Middleholm

a elwir hefyd yn Midland Isle

Mae Middleholm yn ynysig greigiog sydd â chopa gwyrdd, rhwng Sgomer a’r prif dir. Gellir ei gweld o’r Parc Ceirw ar ddiwedd penrhyn Marloes, ar draws dyfroedd byrlymog a chythryblus Swnt Jac.

Nid oes unrhyw anifeiliaid wedi pori’r ynys ers 1966, pan fu farw’r cwningod o mycsomatosis. Mae’r peiswellt coch, y betysen arfor, fforestydd o hocys coediog a mathau eraill o laswelltir morol yn ffrwythlon.

Mae palod Manaw a phalod yn bridio mewn tyllau o dan y ddaear, ac mae cytrefu bach o heligogod a gweilch y penwaig yn bridio ar y clogwyni mwy serth.

Mae tua 30 pâr o fulfrain gwyrddion yn bridio ar ysgwyddau’r ynys. Chwiliwch am eu tyllau a’u hysgafelloedd, yn wyn gydag ysgarthion.

Ar frig yr ynys, mae yna nifer fawr o wylanod cefnddu swnllyd yn bridio. Yn ddiweddar, hefyd, mae gwyddau Canada a’u rhai bach wedi symud i fyw ar yr ynys.

Dod o hyd i Middleholm

Ffeil Ffeithiau Middleholm

  • Eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ni chaniateir i neb lanio ar yr ynys.
  • Ardal y Parc: Gorllewin
  • Cyfeirnod Grid: SM747090