Clymog Japan

(fallopia japonica)

Mae clymog Japan (fallopia japonica) yn aelod o’r deulu’r tafol. Mae’n blanhigyn addurnol tal sy’n tyfu’n gyflym. Dechreuodd ymsefydlu’n wyllt tua diwedd y 1800au.

Mae gan glymog Japan system egnïol o wreiddiau, a elwir yn rhisomau (rhizomes). Mae’r system o risomau yn eang iawn, a gallan nhw dyfu hyd at dri fetr i’r ddaear a hyd at 7 metr ar draws. Mae’r rhisomau’n drwchus a phrennaidd ac mae’r canol yn oren llachar.  Mae’r coesynnau’n wag (fel bambŵ), ac maen nhw’n frith o smotiau porffor. Gallan nhw dyfu dau neu dri metr o uchder. Mae siâp hirgrwn i’r dail, ac mae eu bôn yn fflat a’u blaen yn bigfain. Gall y dail dyfu i oddeutu 12 cm o hyd. Yn ystod mis Awst a mis Medi mae’n cynhyrchu clystyrau o flodau bach gwyn.

Yn ystod y gaeaf, bydd y dail yn gwywo, gan adael hen goesynnau prennaidd a all sefyll am flynyddoedd lawer. Bydd egin newydd coch neu borffor yn ymddangos yn y gwanwyn, gyda dail mewn rholyn. Mae’r egin hyn yn tyfu’n gyflym iawn am fod y rhisomau yn gallu storio llawer iawn o faeth.  Mewn ambell fan, cofnodwyd y planhigyn yn tyfu 4 cm y dydd!

Sut mae’n ymledu?

Mae clymog Japan yn ymledu’n bennaf drwy dameidiau o risomau, neu ddarnau o goesynnau sydd wedi torri. Mae darn bychan o wraidd maint ewin yn gallu creu planhigyn newydd. Gall y rhisomau aros yn y pridd am hyd at ugain mlynedd. Os caiff pridd sy’n cynnwys y planhigyn ei symud, bydd yn creu planhigion newydd. Os bydd coesynnau sydd wedi torri yn cael eu rhoi mewn pridd neu’n dod i gysylltiad â dŵr, gallan nhw adfywio. Fodd bynnag, os caiff y coesyn ei sychu’n drwyadl, nid yw’n adfywio.

Hyd yma, dim ond planhigion benywaidd sydd wedi’u cofnodi yn y DU, felly mae’r holl blanhigion yn union yr un peth o ran eu geneteg, hynny yw, mae’n nhw’n glonau o’i gilydd. Mae dwy rywogaeth arall sy’n perthyn yn agos i glymog Japan hefyd yn y DU, ond anaml y bydd y rheini yn cynhyrchu hadau hyfyw.

Gwasgariad

Gan amlaf mae clymog Japan yn lledu ar hyd afonydd wrth i dameidiau o risomau, neu ddarnau o goesynnau sydd wedi torri, gael eu golchi i lawr yr afon, gan ffurfio planhigion newydd. Yn anffodus, mae’n cael ei ledaenu’n aml iawn gan bobl sy’n tipio gwastraff gardd sy’n cynnwys tameidiau o risomau, neu’n defnyddio pridd heintiedig o safleoedd adeiladu.

Japanese Knotweed damaging a building

Dulliau o’i reoli

Argymhellir fod pob achos o glymog Japan yn cael ei drin yn y fan a’r lle gan chwynladdwr addas, dros gyfnod o flynyddoedd. Dim ond person cymwys ddylai ei drin â’r chwynladdwr, ac os yw’n cael ei ddefnyddio mewn dŵr, neu’n agos i ddŵr, rhaid cael cymeradwyaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (neu Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr). Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod y planhigyn wedi darfod os nad yw’n aildyfu. Gall y rhisomau gysgu am gyfnodau hir, ac mae tarfu ar y pridd yn debygol o annog y planhigyn i dyfu eto.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i reoli clymog Japan ar gael ar wefan Gov.uk.