Ffilmio gyda dron yn y Parc Cenedlaethol

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi rhyddhau canllawiau ar gyfer defnyddwyr dronau hamdden er mwyn ceisio cyfyngu ar yr aflonyddwch y gall y dyfeisiau ei achosi i fywyd gwyllt gwarchodedig.​

Yn ogystal ag ailadrodd cyngor diogelwch cyffredinol o God Dronau yr Awdurdod Hedfan Sifil, bydd y canllawiau’n helpu defnyddwyr dronau hamdden neu Gerbydau Awyr Di-beilot (UAV) i ddeall yr effaith y gallai eu defnyddio ei chael ar rywogaethau prin ac ar fwynhad pobl eraill o fyd natur.

Mae rhywogaethau fel adar môr a morloi yn arbennig o agored i niwed pan fyddan nhw’n bridio neu’n gofalu am eu rhai bach, a gall lefelau isel o aflonyddwch hyd yn oed effeithio arnyn nhw, gan arwain o bosibl at ostyngiadau mewn poblogaethau.

Mae’r canllawiau hefyd yn tynnu sylw at sut gall dronau ddychryn da byw yn hawdd, gan gynnwys y defaid, y gwartheg a’r ceffylau sy’n pori ar y llethrau arfordirol gerllaw Llwybr Arfordir Penfro.

Paratowyd yr arweiniad ar y cyd â phartneriaid, gan gynnwys gweithredwyr dronau masnachol, Fforwm Arfordir Sir Benfro, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Penfro.

Bydd yr wybodaeth yn cael ei diweddaru wrth i ragor o reolau a chanfyddiadau ymchwil gael eu rhyddhau. Gellir argraffu’r ddogfen fel canllaw cyfeirio hefyd.