynnig?

Mae Tîm Addysg Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi cael cyllid gan y Cyfeillion. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i leihau cost archebu’r gweithgareddau sydd wedi’u cynnwys yn Rhaglen Addysg Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Bydd y cyllid yn talu am y gost archebu (£4.50 y plentyn am ddiwrnod ar hyn o bryd) ar gyfer amrywiaeth o Ddiwrnodau Darganfod Cynefin sydd ar gael yn y Rhaglen Ysgolion.

Y cyfan byddwch chi angen ei wneud yw trefnu’r drafnidiaeth a chytuno i rannu eich gwaith da.

Ydy’ch ysgol chi’n gymwys?

Gallwn ni gymryd archebion ar gyfer grwpiau yn ystod y flwyddyn academaidd hon (2022/23) a’r flwyddyn academaidd nesaf (2023/Gorffennaf2024).

Bydd y cymorth yn dyrannu un daith i bob ysgol ar sail y cyntaf i’r felin. Er hyn, rydyn ni’n cadw’r hawl i dargedu llefydd i ysgolion/dysgwyr lle nad ydynt ar hyn o bryd yn manteisio ar y cyfleoedd i ymweld â’r Parc Cenedlaethol.

Mae’r cymorth yn amodol ar argaeledd Parcmyn a staff sy’n darparu’r gweithgareddau o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Sut mae archebu?

Cysylltwch â Thîm Darganfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol i archebu ymweliad gan ebostio darganfod@arfordirpenfro.org.uk.

Unrhyw beth arall?

Gofynnwn i’r ysgolion sy’n cymryd rhan yn y teithiau hyn rannu unrhyw gynlluniau cwricwlwm (sy’n gysylltiedig â’r ymweliad) ac enghreifftiau o waith disgyblion sydd wedi cael eu gwneud mewn ymateb i’r ymweliadau hyn.

Bydd casglu a rhannu’r gwaith hwn yn helpu i ddathlu’r canlyniadau dysgu o’r ymweliadau addysgol â’r Parc Cenedlaethol, a bydd yn datblygu adnoddau newydd i wella ymweliadau yn y dyfodol.