Pecyn cymorth Jac y neidiwr

Rhoi camau ar waith i reoli’r planhigyn goresgynnol

Mae effeithiau’r planhigyn estron goresgynnol, Jac y neidiwr (Impatiens glandulifera) wedi’u cofnodi’n helaeth o ran eu heffaith niweidiol ar ddarpariaeth gwasanaethau ecosystemau (Coakley a Petti. 2021). Tra bo ymchwil a threialon ar waith gan ddefnyddio mesurau rheoli biolegol (Pollard et al, 2022) gall dulliau rheoli â llaw gael effaith ystyrlon ar raddfeydd priodol, ynghyd â hybu cyfranogiad y gymuned mewn gwaith rheoli a monitro.

Tabl cynnwys

Geirfa termau

  1. Cyflwyniad
  2. Dewis rhywogaeth
  3. Dewis Dalgylch/Ardal Weithredu
    3.1 Meysydd gweithredu presennol
    3.2 Materion hysbys/pryderon presennol
    3.3 Meysydd o werth uchel o ran bioamrywiaeth
    3.4 Effaith ar asedau neu weithrediadau sefydliadol
    3.5 Adnoddau a’r sefyllfa o ran pla sy’n bodoli eisoes
    3.6 Ffiniau niwlog
  4. Dull Strategol ar Raddfa Dalgylch
  5. Partneriaid a rhanddeiliaid
  6. Rheoli arolygon a data
    6.1 Astudiaethau pen bwrdd
    6.2 Synhwyro o bell
    6.3 Google Streetview
    6.4 Dull mapio dalgylch cyflym
    6.5 Mapio dalgylchoedd yn fanwl
    6.5.1 Rheoli data
    6.5.2 Mapiau wedi’u goleuo (‘firefly maps’)
    6.6 Cofnodwch drwch plâu a’r amser a dreulir yn eu rheoli bob tymor
    6.7 Deall yr hyn sy’n dylanwadu ar waith rheoli o ran ymdrech/cost/amser
    6.8 Pennu cyllideb ar gyfer gwaith rheoli
  7. Strategaeth reoli
    7.1. Dulliau rheoli
  8. Gweithio gyda phobl
    8.1 Contractwyr
    8.2 Gweithio gyda chymunedau a gwirfoddolwyr
    8.3 Tirfeddianwyr
  9. Effeithiau Amgylcheddol
    9.1 Delio â rhywogaethau a warchodir
    9.2. Yn ymarferol, beth yw’r ystyriaethau o ran lliniaru’r effeithiau ar ddyfrgwn?
  10. Strategaeth ar gyfer dirwyn y prosiect i ben – Y cyfnod monitro a chynnal
    10.1 Monitro’r newid gweledol
    10.2 Beth y mae strategaeth monitro a chynnal yn ei olygu?
    10.3 Pa mor hir y mae’r cyfnod monitro a chynnal yn para?
    10.4 Pwy sy’n ymgymryd â gwaith monitro a chynnal?
    10.5 Beth y dylid ei gofnodi ar gyfer y cyfnod monitro?
    10.6 Pwy fydd yn ymgymryd â’r gwaith cynnal?
    10.7 Pryd i gynnal gwaith monitro a chynnal sy’n ‘lleihau adnoddau’
    10.8 Lle i flaenoriaethu’r ‘adnoddau sydd wedi’u lleihau’
    10.9 Sut mae rheoli plâu yn ystod cyfnod y strategaeth monitro a chynnal?
    10.10 Dadansoddi llwybr rhywogaeth
  11. Adfer safleoedd a mesurau lliniaru
  12. Monitro a gwerthuso
  13. Staff y prosiect
  14. Casgliad – Gallwch gael y gorau ar Jac y neidiwr!
  15. Cyfeiriadau

Geirfa termau

Dull ar Raddfa Dalgylch (‘catchment approach’) (i reoli rhywogaethau goresgynnol) – a addaswyd o wefan catchments.ie (agor mewn ffenest newydd).

Mae defnyddio dull ar raddfa dalgylch yn hanfodol ar gyfer rheoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) mewn modd llwyddiannus ac effeithlon, sef Jac y neidiwr yng nghyd-destun y ddogfen hon, ynghyd â llunio strategaeth reoli hirdymor ar gyfer y gwaith hwn. Rhaid dileu Jac y neidiwr yn rhannau uchaf y dalgylch yn gyntaf, h.y. yr is-afon neu’r safle uchaf y mae’n bresennol ynddo, a ddilynir gan waith i lawr yr afon i ddileu’r posibilrwydd y bydd yn dod yn bla unwaith eto, oherwydd ei fod wedi ail-ledaenu o ardaloedd sydd ymhellach i fyny’r afon.

Mynediad – torri llystyfiant y tu allan i’r tymor nythu i ganiatáu mynediad ffisegol uniongyrchol, ond hefyd i annog eginiad y banc hadau yn anuniongyrchol trwy ddileu cystadleuaeth a’r gorchudd o lystyfiant yn y tymor byr.

Ardal pla (‘area infestation’) – ardal o dir yr amlygwyd bod Jac y neidiwr yn bresennol ynddi, naill ai o fewn llecynnau gwasgaredig neu drwchus (yr ardal i’w rheoli a’i monitro) o fewn yr ardal honno. Cofnodir hyn gan ddefnyddio polygonau GIS.

Tymor rheoli Jac y neidiwr – gellir rheoli Jac y neidiwr ym mhob cyfnod yn ei ddatblygiad rhwng mis Mawrth a Thachwedd, gall amseriad ei gylchred bywyd amrywio yn ôl ei leoliad ac o fewn rhai cynefinoedd.

Llwybr gwasgaru (‘dispersal pathway’) – gellir lledaenu Jac y neidiwr gan bobl (ar esgidiau/traciau peiriannau, rhannu hadau yn uniongyrchol) a thrwy ddulliau naturiol (dŵr, anifeiliaid). Ar iard fferm ceir cymysgedd o lwybrau gwasgaru, o ran safle diarffordd lle nad yw pobl yn mynd yn aml ni fydd ond modd gwasgaru trwy ddulliau naturiol. Bydd gweithdrefnau a chamau rheoli o safbwynt bioddiogelwch yn lleihau llwybrau gwasgaru.

Rheolaeth trwy ddulliau dwys iawn (‘High Intensity Control, HIC’) – Mae’r rhain yn ddulliau cyson sy’n rheoli yn y modd mwyaf effeithlon. Mae rheolaeth trwy ddulliau dwys iawn yn gofyn am gyllideb ar gyfer contractwyr, ynghyd â swyddog prosiect dynodedig i gydlynu’r gwaith rheoli gan amryw randdeiliaid. Strategaeth reoli drylwyr sy’n gweithio tuag at waredu Jac y neidiwr bron yn llwyr ar lefel safleoedd, is-dalgylchoedd neu ddalgylchoedd cyfan. Efallai y bydd y dulliau a ddefnyddir yn cynnwys cymysgedd o ddulliau rheoli â llaw, dulliau mecanyddol a chemegol os ystyrir bod angen hynny, gan ddefnyddio llafur cyflogedig neu ddi-dâl. Dylai dulliau rheoli gynnwys mynd i’r afael â phob agwedd bla o Jac y neidiwr er mwyn lleihau ei ddwysedd, h.y. ei darddle, ei ymylon allanol a sgil-ardaloedd.

Monitro a chynnal (M a Ch / ‘M and M’) – monitro cyflwr asedau sydd wedi’u creu o’r newydd a chynnal yr ased yn ôl y cyflwr a ddymunir yn dilyn cyfnod o waith rheoli Jac y neidiwr, trwy ddulliau dwys iawn, o fewn safle, is-ddalgylch neu ddalgylch. Strategaeth sydd wedi’i chynllunio i ddirwyn pla i ben yw hon yn ei hanfod, gan fod polygonau ardaloedd pla yn cynnwys lefelau isel o Jac y neidiwr o ran dwysedd neu ei fod bron wedi’i waredu’n llwyr.

Achosion (‘outbreaks’) – digwyddiad amgylcheddol neu ddynol sy’n achosi pla annisgwyl o Jac y neidiwr yma ac acw, a fyddai’n gofyn am ymateb cyflym yn dibynnu ar y lleoliad o fewn ardal prosiect.

Ymylon allanol (‘outside edge’) – ymylon mwyaf allanol neu hyd a lled ardal pla o Jac y neidiwr, lle nad oes unrhyw gofnod ohono y tu hwnt i’r pwynt hwn.

Sgil-bla (‘satellite infestation’) – ardal o Jac y neidiwr sydd ar wahân i bla ehangach oherwydd ymlediad cynharach. Ceir ardaloedd o dir neu ddŵr sy’n agos at sgil-bla lle nad yw Jac y neidiwr yn bresennol. Ond, heb ei reoli, mae’r sgil-bla yn debygol o fod yn darddle ar gyfer lledaenu Jac y neidiwr yn yr ardaloedd hyn trwy lwybrau gwasgaru naturiol neu o waith dyn. Ystyrir y dylid rhoi blaenoriaeth uchel i reoli sgil-bla cyn iddo ddod yn darddle o safbwynt y dirwedd ehangach.

Tarddle (‘source’) – y pwynt uchaf neu bellaf lle ceir Jac y neidiwr o fewn safle neu ddalgylch. Yng nghyd-destun y dirwedd, y dulliau rheoli a ddefnyddir o’r safbwynt hwnnw yw’r rhai mwyaf strategol ac effeithlon gan na ddylid caniatáu i bla ail-ledaenu trwy ddulliau naturiol. Efallai bod tarddle pla yn agos i ddŵr sy’n achosi lledaeniad ehangach o fewn y dalgylch hwnnw a/neu’n sgil-bla yng nghyfnod cynnar ymlediad Jac y neidiwr o fewn y dirwedd ehangach.

Yn ôl i’r top

 

1. Cyflwyniad

Mae effeithiau’r planhigyn estron goresgynnol, Jac y neidiwr (Impatiens glandulifera) wedi’u cofnodi’n helaeth o ran eu heffaith niweidiol ar ddarpariaeth gwasanaethau ecosystemau (Coakley a Petti. 2021). Tra bo ymchwil a threialon ar waith gan ddefnyddio mesurau rheoli biolegol (Pollard et al, 2022) gall dulliau rheoli â llaw gael effaith ystyrlon ar raddfeydd priodol, ynghyd â hybu cyfranogiad y gymuned mewn gwaith rheoli a monitro.

Rhwng 2016 a 2021, roedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Sir Benfro (APCSB) wedi cyflogi cydlynydd INNS i annog a chyfeirio adnoddau o ran gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol, staff APCSB a thirfeddianwyr trwy ddull cynaliadwy, ar raddfa dalgylch, o’r brig i lawr, o fynd i’r afael â rheoli INNS.

Mae’r Prosiect Pwyth Mewn Pryd yn arddangos model llwyddiannus o ddull cymunedol o reoli Jac y neidiwr, sef rhywogaeth estron oresgynnol sydd wedi lledaenu’n eang.

Mae’r ddogfen hon yn rhannu’r hyn a ddysgwyd o’r prosiect, a’i bwriad yw darparu’r dulliau a’r wybodaeth y mae eu hangen gan unigolion, grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau statudol i gyflawni prosiect INNS cymunedol, ynghyd â darparu tystiolaeth o hynny trwy ddull rheoli cydgysylltiedig ar raddfa dalgylch.

Mae’r dull a ddisgrifir yn ymarferol a chost effeithiol, a gellir ei efelychu’n hawdd, ac mae’n ymgorffori strategaeth wedi’i chynllunio ar gyfer dirwyn y prosiect i ben yn ffurf cyfnod o waith monitro a chynnal.

Mewn theori, gellir defnyddio’r dulliau a’r rhesymau a gyflwynir o fewn y ddogfen hon dros reoli Jac y neidiwr ar gyfer mynd i’r afael â rhywogaeth planhigyn goresgynnol blynyddol sy’n lledaenu’n bennaf trwy wasgaru ei hadau, y mae’r cyfnod y mae ei fanc hadau’n para yn gymharol fyr, ac sy’n ddiogel i’w gyffwrdd ac nad yw’n wenwynig.

Hoffem ddiolch yn arbennig i brosiect a arweinir gan y gymuned (gwaredu Jac y neidiwr yng Nghors Poppit, Cymdeithas Llandudoch), a ariennir gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, a arweiniodd at brosiect Pwyth Mewn Pryd.

Woman wearing a green t-shirt standing in a grassy field holding a large Himalayan balsam stem aloft
Gill Wislocki (a welir yn y llun uchod) yn dal coesyn Jac y neidiwr mawr. Roedd Gill ac aelodau Cymdeithas Llandudoch yn rhan allweddol o ddatblygu a rhoi prosiect cymunedol llwyddiannus ar waith i reoli Jac y neidiwr.

Yn ôl i’r top

 

2. Dewis rhywogaeth

Arweiniwyd y gwaith o ddewis rhywogaeth ar gyfer y prosiect gan Gynllun Gweithredu INNS Partneriaeth Natur Lleol Sir Benfro, sy’n sicrhau dull strategol ar draws Sir Benfro o ran monitro, rheoli a/neu waredu INNS yn y sir, yn lle mae’n ymarferol a phriodol er mwyn diogelu bioamrywiaeth frodorol Sir Benfro.

Mae cynllun gweithredu INNS Sir Benfro yn mabwysiadu strategaeth y DU ar gyfer INNS, sy’n dilyn y dull hierarchaidd tri cham a fabwysiadwyd gan y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol sy’n nodi mai atal, canfod/cadw gwyliadwriaeth a rheoli/gwaredu yw’r tri phrif ddull o ddelio â rhywogaeth oresgynnol (gyda’r flaenoriaeth uchaf yn cael ei rhoi i atal).

Wrth ddatblygu cynllun gweithredu INNS ar gyfer Sir Benfro, fe gafodd data cenedlaethol cyfredol gan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr (GBNNSS), cofnodion lleol o Ganolfan Wybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru (CWBGC), gwybodaeth a gedwir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a thrafodaethau gyda’r Cofnodwyr Sirol perthnasol eu defnyddio i ddrafftio rhestr o rywogaethau a allai fod yn destun pryder o safbwynt cadwraeth bioamrywiaeth yn Sir Benfro.

Yna, defnyddiodd partneriaid arweiniol wybodaeth leol a barn broffesiynol i dorri’r rhestr hon i lawr i 36 o rywogaethau sy’n destun pryder yn Sir Benfro, yr ystyrir eu bod yn flaenoriaeth uchel ar gyfer gweithredu yn seiliedig ar bresenoldeb neu bresenoldeb tebygol yn y sir yn y dyfodol, y bygythiad i fioamrywiaeth frodorol, difrod i isadeiledd neu eiddo a’r mesurau rheoli sydd ar gael.

Nodwyd bod Jac y neidiwr a chlymog Japan yn rhywogaethau sydd wedi lledaenu’n eang, sy’n cael blaenoriaeth uchel, y mae’r dulliau o’u rheoli yn hysbys, ac felly fe’u targedwyd ar gyfer camau gweithredu ymarferol gan y prosiect Pwyth Mewn Pryd yn Sir Benfro.

Yn ôl i’r top

 

3. Dewis Dalgylch/Ardal Weithredu

O fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, bu angen dewis ardal ar gyfer rhoi camau gweithredu strategol ar waith i ganiatáu i ni ganolbwyntio adnoddau cyfyngedig ar gyflawni a chynnal camau i reoli’r INNS a dargedwyd. Mae hwn yn newid mawr o’n dull blaenorol, mwy ad hoc.

Roedd yr ystyriaethau a ganlyn o gymorth wrth benderfynu’r hyn y dylem ganolbwyntio ein dulliau gweithredu arnynt.

Yn ôl i’r top

 

3.1 Meysydd gweithredu presennol

Mae’n ddefnyddiol i fapio meysydd gweithredu presennol i ganfod yn lle mae sefydliadau cadwraeth natur, sefydliadau statudol, cymunedau ac unigolion yn ymwneud â rheoli INNS yn barod. Mae ystyried cwmpas ac effeithiolrwydd y camau rheoli hynny yn fodd defnyddiol i ganfod bylchau y bydd rhaid eu llenwi efallai, er mwyn cyflawni’r allbynnau a ddymunir.

Yn ôl i’r top

 

3.2 Materion hysbys/pryderon presennol

Ystyried partneriaid posibl, aelodau o’r gymuned a’r bartneriaeth natur leol. Hyd yn oed yn absenoldeb arolygon manwl a chynhwysfawr, mae’n debygol y gall nifer o randdeiliaid amlygu ardaloedd sy’n destun pryder. Bydd ganddynt bryderon o ran effaith INNS, ynghyd â gwybodaeth am yr ardaloedd y maent yn meddwl y byddent yn ddelfrydol o ran canolbwyntio ymdrechion arnynt.

Yn ôl i’r top

 

3.3 Ardaloedd o werth uchel o ran bioamrywiaeth

Ystyried yr effaith bosibl ar nodweddion dynodedig, cynefinoedd a rhywogaethau sy’n destun pryder. Er enghraifft, byddai dalgylch a chanddo SoDdGA/ACA gwlyptir neu rwydweithiau o laswelltiroedd corslyd a mignenni yn cael mwy o flaenoriaeth na thirwedd fferm sydd wedi’i wella’n sylweddol. Gellir defnyddio hyn hefyd i dargedu is-afonydd penodol o fewn dalgylch afon os nad yw adnoddau’n bodoli i fynd i’r afael â’r dalgylch cyfan (mae Afon Nyfer yn enghraifft dda o hyn).

Yn ôl i’r top

 

3.4 Effaith ar asedau neu weithrediadau sefydliadol

Mae ystyried perchnogaeth tir, effeithiau posibl a rhwymedigaethau cyfreithiol yng nghyswllt y tir hwnnw yn gallu eich helpu i ganfod partneriaid a fyddai efallai’n cael budd o ymagwedd strategol, ac yn barod i gyfrannu trwy gynnig adnoddau.

Yn ôl i’r top

 

3.5 Resources and the state of an existing infestation

Mae’r cyfnod o waith rheoli trwy ddulliau dwys iawn yn debygol o bara ar safle am 3-4 blynedd, a bydd angen gwneud gwaith cynnal a chadw ar raddfa fechan am o leiaf 3-4 blynedd, ac am fwy na hynny yn ôl pob tebyg. Felly mae’n bwysig sicrhau nad ydych yn tynnu gormod o waith yn eich pen fel nad ydych yn gallu ei gynnal wedyn!

Gallwch gael eich temtio i fynd i’r afael â’r mannau gwaethaf yn gyntaf, ond fe allwch gael llawer mwy o werth am arian trwy daclo pla llai sydd wedi datblygu’n fwy diweddar, y mae’n bosibl iawn y bydd yn cael effaith ar fioamrywiaeth. Gellir defnyddio’r rhesymeg hon hefyd i rannu dalgylchoedd. Er enghraifft, gallwch benderfynu rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â gwaredu Jac y neidiwr o flaenddwr bioamrywiol, wrth dderbyn pla ar lannau afon, lle nad yw’n debygol iawn y bydd yn lledaenu i gynefinoedd pwysig ar hyd y brif afon, yn lle mae’n mynd trwy dir fferm sydd wedi’i wella.

Yn ôl i’r top

 

3.6 Ffiniau niwlog

Sut bynnag yr ydych yn diffinio eich ardal weithredu, cadwch y ffiniau’n niwlog er mwyn rhoi hyblygrwydd i chi ystyried ffiniau o ran perchnogaeth tir neu gysylltiadau diwylliannol fel symudiadau anifeiliaid. Efallai eich bod eisiau ystyried dulliau trosglwyddo posibl eraill, ynghyd ag ystyried p’un a yw hyn yn cyfiawnhau cynnwys mwy o ardaloedd, y tu hwnt i’r dalgylch, o fewn eich parth gweithredu.

Yn ôl i’r top

 

4. Dull Strategol ar Raddfa Dalgylch

Tra bo nifer o sefydliadau ac unigolion yn ymwneud â rheoli INNS o fewn y Parc Cenedlaethol a Sir Benfro, yn aml, mae’r dulliau a ddefnyddir yn dameidiog. Er enghraifft, oherwydd materion o ran perchnogaeth tir, efallai na fydd y driniaeth a ddefnyddir i fynd i’r afael â’r rhywogaeth sy’n cael ei thargedu yn ei gwaredu mewn safle penodol, ac nad yw ond yn ei rheoli hyd at ffin benodedig. Mae ymdrechion o’r fath i gyfyngu’r rhywogaeth yn golygu y bydd y costau, o ran y driniaeth a ddefnyddir, yn benagored, a thrwy adael tarddle heintio, ni fyddant o reidrwydd yn atal lledaeniad y rhywogaeth i ardaloedd newydd.

Gwaredu systematig (neu ei waredu bron yn llwyr) o ardal amddiffynadwy yw’r datrysiad mwyaf cost effeithiol yn y tymor hir, fel y mae’r gwaith rheoli’n lleihau i ddim ond gorfod atal neu drin pla sydd wedi ailddechrau o’r newydd.

“The Catchment Based Approach (CaBA) embeds collaborative working at a river catchment scale, delivering a range of environmental, social and economic benefits and protecting our precious water environments for the benefit of us all.”

Gwefan Catchment Based Approach (agor mewn ffenest newydd) a addaswyd o wefan catchments.ie (agor mewn ffenest newydd).

Mae’r dull ar raddfa dalgylch yn defnyddio tactegau sy’n ystyried y modd y mae Jac y neidiwr yn lledaenu. Mae cyrsiau dŵr yn un o’r prif lwybrau gwasgaru ar gyfer INNS, sy’n caniatáu ei gwasgaru’n gyflym i lawr yr afon, ar hyd nodweddion dŵr. Felly mae dalgylchoedd, neu rannau o ddalgylchoedd yn raddfa briodol i weithio arni. Roedd Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS) wedi galluogi’r prosiect i ddefnyddio dulliau tactegol o fewn y dalgylch, yn seiliedig ar raddau ffrwd (‘stream order’) Horton a dalgylchoedd afonydd. Yn fyr, mae hyn yn golygu bod rhaid gwaredu Jac y neidiwr yn rhannau uchaf y dalgylch yn gyntaf, h.y. yr is-afon neu’r safle uchaf y mae’n bresennol ynddo, a ddilynir gan waith i lawr yr afon i ddileu’r posibilrwydd o bla yn cychwyn o’r newydd o ardaloedd i fyny’r afon.

Hefyd, mae Jac y neidiwr yn gallu goresgyn cynefinoedd nad ydynt yn agos at ddŵr a gall ledaenu i fyny’r afon hefyd, er yn arafach. Mae canfod a thargedu’r ‘ymylon allanol’ a’r plâu hyn sydd i’w cael i ffwrdd o’r afon o ganlyniad i’r modd y mae Jac y neidiwr yn lledaenu, yn hanfodol hefyd. Bydd methu â gwneud hynny’n golygu, yn y diwedd, y bydd pla yn goresgyn y dalgylch neu’r safle cyfan unwaith eto.

Gall fod yn her weithiau o ran cael pobl eraill i dderbyn y modd hwn o weithio, gan ei fod yn naturiol i fod eisiau gweithio ar safleoedd sydd o ddiddordeb iddynt hwy, yn hytrach nag yn rhywle arall o fewn y dalgylch. Rhaid dyfalbarhau, gan fod hyn yn elfen hanfodol o’r dull hwn o weithio.

Mewn dalgylch â phla o Jac y neidiwr, sy’n bla mewn ardal o werth uchel ond nad yw’r dalgylch yn dod o dan fesurau rheoli strategol, yna gall fod angen gwneud eithriad. Gwthio’r pla yn ôl i goridor yr afon yw’r unig opsiwn, a gan fod ei waredu’n amhosibl, rhaid derbyn y bydd angen mynd ati’n flynyddol i gynnal gwaith rheoli parhaus. Fodd bynnag, mae hyn yn well na gwneud dim pan fo perygl iddo ledaenu i’r ymylon allanol, i mewn i flaenddwr dalgylch cyfagos.

Fel y nodwyd gan Cuda (et al, 2020), dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae plâu ar lannau afon wedi arwain at oresgyn mwy o gynefinoedd i ffwrdd o ddŵr, yn enwedig mewn coedwigoedd. Mae’r awduron y nodi bod yr ardaloedd hyn yn fwy cynaliadwy o ran canolbwyntio adnoddau rheoli a chamau lliniaru/codi ymwybyddiaeth oddi mewn iddynt, yn hytrach na phoblogaethau tarddleoedd glannau afon.

Dyma ein rhesymeg dros ganolbwyntio ar ymylon allanol. Fel y mae Jac y neidiwr yn lledaenu i ffwrdd o ddŵr ac yn goresgyn cynefinoedd eraill fel coridorau coetiroedd a gwrychoedd, pwynt/lleoliad pellaf coesyn Jac y neidiwr yw’r ymyl allanol. Mae’r ymyl allanol hwn wedyn yn darddle Jac y neidiwr ar gyfer yr ardaloedd cyfagos nad yw wedi’u goresgyn eto, nad ydynt efallai yn agos i ddŵr. Gall camau rheoli effeithiol ei wthio’n ôl i’r tarddle ar lannau’r afon. Mae’r diagram a’r map isod yn dangos hyn:

Diagram showing how effective control of Himalayan balsam can push it back to the riparian source

Mae’r ardal wen yn dangos polygon ardal bla fawr, sydd wedi’i amlygu mewn oren, sy’n arwain i ffwrdd o’r dŵr a leolir yn ei ganol, bron wrth ymyl ffin y dalgylch sydd wedi’i marcio â llinell goch doredig. Yr ymyl allanol yw’r pwynt pellaf y cofnodwyd Jac y neidiwr ynddo, sydd efallai wedi tarddu o ddŵr.

Catchment Map showing Himalayan balsam infestation of Clydach catchment of Gwaun Valley, Pembrokeshire, Wales UK in 2020

 

Yn ôl i’r top

 

5. Partneriaid a rhanddeiliaid

Yn ddelfrydol, yn ystod y cyfnod dewis dalgylch hwn, caiff partneriaid a rhanddeiliaid posibl eu canfod o fewn ardal prosiect. Mae hyn yn bwysig er mwyn deall unrhyw flaenoriaethau a rennir cyn gynted â phosibl, cyn ymgymryd â gwaith rheoli. Mae’r darpar bartneriaid a rhanddeiliaid yn allweddol o ran helpu i gyflawni cyfnod monitro a chynnal ar ôl gwneud y gwaith rheoli.

Tirfeddianwyr – preifat, busnes fferm/tenantiaid/rheolwyr tir preifat, canolfannau garddio ac ati

Pobl leol – o fewn dalgylch prosiect

Contractwyr – tirlunio, chwareli, rheoli’r dirwedd/cynnal a chadw a thorri gerddi

Cyfleustodau – Dŵr Cymru a Western Power trwy waith cynnal a chadw ceblau pŵer/eu contractwyr

Yr Awdurdod Lleol – cyflenwi priffyrdd, rheoli lleiniau ymyl ffordd, marcio

Cyfoeth Naturiol Cymru – caniatadau, cyngor, partner cyflenwi

Sefydliadau Cadwraeth – Yr Ymddiriedolaeth Byd Natur, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cymdeithas y Cerddwyr Sir Benfro, Yr Ymddiriedolaeth Afonydd

Mentrau cymunedol cydweithredol (ar lefel Leol neu Sirol)

Grwpiau Gwirfoddol Cymunedol (ar lefel Leol neu Sirol)

Yn ôl i’r top

 

6. Rheoli arolygon a data

Dwy egwyddor sy’n gonglfeini y mae’n rhaid eu rhoi ar waith yn ystod arolwg o blanhigyn sy’n rhywogaeth oresgynnol flynyddol fel Jac y neidiwr, yw mapio ei bresenoldeb a’i absenoldeb o ran lle gellir ei ganfod yn y dirwedd. Felly mae dŵr yn allweddol.

Efallai bod hyn yn swnio fel synnwyr cyffredin, ond rhaid gwneud hyn yn ôl graddfa eich prosiect, bo hwnnw’n ymwneud â safle, is-safle neu ddalgylch cyfan. Ar ôl dadansoddi a rhoi data arolygon hanesyddol a chyfredol dilys o fewn ei gyd-destun, gellir rhoi strategaeth ar waith ar raddfa dalgylch, gan y bydd data o ran presenoldeb ac absenoldeb yn datgelu tarddiad plâu, sgil-blâu neu blâu ynysig, yn ogystal â phlâu a leolir dros ardaloedd mawr a chanddynt ymylon allanol.

Yn ôl i’r top

 

6.1 Astudiaethau pen bwrdd

Yn y cyfnodau cychwynnol, rydych yn debygol o fod yn ddibynnol ar astudiaethau pen bwrdd i ddarparu llinell sylfaen o ran yr hyn sydd eisoes yn hysbys am ddosbarthiad INNS yn yr ardal neu’r dalgylch yr ydych yn gyfrifol amdani neu amdano.

Y ddwy brif ffynhonnell o wybodaeth sy’n bodoli eisoes yw eich Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol (CCALl) ac Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol (NBN). Yn ein profiad ni, mae nifer y cofnodion o INNS sydd ar gael yn dal i fod yn eithaf isel. Nid ydynt ond yn gallu rhoi amcan o faint sy’n debygol o fod yn bresennol o fewn dalgylch, bydd angen arolwg maes i gael darlun llawn.

Nid pawb sy’n cyflwyno cofnodion o INNS, yn enwedig os ydynt yn eithaf cyffredin (e.e. Jac y neidiwr ar hyd glannau afon). Gall siarad â chofnodwyr lleol, aelodau staff, neu gynghorwyr cymuned sy’n gweithio o fewn eich ardal darged, ddarparu rhagor o wybodaeth o ran dosbarthiad a mannau problemus.

Yn ôl i’r top

 

6.2 Synhwyro o bell

Er nad oes unrhyw amheuaeth yr ymddengys fod synhwyro o bell yn cynnig mwy o gyfleoedd, ar gyfer cyfnod y prosiect, nid oedd modd i ni ganfod dull dibynadwy a hygyrch i’n helpu i fapio dosbarthiad rhywogaethau’n gyflym trwy lofnod sbectrol (‘spectral signature’).

Mae’r dulliau a ddisgrifir isod yn ddefnyddiol ac yn weddol gyflym dros ddalgylchoedd bach, o safbwynt plâu Jac y neidiwr canolig eu maint.

Yn ôl i’r top

 

6.3 Google Street view

Mae Google Earth yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer chwilota priffyrdd, ac mae’n cynnwys Llwybr Arfordir Sir Benfro hyd yn oed! Gellir gwahaniaethu rhwng clymog Japan a rhywogaethau sy’n edrych yn debyg, fel collen. Mae coesynnau clymog Japan yn amlwg oherwydd eu siâp yn y gaeaf, yn enwedig os yw’r clwstwr yn fawr. O ran blodau gweladwy iawn fel Jac y neidiwr, Crib-y-Ceiliog, y Ganwraidd Fach a’r Ganwraidd Himalaiaidd, gellir eu canfod trwy leoli’r ‘dyn peg’ ar leoliad penodol, ac mewn rhai achosion gall ddatgelu pla sy’n arwain i ffwrdd o briffordd. Yng nghyd-destun y dirwedd, gan edrych ar y nodweddion daearyddol, h.y. oes yna ddŵr yn bresennol? Gellir defnyddio dyn peg Google Earth i wirio presenoldeb, ac yn dibynnu ar ansawdd y llun, gellir amcangyfrif graddau’r planhigion sy’n bresennol. Fodd bynnag, mae angen eu cadarnhau ar y ddaear, h.y. ymweld â safle i wirio’r cofnod.

Cofiwch nodi/cofnodi absenoldeb yn ogystal â phresenoldeb, a bod dyddiadau’r haenau hanesyddol yn wahanol o un lleoliad i’r llall.

Screenshot from Google Street View showing Himalayan balsam visible within willow near road bridge, Ritec Tenby.
Sgrin lun o Jac y neidiwr sy’n weladwy o fewn coed helyg ger pont ffordd, Ritec, Dinbych-y-Pysgod.

Yn ôl i’r top

 

6.4 Dull mapio dalgylch cyflym

Y Dull Mapio Dalgylch Cyflym ar gyfer Jac y neidiwr: Astudiaeth Achos Castellmartin

Yn dilyn canfod un cofnod hysbys o Jac y neidiwr o fewn dalgylch Castell Martin (y dot coch a welir isod) nod yr arolwg oedd darparu arolwg cyflym i ganfod graddau’r pla o Jac y neidiwr ledled y dalgylch. Gall hyn roi gwybod i chi p’un a ydych yn delio â phla sydd wedi lledaenu ar draws y dalgylch, neu efallai bla llawer llai ar un neu ddau o isafonydd bychain.

Mae’r sgrin lun isod yn dangos un cofnod a ddaliwyd gan CNC ar gyfer Jac y neidiwr tan 2018, sef y dot bach coch tua chanol y dalgylch.

Screenshot showing the one record NRW held for Himalayan balsam until 2018, small red dot roughly centre of Castlemartin Corse catchment

Yn 2018, cynhaliwyd arolwg dalgylch cyflym, gan ddefnyddio binocwlars, yn ystod y tymor blodeuo brig. Cafwyd mynediad i ardaloedd a chyrsiau dŵr yn arbennig, yn defnyddio Hawliau Tramwy Cyhoeddus, pontydd ffyrdd a lleoliadau gwylio, ynghyd â sganio ardaloedd tebygol. Mae’r dull hwn yn fodd cyflym i ychwanegu mwy o gofnodion presenoldeb/absenoldeb i’r map o’r dalgylch, ac mae’n fan cychwyn ar gyfer adeiladu darlun o’r graddau y mae’r pla wedi lledaenu.

Gellir defnyddio data cynefinoedd cam un ar gyfer Jac y neidiwr i ddod i gasgliad o ran ei ddosbarthiad tebygol, yn seiliedig ar wybodaeth am gofnodion sy’n bodoli a rhywogaethau sy’n debygol o fod wedi’u goresgyn.

Ar ôl gwirio pla o Jac y neidiwr (cadarnhau ar y ddaear) o fewn math arbennig o gynefin, gallwch wedyn amlygu ardaloedd eraill sydd â’r cynefin hwnnw o fewn y dalgylch. Dylid arolygu’r rhain wedyn gan fod presenoldeb yn fwy tebygol, yn enwedig os yw’r safle’n uwch na chofnod o Jac y neidiwr wrth ymyl dŵr.

O ran dalgylch Castell Martin, roedd y mathau hyn o gynefinoedd yn cynnwys systemau ffosydd draenio, coetiroedd glannau afon nad ydynt yn cael eu rheoli, glaswelltiroedd corslyd, fforddfreiniau ar gyfer peilonau trydan ac ymylon/gwrychoedd caeau cynhyrchiol sy’n gyfagos i blâu presennol. Pan gaiff ei ddefnyddio gyda dulliau pen bwrdd eraill a ddisgrifir uchod, mae’n bosibl amcangyfrif graddau pla o fewn ardal cyn dechrau’r arolwg ar y ddaear mewn unrhyw fanylder.

Tynnwch luniau gan ddefnyddio mannau sefydlog (‘fixed points’)
Os cynhaliwch arolwg yn ystod y cyfnod blodeuo brig, yna mae hyn yn gyfle da i dynnu lluniau mewn mannau sefydlog naturiol fel llinell o goed neu ffens. Yn ddelfrydol, gosodwch byst dros dro, oherwydd os ydych yn gallu bwrw ymlaen â gwaith rheoli yn y gwanwyn dilynol, ni fydd cyfle i gipio llun cyn cychwyn ac ar ôl gorffen y gwaith onid ydych yn neilltuo ardal i’w gadael allan o’r gwaith rheoli.

Llecyn o Jac y neidiwr sydd wedi’i adael i flodeuo.

An area of Himalayan balsam is left to flower in a woodland

Gall canfod ardaloedd lle mae coed wedi disgyn, neu lle mae gwaddod wedi hel mewn afon neu nant, fod yn arwydd bod poblogaeth o Jac y neidiwr yn parhau uwchben y mannau hynny. Fel y mae rhywfaint o blanhigion yn gwreiddio o fewn coed sydd wedi cwympo i’r afon, gallant wasgaru hadau ar y glannau yn lle bydd Jac y neidiwr wedyn yn gallu goresgyn y cynefinoedd cyfagos sy’n creu’r ymylon allanol o’r afon. Man delfrydol ar gyfer afancod tybed?

Area of river with treefall buildup.

Er ei bod yn well cynnal arolygon manwl o Jac y neidiwr yn ystod y tymor tyfu a blodeuo, mae’n angenrheidiol weithiau i ddisgwyl tan y gaeaf i gael mynediad i safle pan fo’r llystyfiant wedi gwywo. Ni ellir ond ceisio gweld coesynnau marw gyda binocwlars i ryw raddau, ac mae gwir angen i chi fod yn agos i sicrhau eich bod yn adnabod Jac y neidiwr yn ei gyflwr gaeafol, ond mae eu trwch yn fan cychwyn da i adnabod coesynnau yn y gaeaf.

Mae adnabod coesynnau Jac y neidiwr yn y gaeaf yn hawdd unwaith yr ydych yn gyfarwydd â nhw. Mae Jac y neidiwr yn sychu, gall y coesynnau fod yn gryf iawn neu fel papur. Yn aml, mae’r nodau a’r gwreiddiau’n weladwy. Y prif blanhigion sy’n creu dryswch am eu bod yn debyg yw’r rheiny o’r teulu Umbelliferae (cegiden, efwr) a chanddynt linellau ar hyd eu coesynnau marw, sy’n wan iawn, fel papur, ac yn aml ceir tyfiant gwyrdd ar waelod y coesyn trwy gydol y flwyddyn.

Himalayan balsam stems in winter can be easily identified once you get your eye in. Balsam dries out, the stems can be very sturdy or papery. The nodes and roots are often visible.

Dangosir yma Jac y Neidiwr yn cael ei ddal wrth ymyl coesyn cegiden y dŵr. Gellir camgymryd coesynnau Jac y neidiwr bach am glychau’r gog wedi sychu.

s Himalayan balsam is being held next to a hemlock water dropwort stem. Small balsam stems may also be confused with dried bluebells

Data cam un ar gyfer dalgylch ‘Castlemartin Corse’ isod, sy’n darparu’r mathau o gynefinoedd.

Map showing phase one data for the Castlemartin Corse catchment below providing habitat types with different areas shaded in different colours

Defnyddiwyd dau ddiwrnod ym mis Gorffennaf 2018 i ddeall graddau’r pla trwy fapio cyflym, ynghyd â 3 diwrnod ym mis Tachwedd 2018 i gerdded trwy’r safleoedd yn drylwyr a chofnodi absenoldeb a phresenoldeb Jac y neidiwr. Lluniwyd cofnodion pwyntiau (‘point records’) ar gyfer dalgylch Castlemartin Corse. Mae cofnod pwyntiau gwreiddiol CNC mewn glas, bron yng nghanol y map isod o’r dalgylch, gyda’n data ni wedi’i ychwanegu hefyd.

Yn ôl i’r top

 

6.5 Mapio Dalgylchoedd yn Fanwl

Bydd yr arolwg uchod yn darparu amcangyfrif da o faint tebygol y pla o fewn y dalgylch. Fodd bynnag, bydd angen arolwg manylach i fapio graddau’r pla. Defnyddir polygonau i amcangyfrif maint yr ardal sy’n cael ei gorchuddio/trwch y pla, a hefyd y cynefin y mae’r pla wedi lledaenu oddi mewn iddo, a ph’un a fydd angen unrhyw driniaeth baratoadol (h.y. rheoli prysgwydd) i ddarparu mynediad i safleoedd i gyflawni gwaith rheoli. Mae hon hefyd yn adeg dda i gasglu gwybodaeth am effeithiau posibl ar rywogaethau a warchodir, e.e. y dyfrgi neu’r pathew. Fel y trafodir yn nes ymlaen, mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i brosiect INNS, felly mae’n gymorth hefyd i feddwl am b’un a fydd unrhyw safle’n addas i’w rheoli gan wirfoddolwyr, gan nad yw pob safle’n ddelfrydol.

Mae cofnodion pwyntiau’n ddefnyddiol ar gyfer mapio graddau presenoldeb, absenoldeb a mannau sydd wedi’u hynysu, sy’n rhoi cipolwg ar sefyllfa ardaloedd o safbwynt strategol. Bydd graddau unrhyw bla mewn ardal yn cael ei gyfrifo trwy ddigideiddio polygonau gan ddefnyddio GIS. Mae polygonau’n amlygu’r pla mewn ardal, p’un a yw’n ardal drwchus o Jac y neidiwr, neu, os yw’r rhywogaeth darged yn fwy gwasgaredig mewn ardal, bydd yn dal i gael ei mapio a’i thrwch yn cael ei chofnodi yn y tabl nodweddion ar gyfer bob polygon.

Map showing Castlemartin Corse with dots of different colours denoting different infestations of Himalayan Balsam

Ni fu modd cael mynediad i bob ardal yn ystod mis Tachwedd oherwydd caniatadau neu amser. Mae’r polygonau mewn glas ar y map isod yn dangos yr ardaloedd yr amcangyfrifir eu bod yn llochesu Jac y neidiwr. Defnyddir y rhesymeg ei fod yn debygol o fod yn bresennol o ganlyniad i’r math o gynefin a geir ynddynt, yr agosrwydd at ddŵr a phresenoldeb Jac y neidiwr uwchben yr ardaloedd, neu’n uwch i fyny’r afon o’r mannau hynny.

Fel yr aeth y prosiect yn ei flaen, fe gafodd y polygonau a amcangyfrifwyd (glas) eu gwirio, ac mewn dau achos, fe gafodd y polygonau coch (a wiriwyd) eu hymestyn yn yr ardal. SoDdGa yw’r polygon pinc mawr ar ben y dalgylch.

Map of Castlemartin Corse showing Himalayan Balsam with (blue) polygons were verfied and in 2 instances the red (verified) polygons were extended in the area.

Coetir llydanddail lled-naturiol, sef, yn ei hanfod, coridor glannau’r afon yn y dalgylch hwn, oedd y math o gynefin y gwelwyd Jac y neidiwr ynddo fwyaf.Map of Castlemartin Corse catchment showing coincidence of Invasive Species with Priority Habitat Type

Yn ôl i’r top

 

6.5.1 Rheoli data

Mae’n werth rhoi rhywfaint o ystyriaeth i sut yr ydych yn casglu a storio eich data a sut yr ydych am ei ddiweddaru a’i fapio i ddangos cynnydd eich gwaith. Er enghraifft, o ran plâu cyffiniol, ym mhle mae un polygon y gorffen ac un arall yn dechrau? Sut wnewch chi ddangos y cynnydd? Ydych chi eisiau tracio newidiadau o ran trwch y rhywogaeth, neu ddim ond ei phresenoldeb/absenoldeb? A wnewch chi gofnodi’r ymdrechion i’w rheoli ar raddfa dalgylch neu ar raddfa safle? Ein camgymeriad ni oedd meddwl am hyn wedyn!

Dyma beth wnaethom ni, fel y soniwyd uchod, mae’r tabl nodweddion yn GIS yn dal manylion y safleoedd ar gyfer bob polygon. Mae amcangyfrif gweledol yn darparu’r ganran o’r safle sydd wedi’i orchuddio â Jac y neidiwr fesul blwyddyn.
Map showing Gwaun Valley with table showing levels of Himalayan balsam infestation from 2015-2019

Mae angen cynnal arolwg o unrhyw ddŵr, mae’r polygonau’n amlygu’r ardaloedd y bydd eich gwaith ymarferol yn canolbwyntio arnynt. Bydd angen cynnal arolwg o leiaf ddwywaith y flwyddyn o ardal yr is-afon gyfan, a fydd yn cynnwys ardal y coetir cyfagos, i sicrhau bod pob poblogaeth darged wedi’i chynnwys yn y gwaith rheoli.

Dangosir isod y polygonau melyn sy’n cynrychioli ardal y pla o Jac y neidiwr, mae’r polygon oren yn dangos maint yr ardal sydd angen ei harolygu hefyd, yn ddelfrydol, unwaith yn ystod y tymor ac wedyn bob yn ail flwyddyn. Dylid arolygu’r dŵr uwchben yr ardaloedd hyn hefyd i sicrhau absenoldeb (y dot gwyrdd).

Map showing Kilkiffieth Tributary of the Gwaun River yellow polygons represent the area infestation of Himalayan balsam, the orange polygon shows the area extent that also requires survey,

Mae arolwg effeithiol o Jac y neidiwr yn gofyn am arolygu UNRHYW ddŵr, rhaid gwirio absenoldeb a phresenoldeb a mapio’r pla yn yr ardal. Mae gwirio absenoldeb bob dau dymor yn ddelfrydol.

Yn ôl i’r top

 

6.5.2 Mapiau wedi’u goleuo (‘firefly maps’)

Gwelwyd gennym nad oedd ein data o ran polygonau i’w weld yn glir ar raddfa dalgylch mawr fel Cwm Gwaun, ac nad oedd yn cael yr effaith a ddymunwyd gennym. Aethom ati felly i ychwanegu data llinell i roi trosolwg syml ond effeithiol o’r cynnydd o fewn y dalgylch. Roedd unrhyw bolygon a oedd wrth ymyl dŵr yn amlygu’r ardal yn ‘binc’ ar gyfer presenoldeb, ‘gwyrdd’ ar gyfer absenoldeb, yn ôl y data pwyntiau o’r arolwg o absenoldeb a phresenoldeb. O ran ardaloedd yr arolygwyd bod Jac y neidiwr yn absennol oddi mewn iddynt, yn ddelfrydol, dylid eu monitro ddwywaith y flwyddyn i sicrhau ei absenoldeb mewn pwyntiau dynodedig, h.y. pont, cydlifiad nant-afon a/neu iard fferm a chanddi ffynhonnell ddŵr.

Map of Cwm Gwaun catchment area Himalayan Balsam infestation status 2019. Any polygon near water highlighted the area as pink for present, green for absent based on the point absence and presence survey data

O ran dalgylchoedd arfordirol llai fel Castlemartin Corse roedd eu troshaenu â data llinell, data polygon, a’u codio â lliwiau yn ôl eu statws, yn darparu trosolwg gwych o statws dalgylchoedd ar y raddfa lai hon. Gellir gweld graddau ac ardal pla ar yr olwg gyntaf, a gellir gweld ardaloedd blaenoriaeth uchel fel safleoedd tarddleoedd a sgil-boblogaethau neu boblogaethau ynysig.

Dangosir isod ddalgylch Castlemartin Corse sy’n dangos presenoldeb ac absenoldeb llinellau wedi’u goleuo sy’n deillio o ddata pwyntiau.

Firefly map showing Castlemartin Corse catchment firefly lines, presence, absence and in progress, note the two satellite or isolated infestations in orange away from the main stream. Any polygon near water highlighted the area as pink for present, green for absent based on the point absence and present survey data.

Dangosir isod llinellau dalgylch Castlemartin Corse sydd wedi’u goleuo yn ôl presenoldeb, absenoldeb, a gwaith sy’n mynd rhagddo. Sylwch ar y ddau sgil-bla neu blâu ynysig mewn oren, a leolir i ffwrdd o’r brif nant.

Firefly map showing the Castlemartin Corse catchment firefly lines, presence, absence and in progress, note the two satellite or isolated Himalayan balsam infestations (pink present, green absent, yellow in progress) in orange away from the main stream.

Yn ôl i’r top

 

6.6. Cofnodwch drwch plâu a’r amser a dreulir yn eu rheoli bob tymor

I ddangos cynaliadwyedd y dull a ddefnyddir, amcangyfrifir trwch plâu Jac y neidiwr, a bydd y newid yn cael ei dracio dros y blynyddoedd. Cofnodir hefyd ymdrechion/yr amser a dreulir gan staff, gwirfoddolwyr, tirfeddianwyr a chontractwyr. Mae’n bwysig sôn am y gofyniad hwn o ran data wrth eich contractwr er mwyn iddo nodi’r dyddiau a weithiwyd a safleoedd penodol.

Fel y mae gwaith rheoli’n mynd rhagddo, bydd statws polygonau plâu yn newid o fod ar waith, i statws monitro a chynnal. Bydd polygon yn newid i statws ‘monitro a chynnal’ unwaith y mae trwch y planhigyn goresgynnol yn 20% neu lai. Gall hyn ddigwydd o fewn 2 neu 3 tymor.

Byddai amcangyfrif y trwch gan ddefnyddio cwadratau yn cynhyrchu amcangyfrifon cywirach o ran trwch, yn ôl y raddfa y gweithiwyd arni yn ystod y prosiect hwn. Amcangyfrifwyd trwch polygonau fel canran, ac yna roedd ystyried cyfartaledd bob polygon sy’n gysylltiedig â safle yn ein helpu i fonitro’r newid o ran trwch yn erbyn yr amser neu’r adnodd a ddefnyddiwyd. Mae hyn yn arwain at gromlin costau safle yn erbyn trwch, y gellir ei defnyddio wedyn ar gyfer y dalgylch cyfan. Ystyriwch y modd hwn o drin data, sut y byddwch yn cofnodi a sut yr ydych yn dynodi eich safleoedd, h.y. efallai bod sawl polygon yn gysylltiedig â safle. Cyfrifwyd y cyfartaledd ar gyfer bob tymor ar draws y polygonau, fel yr oedd y trwch yn newid i gynhyrchu’r amcangyfrif o drwch y tymor. Gall fod yn gywirach i gofnodi ac adrodd ynghylch y newid yn nhrwch bob polygon, gan y byddwch yn colli manylion penodol trwy gyfrifo cyfartaledd.

Mae’r graffiau isod yn dangos patrwm allweddol a gaiff ei efelychu ar draws bob un o’n safleoedd. Mae’r adnoddau a fuddsoddir yn cynyddu dros yr ychydig flynyddoedd cyntaf i uchafswm o ychydig dros 250 awr y flwyddyn. Mae hyn wedyn yn gostwng yn sylweddol, ac o ran y 2 flynedd ddiwethaf, bu’n sefydlog ar tua 25 awr. Gallwn bellach gynllunio’r modd y byddwn yn dirwyn y gwaith i ben yn ôl yr adnoddau y byddwn yn debygol o fod eu hangen i fonitro a chynnal y dalgylch â statws ‘dan reolaeth’, sef 3.5 diwrnod y flwyddyn ar gyfer dalgylch arfordirol ardal Porthgain. Mae hyn yn dangos cynaliadwyedd y dulliau a ddefnyddir ar draws pob un o ddalgylchoedd y 4 prosiect.

Line graph showing Porthgain catchment: Staff, contractor and volunteer time spent and balsam density change between 2017 and 2021. Blue line shows effort/time and red line shows density change.

Graph showing Cwm Gwaun catchment: The reduction in time and balsam density between 2015 and 2021. Red line shows density change and blue line shows effort/time.

Roedd pla ardal Porthgain wedi lledaenu dros gyfanswm o 4.89ha, yr oedd 3.36ha, yn 2021, o dan statws monitro a chynnal, gyda lefel uwch o waith rheoli yn cael ei wneud o fewn ardal o 1.53ha ar ben y dalgylch, a fydd yn mynd ymlaen i gyfnod monitro a chynnal yn 2022.

Roedd cyfanswm ardal pla Cwm Gwaun yn 8.93ha yn 2021. Roedd lefel uwch o waith rheoli yn cael ei wneud o fewn ardal o 1.76ha, gyda’r 6.97ha a oedd yn weddill o fewn cyfnod monitro a chynnal, a oedd angen llai o ymrwymiad o ran adnoddau i gynnal y gwaith o waredu Jac y neidiwr bron yn llwyr.

Mae’r graffiau’n dangos cynaliadwyedd y dull a ddefnyddiwyd ar raddfa dalgylch. Gallem awgrymu y byddai tua 37 awr yn ystod tymor yn nalgylch Cwm Gwaun yn ddigon i gynnal y gwaith o waredu Jac y neidiwr bron yn llwyr. Bydd 21 awr yn ystod tymor yn ddigon i gynnal y lefel a fynnir ym Mhorthgain.

Yn ôl i’r top

 

6.7 Deall yr hyn sy’n dylanwadu ar waith rheoli o ran ymdrech/cost/amser

Mae’n bosibl rhagweld y gost neu’r adnoddau a fynnir ar gyfer safle, is-dalgylch neu ddalgylch ymlaen llaw. Er mai amcan fydd hyn bob amser, a bydd angen hyblygrwydd fel y mae tymor y gwaith rheoli yn mynd rhagddo.

Ar ôl mapio ardal ar raddfa a gytunwyd o ran presenoldeb a/neu absenoldeb Jac y neidiwr wrth ymyl dŵr, caiff ardaloedd plâu mawr ei digideiddio fel polygonau i ddarparu’r arwynebedd mewn hectarau. Gall math y cynefin a ganfuwyd yn ystod cam 1 ac, ar yr olwg gyntaf, cyfuchlinau ar fap yr Arolwg Ordnans, helpu i bennu unrhyw faterion o ran diogelwch ar gyfer bob polygon, a bydd math y cynefin yn helpu i awgrymu pa ddulliau rheoli y bydd eu hangen ar gyfer y tymor. Gellir cyflawni hyn trwy waith pen bwrdd i ddechrau, ond mae ymweld â safleoedd yn hanfodol.

Mae’r canlynol yn dylanwadu ar amser, ac felly’r gost:

  • Y tir/llethrau
  • Math y cynefin
  • Trwch y rhywogaeth darged
  • Arwynebedd/maint safle’r rhywogaeth darged
  • Mynediad a gwaith rheoli llystyfiant yn y gaeaf
  • Amodau lleol/hanes cylchred oes y planhigion

 

Mae bob un o’r uchod yn dylanwadu ar yr amser neu’r arian a fynnir i reoli planhigyn goresgynnol blynyddol.

 

Mae bob un o’r rhain yn effeithio’r amser a gymerir i gynnal gwaith rheoli yn yr ardal unwaith. Yr allwedd i lwyddiant yw ailadrodd yr ymweliadau mewn da bryd, gan wneud hynny’n gyson ac yn drylwyr yn ddefnyddio dulliau rheoli effeithiol.

O ran yr amser y bydd ei angen i gynnal gwaith rheoli ar safle (torri, tynnu planhigion, neu ddefnyddio peiriant), yn ddelfrydol, gellid amcangyfrif hyn trwy ofyn i gontractwr neu unigolyn â gwybodaeth ymarferol o ran rheoli tir, fel ffermwr, contractwr garddio neu Warden neu Barcmon o’r Parc Cenedlaethol.

Bydd modd i gontractwr amcangyfrif yr amser y bydd yn ei gymryd i gyflawni gwaith ar safle, a gellid lluosi hyn er mwyn amcangyfrif yr amser ar gyfer y tymor.

 

NODER: ymweliad safle yw nifer y diwrnodau neu’r amser mewn oriau a dreulir yn cyflawni’r gwaith ar safle, ar gyfer rheoli/monitro’n effeithiol unwaith, nid ymweliad am ddiwrnod. Po fwyaf yw’r ardal neu gymhleth yw’r tir o fewn ardal fechan, yr hiraf y bydd yn ei gymryd i gyflawni’r gwaith rheoli mewn modd effeithiol a thrylwyr.

Pan gaiff y safle ei dorri am y tro cyntaf ym mis Mai, neu os bydd y gwaith tynnu â llaw yn dechrau ym mis Ebrill, byddir yn gwybod faint o amser y bydd yn ei gymryd i gwblhau’r gwaith ar y safle. Yna gellir diweddaru’r amcangyfrif o’r amser/cost ar gyfer y tymor.

Gellir ailystyried y gyllideb a’r ardal y dylid ei chynnwys yn y gwaith rheoli i adlewyrchu’r union amser a dreuliwyd yn cyflawni’r gwaith. Yn ddelfrydol, bydd yr holl ardaloedd y cynhaliwyd gwaith ynddynt dros y gaeaf, neu waith i sicrhau mynediad, yn dal i gael eu cynnwys er mwyn gwneud y gorau o’r buddsoddiad hwnnw, a bydd unrhyw ardaloedd llai strategol yn cael eu hepgor.

Mae cyfraddau dyddiol contractwyr yn amrywio ar gyfer gwaith strimio, defnyddio offer llaw/gwaith tynnu. Yn gyffredinol <£200 y dydd.

Mae contractwr sy’n defnyddio peiriant ffustio/peiriannau eraill yn fwy costus, rhwng £300 -£600 y dydd. Rhaid cyllidebu ar gyfer gweithdrefnau bioddiogelwch hefyd, ynghyd â gwaith clirio os yw contractwr yn gwneud hynny ar gyfer y tirfeddiannwr neu’r prosiect. Yn ddelfrydol, bydd gwaith glanhau unrhyw beiriant o fewn ardal ag INNS yn ofyniad safonol.

O ran safleoedd serth, bydd angen defnyddio rhaff a harnais neu beiriant ffustio o bell hyd yn oed, mae hyn yn cynyddu’r gost yn sylweddol. Byddai rhaff a harnais yn gost gyson dros y 3 tymor cyntaf a byddai eu hangen wrth gyflawni gwaith monitro. Allwch chi gyfiawnhau’r gost hon? Ydy’r ardal yn un digon strategol?

Dylai’r gost o dorri i wella mynediad i safle fod yn gost untro y dylid ymgymryd â hi y tu allan i’r tymor nythu, gyda’r mymryn lleiaf o waith cynnal yn cael ei wneud yr un pryd â’r gwaith rheoli ar ôl y tymor cyntaf.

Unwaith eto, a dweud y gwir, dylai cost rheoli llystyfiant i gael mynediad i safle pla o fewn prysgwydd trwchus fod yn gost untro yn y tymor cyntaf. Gellid rhannu’r gost dros fwy nag un tymor os yw safle’n derbyn gwaith rheoli fesul cam oherwydd ei faint mawr a phla trwchus, neu efallai ei bod yn haws rheoli rhannau strategol. Yr hyn sy’n gallu gohirio gwaith yn ystod y gaeaf a gwaith rheoli yw ceisiadau allan o dymor am ganiatadau i weithio o fewn safleoedd dynodedig, neu’n agos iddynt, ar gyfer gwneud gwaith torri yn y gaeaf i sicrhau mynediad a/neu ar gyfer rheoli Jac y neidiwr.

Gall amodau lleol ddylanwadu ar bryd y mae Jac y neidiwr yn blodeuo, er enghraifft, dechrau Mehefin, gyda chodennau hadau wedi aeddfedu ac yn barod i agor ddiwedd Mehefin/yn gynnar iawn ym mis Gorffennaf. Felly mae mis Ebrill a Mai yn fisoedd allweddol o ran gwaith rheoli ar gyfer lleihau nifer y planhigion. Gwers a ddysgwyd o’r prosiect yw y dylai ymweliadau ar gyfer cyflawni gwaith rheoli barhau hyd at ddiwedd mis Hydref.

Mae gwaith rheoli Jac y neidiwr sy’n gynaliadwy yn gofyn am ei amseru a’i gyflawni’n gyson, a rhaid cyflawni hyn yn drylwyr gan ddefnyddio dull rheoli effeithiol.

Yn ôl i’r top

 

6.8 Pennu cyllideb ar gyfer gwaith rheoli

Amcangyfrifir cost rheoli Jac y neidiwr trwy ddeall yr amser a fynnir i gyflawni gwaith o fewn yr ardal ar ôl dod â hi o dan reolaeth, wedi’i luosi gyda’r tymor rheoli, sef Ebrill/Mai-Hyd/Tach. Ar ôl deall beth yw’r amcangyfrif hwn o ran amser, yna gellir cyfrifo’r gost yn ôl cyfradd contractwr fesul yr awr neu ddiwrnod.

O ran nifer y contractwyr/gweithwyr a neilltuir, bydd bron bob contractwr gwaith yn gweithio mewn parau (mae’n fwy diogel). Gall defnyddio 20 o bobl yn strimio gyflawni llawer a byddid yn cyflogi llawer o bobl, ond fe gewch chi’r un canlyniad yn defnyddio 2 beiriant strimio ac un unigolyn ar beiriant addas (ffust), os yw’r mynediad i’r safle ynghyd ag ansawdd y tir yn addas.

Bydd lleoliad y dalgylch, math y cynefin/y llystyfiant o amgylch y safle’n dylanwadu ar y dull rheoli a fynnir trwy’r tymor rheoli 7 mis o Ebrill-Hydref – bydd strimio, ffust fecanyddol, offer llaw/tynnu â llaw, cyfuniad o’r dulliau hyn i gyd, yn debygol yn ystod blwyddyn 1.

Allwch chi gael mynediad i’r safle? Efallai y bydd angen i chi wella/torri mynediad i’r safle cyn i chi gyrraedd ardal y pla Jac y neidiwr hyd yn oed. Os yw eich peiriant am fod yn croesi nentydd bach/mannau gwlyb a mwdlyd iawn, ystyriwch pa mor aml y byddwch yn gwneud hyn, a ph’un a oes modd i chi liniaru’r effaith trwy ychwanegu swbstrad neu blatfform dros dro.

Allwch chi gael mynediad i ardal y pla? O ran pla Jac y neidiwr a geir o fewn mieri trwchus, eithin, drain trwchus, prysgwydd, bydd angen ei leihau fel y gallwch gael mynediad i’r ardal, ond bydd hyn hefyd yn achosi eginiad hadau. Gellir mynd i’r afael â llecynnau mwy fesul rhan, gellir gadael ynysoedd i ddarparu gorchudd ac y gellir eu rheoli â llaw yn nes ymlaen yn y tymor. Efallai y bydd angen gwella mynediad i rwydweithiau o ffosydd trwy dorri canghennau isel ac ati.

Astudiaeth achos: Nant Pontfaen Brook yn erbyn Cilciffeth

Roedd y ddwy is-afon hyn yn darddleoedd Jac y neidiwr ar gyfer dalgylch ehangach Cwm Gwaun yn lle gwnaed gwaith rheoli a monitro cyson ers 2015. Mae’r is-afonydd yn wahanol o ran y math o gynefinoedd a geir ynddynt. Maent yn debyg o ran y defnydd o’r tir o’u hamgylch, sef torri silwair, pori gan ddefaid neu wartheg. Mae’r plâu a geir o fewn yr ardaloedd yn agos o ran maint, treuliwyd llawer o oriau’n rheoli Jac y neidiwr, a gwaith monitro sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd.

Y prif wahaniaeth y mae’r gwaith ar y ddau safle wedi’i wneud i’r prosiect, ynghyd â’r gwersi a ddysgwyd, yw bod gwirfoddolwyr yn allweddol, ond mae llafur cyflogedig yn ffurf contractwyr neu staff yn bwysig hefyd.

Nid yw Nant Pontfaen yn addas i grŵp o wirfoddolwyr oherwydd y tir a’r caniatadau, ond mae’n strategol iawn. Roedd y ddau wirfoddolwr a fu’n gweithio ym Mhontfaen yn wirfoddolwyr craidd o fewn y prosiect, a fu’n cyfrannu trwy weithio diwrnodau llawn, weithiau 3 diwrnod yn olynol yn yr un ardaloedd yn Nant Pontfaen. Roedd y mwyafrif o’r oriau a gofnodwyd a dreuliwyd yn gwneud gwaith ym Mhontfaen yn amser staff, contractwyr, ynghyd â’r 2 wirfoddolwr craidd. Dywedodd un ei fod fyth eisiau gweithio ar y safle eto!

Mae’r crynhoad o Jac y neidiwr mewn rhwydweithiau o ffosydd gwlyb yn golygu efallai bod yr ardal sydd i’w chynnwys er mwyn i’r gwaith rheoli fod yn effeithiol yn fach, ond mae’r ymdrech a fynnir yn fawr, sy’n adlewyrchu’r costau cychwynnol.

Mae’r polygonau mwy yng Nghilciffeth wedi gweld partïon mawr o wirfoddolwyr yn gweithio ynddynt, er bod y mynediad yma’n anodd mewn rhai mannau penodol. Gwirfoddolwyr a staff sy’n treulio’r rhan fwyaf o’r amser yma, sy’n golygu nad oes rhaid talu costau contractwyr.

Cyfanswm ardal pla polygon Nant Pontfaen: 1.61ha

Cyfanswm amser 2015-2021: 351 awr

Blwyddyn Amser cronnol gwirfoddolwyr, staff, contractwyr (oriau) Y ganran o’r polygon sydd wedi newid o ran trwch Jac y neidiwr
Ebrill-Hydref

Nant Pontfaen

2015/2016 173 80
2017 90 50
2018 53 25
2019 20.5 15
2020 7.5 5
2021 7 5

Map showing infestation of Himalayan balsam infestation 2015-2021. Yellow areas showing balsam density

 

Cyfanswm ardal pla polygon Cilciffeth: 1.57ha

Cyfanswm amser 2015-2021: 504.75 awr

Blwyddyn Amser cronnol gwirfoddolwyr, staff, contractwyr (oriau) Y ganran o’r polygon sydd wedi newid o ran trwch Jac y neidiwr
Ebrill-Hydref Cilciffeth
2015/2016 306.5 75
2017 61 30
2018 43 15
2019 68 5
2020 17 5
2021 9.25 3

Map showing Cilciffeth catchment with yellow areas showing infestation of Himalayan Balsam

 

Astudiaeth Achos: Chapel Hill, Castlemartin Corse, cyfanswm ardal y pla: 28.45ha.

O ganlyniad i’r defnyddiau tir o amgylch y safle, mae’r pla Jac y neidiwr wedi’i ganoli mewn coetir collddail (polygon 4 a 5 – Coetir ‘Chapel Hill Wood’- 90% o ran trwch), glaswelltir corslyd/helyg a phrysgwydd (polygon 2 – 50% o ran trwch) a gwrych ar ochr y ffordd (polygon 3 – 50% o ran trwch). Amlygir nant y ‘Corse’ mewn melyn.

Map showing Chapel Hill, Castemartin Corse, total area of Himalayan balsam infestation: 28.45ha. Surrounding land use concentrates the Himalayan balsam infestation in deciduous woodland (polygons 4 and 5 - Chapel Hill wood - 90% density), marshy grassland/willow and scrub (polygon 2- 50% density) and roadside hedge (polygon 3 - 50% density). The Corse stream is highlighted in yellow.

I ddechrau, roedd coetir ‘Chapel Hill Wood’ (polygon 4 a 5) wedi’i rannu bron yn ei hanner (y polygon melyn) lle cafodd llystyfiant y gaeaf ei dorri i sicrhau mynediad yn 2019. Aethpwyd ati i gychwyn y gwaith o reoli Jac y neidiwr yn ystod tymor 2019, ac fe ymgymerwyd â hyn gan gontractwyr a oedd yn defnyddio tua 2 – 6 o weithwyr.

Roedd y penderfyniad i rannu coetir Chapel Hill yn ymwneud ag ansawdd yn hytrach na maint y gwaith a gyflawnwyd, i sicrhau mynediad a bod y mieri wedi’u clirio yn lle’r oedd Jac y neidiwr yn bresennol, ond heb daenu ein hadnoddau’n rhy denau. Roedd rhannu’r safle’n golygu hefyd ein bod yn gallu gadael mieri fel adnodd, o ran eu bod yn darparu gorchudd ac yn gweithredu fel peilliwr, ac roedd modd cael syniad o sut yr oedd y dyfrgi’n defnyddio’r safle hwn trwy drap camera.

Oherwydd trwch Jac y neidiwr o fewn Polygonau 5 a 4 byddai angen lleihau y rhan fwyaf o’r mieri er mwyn caniatáu dulliau rheoli effeithiol yn nes ymlaen yn y tymor. Nid oedd coetir Chapel Hill yn safle addas i wirfoddolwyr weithio ynddo tan 2020. Bu un grŵp o wirfoddolwyr yn gweithio yn y polygonau hyn rhwng Mai a Medi 2021, gyda chymorth contractwr ar 4 achlysur. Yn ogystal, roedd Swyddog Prosiect yn arwain y digwyddiadau ac yn gweithio gyda’r contractwr pan fu rhaid canslo’r grŵp oherwydd y tywydd neu ymrwymiadau eraill.

Ymgymerwyd â’r mymryn lleiaf o waith i dorri mynediad a chlirio mieri/prysgwydd gyda strimiwr/thorrwr brwsh (‘brushcutter’) (staff/contractwr) ym mholygon 2. Oherwydd y gwaith clirio helaeth a fynnir yng nghoetir Chapel Hill, penderfynwyd gennym y byddid yn cadw llwybrau mynediad yn unig ar agor. Ymgymerwyd â gwaith rheoli Jac y neidiwr mewn modd mwy detholus gan ei gyflawni â llaw, ac yn defnyddio offer llaw. Cynhwyswyd polygon 5 yn y gwaith rheoli yn ystod 2020, dim ond gwaith torri llwybrau mynediad/mieri a wnaed ym mholygon 4 yn 2019, gan dynnu chwyn â llaw.

 

Chapel Hill

Mae polygonau 4 a 5 yn dod i gyfanswm o 2.13ha, mae gwrych ffordd/cae polygon 3 yn dod i gyfanswm o 0.03ha ac mae glaswelltir corslyd/prysgwydd helyg polygon 2 yn dod i gyfanswm o 1.11ha, amlygir afon Corse mewn melyn.

 

Chapel Hill Polygon 4, 2, 3 Polygon 5, 4, 3, 2 Polygon 5, 4, 3,2
Blwyddyn 2019 2020 2021
Ymweliadau gan gontractwyr 11 12 4
Nifer y gweithwyr 2-6 o bobl 2-3 o bobl 1 person
Oriau gwirfoddolwyr 0 24 250.5
Oriau staff, yn fras 42 51 60

Roedd defnyddio contractwr a pheiriant ffustio yn bosibl yng nghoetir Chapel Hill, ynghyd â rhagor o waith paratoi, fel clirio coed sydd wedi cwympo a thorri’r canghennau isaf. Nid oedd y gwaith ychwanegol hwn wedi’i gynnwys yn gyllideb, yn ogystal â’r gost uwch ar gyfer defnyddio peiriant ffustio, o gymharu â’r gyfradd diwrnod ar gyfer gweithwyr sy’n defnyddio torrwr brwsh. O ran safleoedd mawr gyda mynediad rhwydd, o edrych yn ôl, mae’r peiriant ffustio’n fwy effeithlon ar gyfer torri yn y gaeaf a gwaith rheoli cychwynnol o ran Jac y neidiwr, yn hytrach na chael hyd at 6 o weithwyr yn defnyddio strimwyr/offer llaw.

Po fwyaf o waith yr ydych yn ei wneud y tu allan i’r tymor nythu, yr hawsaf fydd cael mynediad a gwneud gwaith rheoli. Ceisiwch sicrhau cydbwysedd trwy rannu safleoedd mawr a defnyddio dulliau llai dwys ar safleoedd eraill.

 

Rhaglen Safle – enghraifft

2021/2022 angen toriad yn y gaeaf: cyfanswm y gost a amcangyfrifir £1765

Peiriant ffustio o dan gontract am £375 y dydd
3 diwrnod yn ystod Tachwedd, Rhagfyr neu Ionawr (£1125)

Torrwr brwsh/llifiau o dan gontract
2 weithiwr, am 2 ddiwrnod yn ystod Tachwedd, Rhagfyr, Ionawr (£640)

Gwaith Rheoli Jac y neidiwr

Peiriant ffustio o dan gontract, am 3 diwrnod yn ystod Mai – Gorffennaf (£3375)

Yn ystod Awst, Medi, Hydref, gwaith dilynol gyda thorrwr brwsh/gwaith â llaw

2 weithiwr 2 ddiwrnod y mis am £160 y diwrnod (£1920)

Y gost a amcangyfrifir ar gyfer y safle yn 2022: £7060

Image showing Himalayan Balsam germinating in May 2020, Polygon 5 following the winter access/bramble cut

Jac y neidiwr yn egino ym mis Mai 2020, Polygon 5, yn dilyn y gwaith torri llwybr mynediad/mieri yn ystod y gaeaf

 

Os yw popeth yn digwydd yn ôl y cynllun a bod ychydig iawn o Jac y neidiwr wedi dianc, yna efallai y bydd eich ymdrechion yn ystod y tymor dilynol, ym mlwyddyn 2, yn lleihau rhywfaint. Mae angen ymweliad safle yn ystod y gwanwyn i benderfynu hyn, fel y mae Jac y neidiwr yn egino. Ychydig iawn o waith cynnal sydd angen ei wneud ar y mynediad i’r safle. O ran ardaloedd a gynhwyswyd yn y gwaith rheoli prysgwydd yn y lle cyntaf, bydd unrhyw aildyfiant yn dal i fod yn rhy fach/isel i adar nythu ynddo, a gellir ei adael tan yr ymweliad rheoli cyntaf. Gall hwnnw ddechrau ddiwedd mis Mai neu ddechrau mis Mehefin, gydag un toriad yn defnyddio peiriant ffustio os oes angen. Bydd gwaith torri yn defnyddio strimiwr a thynnu â llaw yn parhau trwy gydol blwyddyn 2, a fydd yn cymryd lle’r gwaith gyda’r peiriant ffustio yn gyfan gwbl.

Erbyn blwyddyn 3, dylid gweld gostyngiad yn yr amser a fynnir ac felly’r gost, ni fydd angen peiriant ffustio ar gyfer sicrhau mynediad neu wneud gwaith rheoli. Ychydig iawn o waith rheoli fydd angen ei wneud o ddiwedd Mai yn defnyddio strimwyr, gan wneud gwaith â llaw trwy gydol y cyfnod hyd at fis Hydref.

O ran y safle ym mlwyddyn 4, bydd angen gwneud mwy o waith chwilio i ganfod poblogaethau o chwyn, mae hyn yn haws i’w gyflawni o fis Mehefin, ond mae’n dal i fod yn bwysig cynnal yr ymweliadau tan fis Hydref, ynghyd â bod yn drylwyr.

O ran ardaloedd a dorrwyd yn flaenorol â pheiriant ffustio, i hwyluso mynediad at Jac y neidiwr, mae prysgwydd yn dechrau tyfu drostynt. Os mai dyna’r canlyniad a fwriedir, gadewch i hyn ddigwydd. Efallai y byddwch eisiau cadw llwybrau bychain yma er mwyn gallu monitro ardal y pla ‘hanesyddol’ yn drylwyr ac yn rhwydd.

Gwaredu bron yn llwyr
Mae’r safle wedi cyrraedd cyfnod monitro a chynnal ym mlwyddyn 5, gellir cynnal yr ymweliad cyntaf ddiwedd Mehefin/Gorffennaf ac yna yn Awst/Medi/Hydref, gan leihau nifer yr ymweliadau i gyfanswm o 3 neu 4 efallai.

Blwyddyn 6 ymlaen
NODER: ymweliad safle yw nifer y diwrnodau a gymerir i gyflawni gwaith rheoli/monitro ar y safle mewn modd effeithiol, nid ymweliad am ddiwrnod.

Fesul safle, mae’n bosibl cyflawni gwaith monitro a chynnal (gwaredu bron yn llwyr) yn ystod y tymor dilynol neu dymor/blwyddyn 3, yn dibynnu ar oed a lleoliad y pla, h.y. ni ddylai ardal unrhyw bla fod â banc o hadau sydd wedi sefydlu, a dylid ei hatal rhag sefydlu un.

Yn ôl i’r top

 

7. Strategaeth reoli

Dylech annog hadau i egino yn y tymor byr er mwyn lleihau’r banc hadau yn gyflym.

Bydd unrhyw waith torri yn y gaeaf i gael mynediad i Jac y neidiwr yn gwaredu’r gystadleuaeth gan rywogaethau eraill dros dro, sy’n cynyddu’r egino cychwynnol fel y mae mwy o olau ac adnoddau ar gael.

Gwelir isod fel y mae mieri trwchus wedi’u torri y tu allan i’r tymor nythu. Ddechrau Mai mae’r eginiad cyntaf yn cael ei dorri. Mae angen ymweliadau pellach o ganlyniad i eginiadau dilynol, unwaith bob 3-4 wythnos, yn ogystal â delio â choesynnau a fethwyd.

Image showing area where Himalayan balsam is being removed. Dense bramble has been cut outside the nesting season, early May cut the first germination; repeat visits are required due to successive germination, ideally once every 3-4 weeks as well as dealing with missed stems.

Waeth pa ddulliau a ddefnyddir i wneud gwaith rheoli yn ystod y 3 thymor cyntaf, p’un a wneir hynny â llaw neu’n fecanyddol, mae’r gwaith rheoli yn drylwyr iawn. Mae hyn yn cyfeirio at y strategaeth reoli gyffredinol o ran cynnal gwaith yn gyson ac yn aml, gydag ymweliadau rheoli i sicrhau y caiff planhigion eu gwaredu’n gyflym, cyn gynted ag y maent yn ddigon mawr i ddelio â nhw.

Mae bod yn drylwyr yn allwedd i lwyddiant.

Yn sicr, mae’n bosibl ‘tynnu’ planhigion Jac y neidiwr ifanc yn ystod mis Mawrth, os allwch chi gyfiawnhau’r ymdrech. Bydd torri ardaloedd mawr o Jac y neidiwr ddiwedd Ebrill/Mai gyda strimiwr neu beiriant yn annog mwy o eginio, fel y mae’r gystadleuaeth gan Jac y neidiwr yn cael ei ddileu, gall mwy ohono egino. O fewn 3 i 4 wythnos, bydd yr ardal wreiddiol a dorrwyd yn dal i lochesu Jac y neidiwr oherwydd yr effaith egino hon, yn ogystal â gorfod rheoli coesynnau na chawsant eu torri’n effeithiol yn ystod yr ymweliad cyntaf. Caiff hyn ei ailadrodd trwy gydol y tymor rheoli 7 mis posibl, er, ar y cyfan, o fis Gorffennaf, bydd dulliau clirio â llaw yn cymryd lle strimio.

Rhaid torri’r coesyn o dan y nod gwaelod (neu bydd y planhigyn yn aildyfu rhagor o goesynnau)

Himalayan balsam plant that has bene pulled out of the ground with a person pointing to the bottom node, which needs to be cut, with a knife,

 

Jac y neidiwr a dynnwyd ddiwedd Mawrth ar darddle is-afon, yr ardal hon yw’r lleoliad uchaf lle caiff Jac y neidiwr ei gofnodi ar gyfer yr is-dalgylch hwn, sy’n cyfiawnhau mynd ati i’w reoli’n gynnar.

Himalayan Balsam plant plucked in late March on a source tributary.

 

Jac y neidiwr a dynnwyd ar hyd Afon Gwaun pan oedd y prosiect wedi cynnwys y brif afon, yn dilyn llwyddiant yn y ddau darddle is-afon.

Himalayan Balsam plucked on the Afon Gwaun

Bydd trwch Jac y neidiwr, y llystyfiant o’i amgylch (math y cynefin) a’r tir, yn dylanwadu ar eich dulliau rheoli (yn ogystal â chaniatadau gan dirfeddianwyr)

Gwaith rheoli Jac y neidiwr – 12 mis y flwyddyn!

Mae’r tymor rheoli o Fawrth/Ebrill-diwedd Hydref, ynghyd â gweithio y tu allan i’r tymor nythu (Tach- diwedd Chwef) i greu mynediad, yn golygu y gellir cynnal gwaith i reoli Jac y neidiwr trwy gydol y flwyddyn, o ran gwaith yn ystod y gaeaf ac wedyn gwaith rheoli. Gall amseriad cylchred bywyd Jac y neidiwr amrywio yn ôl ei leoliad, i ba gyfeiriad y mae ei leoliad yn wynebu ac unrhyw ddŵr yn y lleoliad hwnnw.

Table showing lifecycle of Himalayan Balsam over the calendar year. Green showing germination, red showing flowering and black showing seeding.

Mae’r dyddiau lle byddid yn trefnu 2 ddigwyddiad i fynd i’r afael â Jac y neidiwr mewn tymor wedi hen ddiflannu yn Sir Benfro! Mae cysondeb y gwaith rheoli trwy gydol y tymor, gyda gwaith paratoi yn ystod y gaeaf, yn golygu y cynhelir gweithgareddau prosiect i reoli Jac y neidiwr gydol y 12 mis!

Yn ôl i’r top

 

7.1 Dulliau rheoli

Defnyddir sawl dull o reoli Jac y neidiwr, mae eu hamseriad a bod yn drylwyr yn elfen gyffredin o bob un ohonynt, ac fe’u dangosir isod:

Dulliau rheoli â llaw
Y dull mwyaf cyffredin o ddelio â Jac y neidiwr yw ei dynnu â llaw a/neu ddefnyddio offer llaw fel slaeswr. Dyma’r prif fodd o reoli Jac y neidiwr os yw’r tir a’r llwybr mynediad yn atal dulliau torri mecanyddol, neu lle nad yw’r pla’n drwchus a’i fod yn wasgaredig, sy’n golygu na fydd planhigion nad ydynt yn cael eu targedu yn cael eu heffeithio. Mae dulliau rheoli â llaw yn fwy detholus ac yn ffurf ratach at ei gilydd o reoli, er ei bod yn drwm o ran llafur, ac mae cynnal sawl ymweliad â safleoedd yn ystod tymor yn dal i gynhyrchu costau.

Er eu bod yn fach, mae tynnu’r planhigion Jac y neidiwr bach hyn â llaw ar ddechrau’r tymor yn well na disgwyl tan fod eich mynediad wedi’i rwystro gan lystyfiant arall ym mis Mai/Mehefin, pryd y bydd yn bosibl bod mwy o blanhigion Jac y neidiwr i ddelio â hwy, â’r rheiny’n fwy o ran maint.

Jac y neidiwr i’w dynnu ym mis Ebrill ar darddle isafon Cwm Gwaun, Nant Pontfaen

Himalayan balsam to be plucked in April on a source tributary of Cwm Gwaun, Pontfaen brook

Cyflawnir gwaith rheoli effeithiol â llaw trwy sicrhau nad yw planhigion sy’n cael eu tynnu yn cael llonydd i aildyfu o nodau, trwy greu pentyrrau o Jac y neidiwr sy’n tampio. Yn ddelfrydol, caiff pentwr mawr o Jac y neidiwr ei slaesio cyn gadael y safle, gan ei wirio a’i droi bob rhyw ychydig o wythnosau, hyd nes y bydd holl ddeunydd y planhigion yn sych neu’n pydru.

O ran coesynnau unigol a dynnwyd, neu lond llaw o goesynnau, gellir eu rhoi ar ganghennau, mieri, rhedyn, ffensys neu feini mawr i sychu. Os ydych yn creu pentwr, gofalwch eich bod yn mynd i gael golwg arno o fewn ychydig o wythnosau!

Pulled Himalayan balsam plants that have been placed on a rock to dry out

Coesynnau Jac y neidiwr o’r tymor blaenorol a adawyd i sychu ar fieriHimalayan balsam stems that have been left to dry out for a whole season

Bydd coesynnau a dynnwyd gyda’r pridd yn dal i fod arnynt yn blodeuo ac yn hadu. Mae’n ymarfer da i dorri coesynnau a dorrwyd, neu dynnu’r swbstrad sydd arnynt a/neu eu torri o dan y nod gwaelod. Unwaith y byddwch yn dod i arfer tynnu a thorri, byddwch yn arbed amser gan eich bod yn rheoli’r planhigyn trwy wneud hyn, yn hytrach na gorfod cadw golwg ar goesynnau sydd wedi cael eu torri neu slaesio. Gellir defnyddio dulliau gwaredu â llaw trwy gydol y tymor rheoli, ynghyd â dulliau eraill. O safbwynt bioddiogelwch, mae’n arfer da i ddefnyddio brwsh i lanhau eich esgidiau neu eu crafu wrth adael safle Jac y neidiwr.

Mae’r planhigion Jac y neidiwr wedi cael eu tynnu a’u hongian ar gangen gyda’r pridd yn dal i fod arnynt, mae’r coesyn wedi codi tua’r golau, bydd y planhigyn hwn yn blodeuo ac yn hadu.

Himalayan balsam stems that have been pulled and hung on a branch with earth still attached, the stem has arched towards the light, this plant will flower and set seed

Mae’r coesynnau isod wedi cael eu tynnu a’u gadael ar y ddaear heb dorri’r coesyn, mae’r coesyn wedi codi sy’n golygu bod yr hadau’n gallu gwasgaru. Rhaid eu tynnu a’u torri neu eu slaesio bob amser!


Himalayan balsam stems below have been pulled and left on the ground without cutting the stem, the stem has arched enabling the seeds to be dispersed. Himalayan balsam stems below have been pulled and left on the ground without cutting the stem, the stem has arched enabling the seeds to be dispersed.

Dulliau mecanyddol
Mae defnyddio strimiwr yn fodd ardderchog o fynd i’r afael â phla trwchus o Jac y neidiwr. Mae ei reoli’n effeithiol yn gofyn am sicrhau y caiff planhigion eu torri o dan y nod gwaelod i’w hatal rhag aildyfu o un coesyn i greu tri neu bedwar o goesynnau newydd. Yn dibynnu ar y cyfeiriad y mae’r safle’n ei wynebu, gall coesynnau ddatblygu nod gwaelod pan maent wedi tyfu 6-10 modfedd yn ystod diwedd Ebrill/Mai. Po fwyaf yw’r ardal y mae’n rhaid gweithio arni, y mwyaf llafurus fydd y gwaith, gan y bydd angen ailymweld â’r safle gyda thorrwr brwsh hyd at fis Gorffennaf, pryd y bydd dulliau rheoli â llaw yn cymryd trosodd.

Bydd defnyddiwr profiadol yn gallu osgoi rhywogaethau nad ydynt yn rai sy’n cael eu targedu. Wrth weithio gyda ‘bydi’, mae’n well gen i ddefnyddio llafn, gan fod cordyn yn gwasgaru plastig, na ellir dod o hyd iddo wedyn oherwydd ei fod yn dod i ffwrdd mor gyflym.

Mae torwyr brwsh trydan yn ysgafnach ac nid ydynt yn rhedeg ar danwydd, er bod batris yn ddrud.

Mae defnyddio peiriannau fel peiriant ffustio yn ddull mwy cost effeithiol o ddelio â safle trwchus mawr dros sawl hectar, yn hytrach na chyflogi 8 o bobl ar 8 o strimwyr, os yw’r tir yn addas er mwyn i’r peiriant gael mynediad neu er mwyn iddo greu mynediad.

Yn dibynnu ar y safle (o ran p’un a yw mewn lleoliad agored, yn agored i’r tywydd, yn gysgodol, i ba gyfeiriad y mae’n wynebu), mae’n well eu torri gyntaf pan fo’r planhigion yn fwy, ac yn ddelfrydol, o ddiwedd Mai ymlaen, sy’n caniatáu i’r nod gwaelod a diamedr y coesyn ddatblygu. Gall y costau fod yn uwch yn ystod tymor un, o ganlyniad i ddefnyddio peiriant, ond rhai tymor byr yw’r rhain, gydag offer a reolir â llaw a/neu strimwyr yn cymryd drosodd o fis Gorffennaf. Ni fydd llawer o ofyn am ddefnyddio peiriant o fewn yr un ardal yn ystod y tymhorau dilynol, os o gwbl. Mae’n debygol y bydd angen gwneud gwaith i gael mynediad yn ystod y gaeaf, er mwyn cael y peiriant i mewn, a chael mynediad i blanhigion Jac y neidiwr yn ystod y tymor cyntaf lle ceir plâu mawr o fewn prysgwydd.

O ran defnyddio unrhyw beiriannau â theiars neu draciau ar safle â banc o hadau Jac y neidiwr, mae’n RHAID sicrhau bod y peiriant yn lân wrth adael y safle. Dylid darparu ar gyfer hyn o fewn y gyllideb, ynghyd â’r amser y bydd ei angen i gyflawni’r dasg bwysig hon mewn llecyn dynodedig ar y safle, a gytunwyd gyda’r tirfeddiannwr.

Jac y neidiwr yn egino mewn llecyn lle bu peiriant. Mae gan hyn y potensial i drosglwyddo hadau, ac yn yr achos hwn, planhigion bychain oddi ar y safle ar deiars neu draciau – RHAID I CHI LANHAU’R PEIRIANT!Germinating Himalayan balsam in an area where a machine has been accessing - this has the potential to transfer seeds and in this case small plants off site through tyres or tracks

Dulliau Cemegol
Oherwydd llwyddiant defnyddio dulliau rheoli â llaw neu rai mecanyddol, prin iawn yw’r angen i ddefnyddio chwynladdwyr, onid yw’r safle’n anniogel ar gyfer defnyddio dulliau rheoli organig am ba reswm bynnag.

Pori
Nid yw’r prosiect hwn wedi trefnu i ddefnyddio pori fel dull o reoli Jac y neidiwr ar draws ardaloedd y prosiect. Yn aml, mae pori Jac y neidiwr yn digwydd yn anuniongyrchol os oes unrhyw stoc yn bresennol. Mae’n sicr o fod yn werth pori’r tir a gall fod yn fwy addas ar gyfer cynnal safle yn y tymor hwy, yn hytrach na fel prif fodd o reoli Jac y neidiwr ar safle strategol iawn.

I’r dulliau rheoli fod yn effeithiol, mae’n rhaid i ni dorri coesynnau o dan y nod gwaelod. Er mwyn i bori fod yn effeithiol, rhaid cnoi’r coesynnau islaw’r nodyn gwaelod, mae hyn yn dibynnu ar b’un a oes gan y stoc dan sylw flas am Jac y neidiwr, trwch y planhigion Jac y neidiwr y mae’r stoc yn ceisio eu taclo, ac argaeledd llystyfiant mwy dymunol. Bydd angen i rywun ddilyn hyn gan waith i fynd i’r afael â rheolaeth aneffeithiol ar ôl pori. Fodd bynnag, o ran safle a leolir yn is i lawr mewn dalgylch ar brif afon, efallai na ellir cyfiawnhau defnyddio dulliau rheoli â llaw neu rai mecanyddol, ond gallai pori helpu fel man cychwyn, hyd nes y bydd eich prosiect wedi cyrraedd mor bell â hynny.

Two images stitched together. One showing growth of a Himalayan Balsam above a node and an image of a pulled balsam plant showing growth above the bottom node

During seeding time (generally July/August onwards) stock will be moving through balsam which may spread the balsam locally or wider if the stock is taken off the site as well as machines used for transport. This

Yn ystod y cyfnod hadu (yn gyffredinol, o fis Gorffennaf/Awst ymlaen) bydd stoc yn symud trwy blanhigion Jac y neidiwr, sy’n gallu lledaenu Jac y neidiwr yn lleol neu i ardal ehangach os bydd yr anifeiliaid hyn yn cael eu symud oddi ar y safle, yn ogystal ag ar beiriannau a ddefnyddir ar gyfer eu cludo. Mae’r risg o’r llwybr lledaenu hwn yn isel, ond mae’n rhywbeth sy’n werth ei ystyried.

Y fantais aruthrol o gael stoc (gwartheg, ceffylau, defaid neu eifr) ar y safle yw y bydd llwybrau mynediad yn cael eu cynnal a rhai newydd yn cael eu creu o ganlyniad i’w symudiadau. Sicrhewch bob amser bod y safle wedi’i ddiogelu gan ffens cadw stoc ac ati. Nid yw geifr mor ffyslyd, ond maen nhw’n gallu neidio, felly cofiwch hynny.

Jac y neidiwr sy’n blodeuo, ynghyd â rhoi hadau mewn bag
Mae mabwysiadu polisi dim blodau yn allweddol. Yn ddelfrydol, bydd Jac y neidiwr yn cael ei dorri bob 3 neu 4 wythnos o Ebrill/Mai ymlaen. Efallai y byddwch wedi dechrau tynnu coesynnau ym mis Mawrth/Ebrill os ydych yn ddigon strategol – sy’n lleihau’r banc o hadau sy’n egino ar ôl pob ymweliad.

Gellir torri a/neu dynnu planhigion Jac y neidiwr sy’n blodeuo os ydych yn cymryd gofal i’w hatal rhag aildyfu, h.y. trwy eu torri’n glec, eu torri ag offer llaw, sychu’r coesynnau a chadw golwg arnynt.

Bydd coesyn sydd wedi blodeuo, sy’n cael ei dynnu o’r ddaear heb ei dorri, gyda’r swbstrad yn dal i fod arno, yn hadu, ac yn gwasgaru ei hadau hyd yn oed os caiff ei adael ar ben llystyfiant arall i sychu, neu ei fod dim ond wedi cael ei roi ar y ddaear.

Nid oes ar nodau Jac y neidiwr angen fawr o gysylltiad â’r ddaear, os o gwbl, fe adawyd y planhigyn hwn ar y gangen i sychu, fe ddisgynnodd i ffwrdd, ac mae’n ffynnu!

Himalayan balsam plant that has been pulled and left on a branch to dry , has fallen off and is now thriving

Mae’r blodau’n disgyn i ddatgelu coden hadau werdd fach. Yn y cyfnod hwn, nid yw’r hadau o fewn y codennau’n ddigon aeddfed eto i ychwanegu at y banc hadau. Os bydd y coesynnau sy’n dal y capsiwlau hadau ifanc hyn yn cael eu torri i leihau’r adnoddau sy’n cyrraedd y goden sy’n datblygu, yna byddant yn dysychu a ddim yn datblygu.

Yn dibynnu ar ba gyfeiriad y mae’r safle’n ei wynebu, o fewn rhyw bythefnos, bydd y codennau’n cynnwys hadau byw. Yn gyffredinol, mae’r rhain yn ddu ar ôl aeddfedu’n iawn a phryd y bydd y codennau wedi chwyddo.

Himalayan balsam pods and seeds resting in the palm of someone's hand

Fesul safle, gall rhoi pennau hadau cyflawn mewn bagiau helpu i leihau faint o hadau sy’n mynd i mewn i’r system, a gall hyn wneud cyfraniad ystyrlon i’ch ymdrechion i reoli’r planhigyn.

Os yw hadau wedi datblygu, yna defnyddiwch y dull hwn ar safleoedd sy’n ddigon strategol i gyfiawnhau’r ymdrech, fel tarddle dalgylch neu sgil-ardal ynysig, ac yn ystod ymweliadau ar gyfer gwneud gwaith monitro a chynnal yn y dyfodol yn ystod diwedd y tymor.

Roedd yn syndod i ni faint o fwlio y mae pen hadau Jac y neidiwr yn gallu ei ddioddef cyn gwasgaru ei hadau, er, erbyn mis Awst/Medi, bydd hyd yn oed codennau bach yn byrstio, gan gynnwys y planhigion hynny sydd wedi egino’n hwyr nad ydynt ond yn cyrraedd 5 modfedd.

Mae rhoi codennau Jac y neidiwr mewn bagiau yn dasg i ddau o bobl, er mwyn cadw eu synnwyr digrifwch a’u pwyll. Yn gwisgo sbectolau diogelwch, gydag un yn defnyddio’r siswrn tocio a’r llall yn gafael mewn bag bwyd anifeiliaid cryf, torrwch y coesyn o dan ben y blodyn a rhowch o yn y bag, daliwch ati i wneud hyn gan geisio lleihau faint o ddeunydd, ar wahân i bennau’r hadau, sy’n mynd i mewn i’r bag, i arbed lle.

Himalayan balsam removal in the Pembrokeshire Coast National Park, Wales, UK

Bydd, bydd rhywfaint o’r hadau’n dianc hyd nes y byddwch wedi dod i arfer, ond bydd modd i rywun hollol ddibrofiad hyd yn oed gipio’r mwyafrif helaeth o’r hadau. Bydd cynnwys y sachau’n cael ei adael i bydru ar y safle mewn lleoliad diogel ar wahân, i ffwrdd o ddŵr. Ar ôl 3 thymor, gwagiwch y màs o laid i mewn i gynhwysydd neu ar ran o’r safle i ffwrdd o ddŵr ddiwedd y gwanwyn, a gofalwch na fydd unrhyw beth yn egino.

Bydd, bydd yr hadau’n egino os defnyddiwch fag clir, ac os yw llystyfiant yn cael ei ddal yn eich sach, felly sachau bwyd ieir/anifeiliaid cryf sydd orau. Os welwch chi wenynen yn mynd i mewn i flodyn a chanddo godennau aeddfed, disgwyliwch iddi fynd allan cyn i chi roi’r blodyn yn y bag.

Mae angen amser i ymgymryd â’r dull hwn, ond mae o’n werth o, os gallwch ei gyfiawnhau. Ond cofiwch nad rhoi hadau mewn bagiau yw’r dull a ffefrir, ac mae’n well gwneud hyn ar safleoedd sydd heb bla trwchus, sy’n rhai strategol iawn, neu yn ystod gwaith monitro a chynnal.

Safle A – 6ed Gorffennaf, un planhigyn Jac y neidiwr yn ei flodau

Image of one Himalayan balsam plant in flower in a woodland in early July

 

Safle A- 10fed Awst, mae bob un yn eu blodau ac yn cynhyrchu hadau byw. Rhoddwyd y pennau blodau i gyd mewn bag, nid ydynt yn ffrwydro wrth eu cyffwrdd, ond fe fyddant ar ôl rhyw bythefnos. Mae’r safle’n wynebu’r gogledd.

A number of Himalayan balsam in a woodland, in flower and producing viable seed, all flower heads are bagged, not exploding on contact, another couple of weeks and they will. North facing aspect

Mae rhoi pennau hadau/blodau mewn bagiau yn addas i wirfoddolwyr sy’n awyddus i wneud hyn, ond nid yw hon yn dasg i wirfoddolwyr nad oes ganddynt wir ddiddordeb, oherwydd ei fod yn cymryd amser ac yn golygu bod rhaid canolbwyntio.

Mewn clwstwr trwchus o Jac y neidiwr, gall achosi i ambell goden o hadau ffrwydro gael effaith ‘ddomino’. Felly, ydy, mae’n bwysig gwybod pryd i gerdded i ffwrdd, a chynllunio’n unol â hynny ar gyfer yr ardal honno, mewn pryd ar gyfer y tymor dilynol.

O safbwynt arferion i sicrhau bioddiogelwch, sicrhewch eich bod yn gorchuddio eich gwallt, eich bod yn ysgwyd unrhyw haenau allanol o ddillad, yn ogystal â chrafu eich esgidiau neu eu brwsio cyn gadael y safle.

Dyma safle i droi cefn arno am y tro hyd nes y byddwch wedi gwneud cynlluniau ar gyfer y tymor nesaf!
Area of a woodland being completely overtaken by Himalaya balsam plants with pink flowers on very tall plants

Yn ôl i’r top

 

8. Gweithio gyda phobl

8.1 Contractwyr

Mae rheoli INNS yn waith da i wirfoddolwyr ond mae contractwyr yn gwbl hanfodol wrth weithio ar raddfa fwy. Mae contractwyr yn werthfawr yn y modd a ganlyn:

Safleoedd sydd â phla mawr iawn lle byddai grwpiau o wirfoddolwyr yn brwydro i gael effaith ac efallai’n digalonni. Fel y mae plâu’n lleihau, mae’n llai cost effeithiol i ddefnyddio contractwyr a gall grwpiau o wirfoddolwyr ddechrau mynd i’r afael â’r safle.

I sicrhau ymdrechion cyson sy’n hanfodol o ran ein dulliau gweithio, gellir defnyddio contractwyr wedyn hefyd i gefnogi ymdrechion gwirfoddolwyr, er enghraifft, os gadawyd bwlch gan wirfoddolwyr o ganlyniad i dywydd gwael neu niferoedd bychain oherwydd gwyliau. Gellir defnyddio contractwyr i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau’n gyflym, a sicrhau bod ymdrechion gwirfoddolwyr yn cael eu cynnal a’u bod yn parhau i gael eu hysgogi.

Safleoedd sy’n llai difyr neu’n llai diogel i wirfoddolwyr weithio arnynt fel rhwydweithiau ffosydd is-afon, sydd yn aml yn arwain o ffermydd mewn llystyfiant trwchus gwlyb neu fannau serth.

Safleoedd lle mae tirfeddianwyr yn amharod i ganiatáu mynediad i wirfoddolwyr – ni fydd hyn yn rhoi diwedd ar y prosiect, yn aml, bydd gan dirfeddiannwr resymau da dros beidio â bod eisiau i wirfoddolwyr fod ar y tir (defnydd tir, amseriad o ran cynaeafu, cylchdroi/gwahardd stoc, diogelwch cyffredinol grŵp o bobl yn hytrach na phâr o gontractwyr, ynghyd â mannau parcio). Defnyddiwyd staff y Parc Cenedlaethol a/neu gontractwyr ar yr ychydig adegau na fu modd caniatáu gwirfoddolwyr.

Yn ogystal â chontractwyr arferol sy’n gweithio yng nghefn gwlad, cawsom fod y gwaith hwn yn ddeniadol i gontractwyr garddio a thirlunio a rhai sy’n gweithio ar eu liwt eu hunain.

Yn wreiddiol, nid oedd sawl un o’r contractwyr wedi cyflawni’r math hwn o waith o’r blaen ac, yn ystod y prosiect, roeddynt wedi dod yn arbenigwyr eu hunain, ac wedi rhoi adborth i ni am ddulliau gweithio ac amseriad y gwaith.

Trwy gydol y prosiect, cawsom ei fod yn beth da i ddefnyddio’r un contractwr ar yr un safleoedd neu rannau o afon. Mae defnyddio’r dull hwn yn golygu bod y contractwr yn dod i adnabod y safle, a hefyd yn rhoi sicrwydd i dirfeddianwyr oherwydd eu bod yn meithrin perthynas â’r contractwr. Yn y modd hwn, mae’r contractwr yn chwarae rôl o ran parhau i ymgysylltu â thirfeddianwyr a sicrhau eu bod wedi ymrwymo i’r prosiect, a gall hefyd ddarparu adborth er mwyn bod yn barod am unrhyw broblemau posibl.

Yn ôl i’r top

 

8.2 Gweithio gyda chymunedau a gwirfoddolwyr

Bu grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yn ased aruthrol i’n prosiect INNS, yn nhermau’r ymrwymiad o ran oriau gwirfoddolwyr a gwybodaeth leol hefyd. Oherwydd eu bod yn fwy tebygol o fod yn byw yn yr ardal leol yng nghyffiniau’r ardal sy’n cael ei rheoli, gallant hefyd chwarae rôl unigryw mewn monitro a chynnal prosiectau ar ôl cwblhau’r cyfnod o waith rheoli dwys.

Cawsom fod y disgwyliadau o ran grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yn gallu bod braidd yn afrealistig. Ymddengys fod disgwyliad y dylai’r grwpiau hyn allu trefnu a chyflawni’r gwaith hwn eu hunain ar ôl rhywfaint o ‘hyfforddiant’, a dod yn gwbl hunangynhaliol. Mewn sawl achos, mae disgwyl iddynt gymryd trosodd unwaith y mae’r prosiect yn dirwyn i ben, ar ôl tynnu cymorth swyddog prosiect yn ôl, ynghyd â hyfforddiant a chyllid ar ôl i gyllid prosiect ddod i ben.

Mae dull ar raddfa dalgylch neu dirwedd o fynd i’r afael ag INNS yn gofyn am allu delio â sawl tirfeddiannwr, cydlynu’r defnydd o gontractwyr ar safleoedd sy’n anaddas i wirfoddolwyr, sicrhau yr ymwelir â safleoedd yn ddigon rheolaidd i sicrhau rheolaeth effeithiol – hyd yn oed yn ystod cyfnodau o dywydd gwael, ac i wneud ymrwymiad i wneud hyn am 3-5 mlynedd a mwy! Mae’n lawer i ofyn, a pho fwyaf yw’r ardal a’r mwyaf cymhleth ydyw, y mwyaf fydd yr ymrwymiad. Nid dweud nad yw hyn fyth yn digwydd yr ydym ni – mae gennym enghraifft wych yn y Parc Cenedlaethol, ond byddwch yn dieithrio eich grwpiau’n gyflym iawn os dyma’r hyn yr ydych yn ei ddisgwyl.

Yn ymarferol, buom yn fwy gofalus na hynny o ran y modd yr ydym yn ymgysylltu â grwpiau cymunedol, ac rydym wedi magu rhywfaint o’n profiad yma, ac yn gobeithio y bydd hyn yn eich helpu i benderfynu sut i ymrwymo grwpiau cymunedol yn eich prosiect INNS, ynghyd â rhai o’r pethau y byddwch eisiau eu hystyried efallai.

Bydd y modd y mae llawer o grwpiau cymunedol yn gweithredu yn gyfyngedig o safbwynt daearyddol, a’r rheiny’n aml yn gweithio o amgylch aneddiadau neu leoedd poblogaidd, ac mewn sawl achos, nid yw’n hawdd annog y grwpiau hyn i weithio y tu hwnt i’r ardaloedd hyn. Trwy fapio ardaloedd y grwpiau cymunedol ar draws ardal eich prosiect, gallwch gael argraff o’r modd y gall grwpiau cymunedol gyfrannu at eich prosiect, ynghyd â lle mae’r bylchau y bydd angen eu llenwi gan grwpiau gwirfoddolwyr sy’n gweithredu ar raddfa ranbarthol neu ledled y sir.

Mae graddfa’r ymdrech a fynnir yn ystod y ddwy flynedd gyntaf o’r cyfnod o waith rheoli dwys yn sylweddol, a hynny bob tua thair wythnos. Mae hyn y tu hwnt i gwmpas y mwyafrif o grwpiau. O ran safleoedd mawr neu â phlâu trwchus, bydd angen ategu eu hymdrechion â rhagor o grwpiau o wirfoddolwyr neu gontractwyr. Fel y mae ardal pla yn lleihau, gall y gwaith ddod yn haws i’w reoli. Mae sawl math o grŵp cymunedol. Defnyddir rhai i gyflawni tasgau ymarferol, ac maent wedi’u hyswirio’n llawn ac yn cynnal eu hasesiadau risg eu hunain ac yn darparu eu pobl eu hunain i arwain tasgau, â’r rheiny’n gymwys i roi cymorth cyntaf. Mae’r grwpiau hyn yn gallu gweithio’n annibynnol o gydlynydd y prosiect. Fel arall, bydd angen i’r cydlynydd prosiect ddarparu digon o oruchwyliaeth, ynghyd â dyletswydd gofal i sicrhau bod grwpiau cymunedol sy’n gwirfoddoli yn cael eu hyswirio’n briodol wrth gymryd rhan yn y prosiect.

Gall ymrwymo grwpiau cymunedol fod yn ddibynnol ar un neu ddau o unigolion ymroddedig, ac felly gallant gael eu heffeithio gan newidiadau o ran amgylchiadau personol. Mae’n bwysig holi grwpiau cymunedol yn rheolaidd i weld sut mae pethau’n mynd.

Nid yw pob safle neu ardal yn addas i grwpiau cymunedol. Mae rhai safleoedd yn llai deniadol am amryw resymau. Safleoedd deniadol prif afonydd, yn erbyn ffosydd mewn tir fferm sydd wedi’i wella.

Mae gan un o’n safleoedd fragdy, ynghyd â thirfeddianwyr croesawgar iawn a oedd yn ei wneud yn safle delfrydol i’w fabwysiadu gan grŵp o wirfoddolwyr oedd yn gweithio ledled y parc. Roedd hyn yn llwyddiant am y 3 tymor cyntaf. Fel y daeth y pla i fod yn llai trwchus dros yr un ardal, cafwyd bod grŵp o 15 o wirfoddolwyr yn chwilio am ddwsin o goesynnau Jac y neidiwr. Nid oedd hyn yn gwneud y defnydd gorau o’u hamser, ac felly daethpwyd o hyd i bla mwy heriol iddynt, gan adael i’r Swyddog Prosiect, Parcmon yr ardal a’r tirfeddiannwr fonitro tir y bragdy am ailddyfodiad unrhyw bla.

Trwy ein gwaith INNS yn y Parc Cenedlaethol, rydym wedi sefydlu rhywfaint o fodelau sylfaenol.

Arweinir gan y gymuned
Y grŵp cymunedol sy’n arwain pob agwedd ar y prosiect. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â thirfeddianwyr, cyflawni gwaith rheoli a chwilio am gyllid. Yn ymarferol, rhyw un neu ddau o unigolion ymroddedig iawn sy’n arwain y gwaith hwn fel arfer. Bydd grwpiau fel arfer wedi ffurfio’n barod ac yn cwrdd â’r gofynion gweinyddol sylfaenol fel yswiriant er enghraifft. ASTUDIAETH ACHOS Llandudoch.

Partneriaeth Asiantaeth Gymunedol

Cyflawnir pob agwedd ar y cyd, o gynnal arolwg o safle drwodd i gysylltu â thirfeddianwyr a chyflawni gwaith rheoli. Mae’r cydlynydd prosiect yn gweithredu fel hwb ar gyfer cyfeirio’r gwaith a darparu cyngor, ac yna caiff y gwaith ei gyflawni wedyn gan y gymuned. Gall y cydlynydd prosiect fod yn allweddol o ran helpu i ddileu rhwystrau sy’n atal y gwaith rheoli, e.e. cynorthwyo i fynd i’r afael â safleoedd anodd (llethrau serth) neu safleoedd â phlâu trwchus, trwy gymorth pwyllog gan staff neu ddefnyddio adnoddau contractwyr. Mae hyn yn cynyddu’r gobaith o lwyddo ac yn meithrin hyder yn y gymuned o ran y gallu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol. ASTUDIAETH ACHOS Trewyddel.

Arweinir gan asiantaeth
Mae’r cydlynydd prosiect yn arwain pob agwedd ar y prosiect. Defnyddir grwpiau cymunedol ar safleoedd yn rheolaidd trwy gydol y tymor. Yn gyffredinol, bydd yr ardal ddaearyddol yn fwy. Gall grwpiau cymunedol ymrwymo i ardaloedd daearyddol penodol o fewn y dalgylch, ond y cydlynydd prosiect sy’n gyfrifol am gydlynu’r ymdrechion yn gyffredinol. ASTUDIAETH ACHOS Cwm Gwaun.

Astudiaeth Achos: Trewyddel
Grŵp cymunedol lleol bach oedd yn mynd i’r afael â phla mewn dyffryn arfordirol bach. Canolbwyntiwyd eu hymdrechion ar ran isaf y dalgylch. Bu modd i brosiect Pwyth Mewn Pryd ddod i’w helpu i gyflawni arolwg o’r dalgylch cyfan a oedd yn datgelu plâu mwy yn uwch i fyny yn y dalgylch, y byddai rhywfaint ohonynt wedi bod yn anodd i’r gymuned fynd i’r afael â hwy eu hunain. O ganlyniad i hyn, mae’r cydlynydd bellach yn cydweithio â’r gymuned i ail-flaenoriaethu eu gwaith ac yn cynorthwyo trwy ddefnyddio contractwyr mewn ardaloedd na ellir mynd i’r afael â hwy gan y gymuned yn y lle cyntaf. Yn y diwedd, dylai’r ymagwedd hon arwain at ddod â Jac y neidiwr dan reolaeth ar draws y dalgylch cyfan, ac mae o wedi arwain, yn anuniongyrchol, at y contractwr yn gweithredu fel Swyddog Prosiect ‘de facto’ o ganlyniad i bresenoldeb mwy cyson ar lawr gwlad.

Image showing an area of a small coastal valley being overwhelmed by tall Himalayan balsam plants with pink flowersImage of a small coastal valley with volunteers pulling Himalayan balsam plants.

Astudiaeth Achos: Cwm Gwaun
Yng Nghwm Gwaun, bu Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cyflawni gwaith i reoli clymog Japan a Jac y neidiwr ar ein safleoedd am flynyddoedd lawer. Er y cawsom rywfaint o lwyddiant mewn safleoedd unigol, yn gyffredinol, ymddengys nad oeddem yn datrys y broblem. Bu modd i brosiect Pwyth Mewn Pryd gynorthwyo trwy ddefnyddio dull strategol o reoli plâu i fyny’r afon ac mewn ardaloedd cyfagos, sydd bellach wedi lleihau’r adnoddau a ddefnyddir ar ein safleoedd ein hunain.

10 people standing on a wooden footbridge over a river. People pictured are volunteers who have been removing Himalayan Balsam from the Gwaun Valley, Pembrokeshire, Wales, UK

Astudiaeth Achos: Cymdeithas Llandudoch
Gan adeiladu ar lwyddiant blaenorol o ran mynd i’r afael â rhywogaeth estron oresgynnol arall (clymog Japan), derbyniodd Cymdeithas Llandudoch £22,650 mewn cyllid SDF, dros ddau dymor tyfu planhigion olynol, ar gyfer gwaredu, atal lledaeniad a chyfyngu twf llethol Jac y neidiwr ar y tir heriol yn Nhrwyn Cemaes.

Roedd y technegau a ddefnyddiwyd yn dibynnu ar y safle ac yn cynnwys peiriant ffustio, defnyddio llif gadwyn, torrwr brwsh, a thynnu planhigion â llaw fel y bo’n briodol. Mae’r holl waith caled, ac ewyllys cadarn, wedi llwyddo i leihau’r planhigion o drwch o 350 planhigyn y m2 mewn mannau, i ddim ond ambell blanhigyn yma ac acw, ynghyd â llecynnau unigol.

Y prosiect llwyddiannus hwn a arweiniwyd gan y gymuned oedd y sail ar gyfer strategaeth reoli dalgylchoedd Pwyth Mewn Pryd.

Yn ôl i’r top

 

8.3 Tirfeddianwyr

Fel arfer, yr adeg y bydd tirfeddianwyr yn cael eu cyflwyno i’r prosiect am y tro cyntaf yw pan dderbynnir cais cychwynnol am ganiatâd i gael mynediad a chynnal arolwg. Dyma pryd y gallwch godi ymwybyddiaeth am INNS, y problemau cysylltiedig, gan baratoi’r ffordd ar gyfer ceisiadau pellach am gydweithrediad i gynnal gwaith rheoli.

Mae tirfeddianwyr yn bobl brysur, ni fyddai’n syniad da i chi fynd trwy’r rhestr a ganlyn os nad ydych yn teimlo bod ganddynt amser i wrando:

  • Helo, rydw i’n cydlynu prosiect sy’n ymwneud â rheoli Jac y neidiwr, ac eisiau caniatâd i gynnal arolwg, yn enwedig o ddŵr!!
  • Pa beryglon ddylwn i fod yn ymwybodol ohonyn nhw yma? A fyddai’n bosib i mi gael caniatâd i wneud gwaith rheoli, a chael mynediad gyda gwirfoddolwyr, contractwyr?
  • Yn lle allwn ni i gyd barcio? Pa ddefnydd a wneir o’r tir, beth ydy hanes y pla, sut mae’n cael ei reoli ar hyn o bryd?
  • Ydych chi, y tirfeddiannwr, yn barod i chwarae rhan yn y gwaith rheoli a monitro? A fyddai modd i ni drafod materion o ran bioddiogelwch? Ydych chi’n prydlesu neu’n berchen tir yn rhywle arall o fewn y dalgylch neu du hwnt? Beth ydy enw eich cymdogion os gwelwch yn dda? Byddaf angen mynd i’w gweld nhw.

Yn dibynnu ar yr unigolyn, fe ddaw’n amlwg faint o fanylion sy’n ‘ddiogel’ i’w rhannu yn ystod yr ymweliad cyntaf. Dylid o leiaf sicrhau caniatâd i gael mynediad i gynnal arolwg gyda’r tirfeddiannwr yn amlygu peryglon y safle a’i ddealltwriaeth o faint y pla, er mwyn i chi ddeall graddau’r sefyllfa, a ph’un a ydych yn croesi ffiniau perchnogaeth ac y byddai dychwelyd gyda ‘bydi’ yn fwy diogel.

Mae cyfarfod dilynol yn gyfle da wedyn i ddarparu adborth ar eich canfyddiadau, i ofyn rhagor o gwestiynau ac amlygu’r hyn y gallai’r perchennog ei wneud ar y pryd i liniaru unrhyw broblemau o ran bioddiogelwch. Os nad oes unrhyw obaith y bydd y perchennog yn fodlon rheoli’r prosiect, mae’n dal i fod yn werth crybwyll y syniad i weld p’un a fyddai’n hoffi chwarae rhan mewn prosiect yn y dyfodol, a beth fyddai hyn yn ei olygu.

Mae egluro arwyddocâd eu tir o fewn y dalgylch ehangach yn bwysig, neu, i’r gwrthwyneb, amlygu ardaloedd penodol o’r safle, sy’n helpu perchnogion i ddeall cymhlethdod y dasg o’u blaenau a pha mor hanfodol yw eu hymrwymiad yng nghyd-destun y dalgylch, neu os yw’r rhywogaeth darged wedi cyrraedd tir cyfagos.

Ar draws pob dalgylch, y 3 cwestiwn cyntaf a ofynnir i’r Swyddog Prosiect gan y mwyafrif o dirfeddianwyr yw:

  • Beth sydd gennych chi i’w wneud efo llygredd?
  • Beth sydd gennych chi i’w wneud efo cynllunio? Yr ateb i hyn yw ‘Dim byd’ onid hynny yw’r rheswm dros eich ymweliad!
  • Faint mae hyn am ei gostio i mi?

 

Rôl tirfeddianwyr
Mewn byd delfrydol, mae effaith Jac y neidiwr mor amlwg fel bod tirfeddianwyr yn hapus i dalu i’w reoli ar draws y tir a berchnogir ganddynt, neu fod modd defnyddio grant prosiect i dalu costau uchel cychwynnol y prosiect. Nid ydym yn disgwyl i dirfeddianwyr dalu am yr holl waith rheoli neu gymryd cyfrifoldeb am y cwbl. Croesawir eu cyfranogiad yn fawr a dylid eu hannog, ond ni ddylai hynny fod yn hanfodol ar gyfer prosiect sy’n cael ei ariannu neu fod y gymuned yn gyfrifol amdano.

Os oes modd i dirfeddiannwr gyfrannu o ran ei amser a/neu arian, yna gwariwch yr arian hwnnw’n ddoeth. Dylai canlyniadau eu cyfraniad fod yn amlwg a chael eu cytuno o fewn ardal ac ar raddfa briodol, fel o amgylch adeiladau fferm, yr ardd neu’r iard, nid yn ffosydd y fferm! Fel cam cyntaf, dylid cynorthwyo’r tirfeddiannwr/rheolwr i liniaru unrhyw broblemau o ran bioddiogelwch trwy gynnig cyngor a chymorth ymarferol os yn bosibl.

Ar ddechrau’r prosiect hwn, treuliwyd mwy o amser yn canolbwyntio ar ymgysylltu â thirfeddianwyr mewn perthynas â’r ardaloedd tir sydd angen eu rheoli fwyaf o safbwynt strategol, h.y. tarddle is-afon neu ardal ynysig.

Os yw tirfeddianwyr yn barod i chwarae rhan o safbwynt ymarferol, mae’n bwysig amlygu pa mor aml y bydd angen ymweld â’r safle yn y tymor canolig. Mae’n fwy tebygol y bydd perchennog yn tynnu planhigion Jac y neidiwr pan fo’r planhigyn yn fwy gweladwy, felly bydd angen rhoi mesurau ar waith i sicrhau nad oes unrhyw beth yn cael ei fethu cyn iddo hadu, gan y bydd hynny’n golygu y bydd llawer i’w wneud.

Tirfeddiannwr yn monitro ffos am Jac y neidiwr yn rhannau uchaf dalgylch Castlemartin Corse.Landowner monitoring a ditch for Himalayan balsam in the upper reaches of the Castlemartin Corse catchment, Pembrokeshire, Wales, UK

Yma roedd tirfeddiannwr wedi cytuno i wneud gwaith rheoli o amgylch yr ardd lysiau.Image showing a few Himalayan balsam plants growing at the edge of a vegetable garden

Yn yr achos hwn, mae tirfeddiannwr wedi defnyddio chwynladdwr i waredu Jac y neidiwr a oedd yn dod i mewn i gae, wrth drin dail tafol ac ysgall.A grassy field showing dying Himalayan balsam plants around the edge, which have been treated with herbicide

Bydd tirfeddianwyr eisiau cael rhybudd o ymweliadau gan gontractwyr neu bartïon o wirfoddolwyr sy’n dod i weithio ar eu tir. Mae’n synhwyrol i’r tirfeddiannwr gael dylanwadu ar amlder y rhaglen o waith rheoli, ynghyd â’i deall.

Mae bod yn hyblyg a mabwysiadu dull o weithio fesul unigolyn a fferm yn hanfodol.

Yn gyffredinol, roedd y mwyafrif o’r tirfeddianwyr o fewn y prosiect hwn eisiau 24 awr o rybudd, gan ddod yn fwy hyblyg fel yr oedd y tymhorau’n mynd yn eu blaenau a bod perthynas yn datblygu gyda’r gwirfoddolwr arweiniol, y contractwr neu’r swyddog prosiect.

Mae amlygu problemau o ran bioddiogelwch er budd y tirfeddiannwr, er nad yw efallai’n croesawu hyn i ddechrau.

Hyd yma, ar draws Cwm Gwaun, Porthgain, Castlemartin Corse ac Afon Clydach, bu 80 o dirfeddianwyr yn ymwneud â’r prosiect ers 2015. Diogelu mynediad i gynnal arolwg gyda’r gobaith o gael mynediad i wneud gwaith rheoli yw’r canlyniad a fynnir. Bydd y lleiafrif o dirfeddianwyr yn ymgymryd â rhywfaint o waith i reoli Jac y neidiwr, mae o leiaf un tirfeddiannwr o fewn pob dalgylch wedi ymgymryd â gwaith rheoli yn ystod y prosiect hwn ar ryw adeg, sy’n wych. Bydd gan y mwyafrif o dirfeddianwyr fwy o rôl mewn monitro am rywogaethau a dargedir, sy’n cymryd llai o amser, a gellir ei gyfuno â gweithgareddau dydd i ddydd.

Mae’n bwysig gwerthfawrogi effaith cymdogion. Yn aml, roedd tirfeddiannwr yn gyfarwydd â mi a’r prosiect oherwydd yr hyn yr oedd wedi ei glywed o ganlyniad i ymweliad blaenorol â fferm gyfagos, wrth weithio ein ffordd trwy ddalgylch dros nifer o ddyddiau. Gall hyn fod yn fanteisiol o ran y gall tirfeddiannwyr roi pwysau cyfeillgar ar eu cymdogion i ‘’chwarae rhan yn y prosiect, fel yr ydan ni’n ei wneud’’.

Yn ystod cyfnod y prosiect hwn, roedd y mwyafrif o dirfeddianwyr yn ei groesawu er mwyn lleihau’r rhywogaeth a dargedir ar eu tir. Derbyniodd y prosiect lond llaw o wrthwynebiadau y cafodd y mwyafrif ohonynt eu goresgyn trwy ymgysylltu â’r Swyddog Prosiect yn ystod y tymor. Y prif resymau dros y gwrthwynebiadau oedd

  • Safbwyntiau ysbrydol
  • Problem barhaus gyda’r sefydliad yr ydych yn ei gynrychioli neu atgasedd tuag ato
  • Gwybodaeth anghywir am effeithiau’r rhywogaeth/ei gwerth o ran peillwyr
  • Lleoliad y safle o fewn y dalgylch – h.y. ‘’sortiwch beth sydd uwchben fy lle i, cyn cynnwys fi’’
  • Gwerth personol
  • Ddim diddordeb, gwrthod ymgysylltu

Mae’n ddiddorol nodi bod cyfnod gwreiddiol y prosiect hwn yn cynnwys rhododendron ponticum, yn ogystal â Jac y neidiwr a chlymog Japan. Tra, yn gyffredinol, y rhoddwyd caniatâd ar gyfer gwneud gwaith i reoli Jac y neidiwr a chlymog Japan, prin iawn oedd y caniatâd i fynd i’r afael â phlanhigion rhododendron. Thema gyffredin oedd y cawsant eu plannu gan berthnasau diweddar/eu bod o werth personol.

Mae’n dal i fod yn bosibl gweithio i lawr yr afon o ardal y gwrthodwyd mynediad iddi, er enghraifft, ymyl allanol mawr (polygon sy’n ymestyn i ffwrdd o ddŵr) gan wthio Jac yn neidiwr yn ôl i ddŵr, a’i gyfyngu i’r lleoliad hwnnw wrth i chi geisio cael caniatâd. Nid yw ei gyfyngu yn ddelfrydol, ond gellir gwneud cynnydd er hynny.

Mae’r ardal mewn pinc ar y map isod yn un a gafodd ei gwrthod. Er hyn, fe gafodd y plâu dros yr ardal fawr a ddangosir isod eu cynnwys yn y gwaith rheoli o ganlyniad i ddiddordeb a fynegwyd gan grŵp cymunedol a thirfeddiannwr.

Firefly map showing infestation control of Himalayan balsam in Clydach catchement of Afon Gwaun River. Yellow area under high impact control, pink area balsam present not under control, green area balsam absent, blue area, balsam under control with monitoring and maintenance.

Yn ôl i’r top

 

9. Effeithiau amgylcheddol

Mae Tanner (et al. 2020) yn awgrymu bod dulliau rheoli â llaw a dulliau cemegol a ddefnyddir i reoli Jac y neidiwr yn cael effaith niweidiol ar y cynefinoedd a oresgynnir gan y planhigyn, sydd efallai’n gwneud mwy o niwed na lles, ac felly maent yn ffafrio’r dull rheoli biolegol.

Wrth gyflawni gwaith i reoli llystyfiant ar raddfa dalgylch, mae’n bwysig ystyried yr effaith y mae’n bosibl y byddwch yn ei chael ar rywogaethau a warchodir a’r cynefinoedd yr ydym yn gweithio oddi mewn iddynt, yn ogystal â’r rheiny sy’n destun pryder o safbwynt cadwraeth. Argymhellwn felly eich bod yn cynnal asesiad o effaith y gwaith yr ydych yn bwriadu ei wneud o safbwynt ecolegol. Amlygwyd bod dyfrwn yn rhywogaeth a fyddai efallai’n cael ei heffeithio gan ein gwaith.

9.1 Delio â rhywogaethau a warchodir

Astudiaeth Achos – Dyfrgwn

Oherwydd natur y gwaith i fynd i’r afael â Jac y neidiwr ar lannau afon, mae’n bosibl iawn y bydd gwaith strimio, paratoi ymlaen llaw ar gyfer rheoli prysgwydd, a gwaith i dynnu Jac y neidiwr, yn aflonyddu ar ddyfrgwn. Byddai’n ddefnyddiol cyllidebu ar gyfer hyfforddi staff a diogelu cymorth priodol o safbwynt ecolegol. Ceir dau brif risg:

  • Aflonyddu ar safle gorffwys neu safleoedd bridio/geni
  • Colli safleoedd gorffwys neu fridio addas o fewn gorchudd trwchus o lystyfiant

Argymhellir bod angen hyfforddi staff/gwirfoddolwyr prosiect i gynnal arolygon i ganfod arwyddion o bresenoldeb dyfrgwn, neu gynefinoedd a strwythurau addas ar gyfer gorffwys, neu fel gwalau geni efallai. Gwelwyd gwalau geni dyfrgwn mor bell â 30m o’r cwrs dŵr.

Gwalau geni
Gellir canfod gwalau geni o fewn cynefin sy’n addas i ddyfrgwn fridio oddi mewn iddo, er enghraifft, strwythurau addas neu ddryslwyni o fewn ardaloedd tawel fel:

  • Gwelyau cyrs helaeth
  • Llynnoedd a phyllau
  • Coetiroedd collddail
  • Planhigfeydd conwydd ifanc
  • Ardaloedd helaeth o brysgwydd
  • Nodweddion fel ardaloedd mawr o flociau cerrig neu feini mawr, ynghyd ag adeiladau/strwythurau a leolir yn union wrth ymyl cyrsiau dŵr

Mae’r mwyafrif o walau geni wedi’u cysylltu â chwrs dŵr, gwlyptir neu ardal ddyfrol, hyd yn oed os nad ydynt union ar lannau’r afon. Argymhellir y dylid cynnal arolwg o’r ardal o fewn 30 metr i’r cwrs dŵr

Enghraifft bosibl o wâl geni dyfrgi sydd bellach yn wagImage of a possible abandoned otter natal den

Safleoedd gorffwys
Mae’r rhain yn fannau a ddefnyddir gan ddyfrgwn i orffwys. O ran dryslwyni trwchus o brysgwydd >4m x 4m a leolir mewn ardaloedd llai tawel, neu ardaloedd sydd ag ychydig iawn o gynefin lled-naturiol yn gyfagos iddynt, mae’n bosibl y gellir eu defnyddio gan ddyfrgwn fel mannau gorffwys.

 

Arolygon
Dylid cynnal arolygon wrth gerdded o fewn yr afon ei hun lle’n bosib, er mwyn bod yn y lle gorau i weld arwyddion a chynefinoedd ar hyd y glannau ac i osgoi aflonyddu ar lystyfiant glannau’r afon.

Bydd arolwg cychwynnol yn canfod presenoldeb traciau dyfrgwn ar lannau’r afon, ynghyd â safleoedd lle gwelir baw dyfrgwn a chynefinoedd posibl sy’n addas ar gyfer gorffwys (llecynnau llai dan orchudd trwchus o lystyfiant 4 x4m), ynghyd â strwythurau posibl a ddefnyddir fel gwalau geni, fel gwreiddiau coed, os lleolir y strwythurau neu’r dryslwyni hyn mewn llecynnau o gynefin tawel sy’n fwy o ran maint.

Gall canfod gwalau geni fod yn anodd, ond o brofiad yn cynnal arolygon o safleoedd bridio dyfrgwn yng Nghymru, ymhlith yr arwyddion yn y maes y mae:

  • Ymddangosiad annisgwyl llwybr neu lwybrau treuliedig sy’n arwain o’r dŵr, fel arfer i mewn i orchudd trwchus o lystyfiant neu strwythur caeedig, fel system wreiddiau coeden neu foncyff gwag.
  • Gwâl geni, a fydd fel arfer ddim ond yn weladwy mewn safleoedd uwchben y ddaear, fel dryslwyni prysgwydd a gwelyau cyrs.
  • Llecyn sy’n cynnwys nifer fawr o faw dyfrgi yn y wâl geni, ac fel arfer o fewn 1 i 2 fetr ohoni.
  • Man chwarae cenau – er enghraifft, llwybr treuliedig o amgylch coeden mewn cylch, i fyny ac i lawr glan yr afon. Mewn safleoedd bridio, fe’u defnyddir dros gyfnod o nifer o flynyddoedd, gellir gweld rhai nodweddion fel mannau chwarae cenau trwy gydol y flwyddyn.

O ran unrhyw strwythurau neu lecynnau addas a ganfuwyd, bydd angen edrych i weld p’un a ydynt yn cael eu defnyddio cyn dechrau ar unrhyw waith. Yn achos safle gorffwys, efallai y bydd angen gohirio gwaith am ychydig o ddyddiau, o ran safle bridio, efallai y bydd angen ei ohirio am sawl mis.

Mae camerâu ar lwybrau yn ANGENRHEIDIOL i hwyluso gwaith arolygu a monitro gweithgareddau mewn mannau croesi treuliedig neu safleoedd lle ceir baw dyfrgi.

Er mai gwaith dros dro yw’r gwaith rheoli prysgwydd sy’n gysylltiedig â Jac y neidiwr, gall gymryd amser i gyrraedd y trwch priodol, a dylid ystyried darparu safleoedd gorffwys artiffisial. Mae hyn hefyd yn weithgaredd difyr a deniadol i wirfoddolwyr.

 

Trap camera ar gyfer dyfrgwn nad oedd ond wedi ‘cipio’ llwynog yn defnyddio’r rhan hon o’r nant

Camera trap for otters on the banks of a stream

Mae holi fforwm cofnodi rhywogaethau lleol am gofnodion o rywogaethau gwarchodedig yn fan cychwyn da i helpu i ystyried beth yr ydych yn ceisio ei liniaru.

Yn ôl i’r top

 

9.2. Yn ymarferol, beth yw’r ystyriaethau o ran lliniaru’r effeithiau ar ddyfrgwn?

I reoli Jac y neidiwr yn effeithiol, mae angen rheoli prysgwydd yn y tymor byr, p’un a yw hynny er mwyn cael mynediad ffisegol i groesi trwy safle, a/neu ar gyfer gwaredu mieri yn lle ceir Jac y neidiwr o fewn y tyfiant.

Mae’n hanfodol felly, cyn mynd ati i dorri’r prysgwydd hwn, i gynnal arolwg o weithgaredd dyfrgwn trwy arolwg uniongyrchol o lwybrau dyfrgwn, baw dyfrgwn a llwybrau mynediad yn ôl ac ymlaen i’r dŵr a thrwy lystyfiant. Rhaid defnyddio trapiau camera hefyd i gadarnhau beth yw’r gweithgaredd, h.y. p’un a yw’r dyfrgi’n arddangos ymddygiad o ran ei fod yn gorffwys, yn croesi trwy’r ardal, yn hela/bwydo yn y safle dan sylw yn uniongyrchol neu’n arddangos ymddygiad sy’n gysylltiedig â geni? O edrych ar yr unigolyn a ‘gipiwyd’ ar y camera, oes modd gwybod beth yw oedran a rhyw’r unigolyn/unigolion, a fyddai felly’n awgrymu ar gyfer beth y caiff yr ardal ei defnyddio?

Y prif effaith a gawn ar ddyfrgwn yw aflonyddu ffisegol, ynghyd â gwaredu’r gorchudd o brysgwydd/mieri yn y tymor byr, felly sut allwn ni liniaru’r effeithiau hyn a sicrhau nad ydym yn aflonyddu arnynt?

Mae defnyddio gwasanaethau arolygwr dyfrgwn yn allweddol i sicrhau bod arwyddion yn y maes, ynghyd â’r hyn a recordiwyd ar gamera, yn cael eu hadnabod yn gywir a bod mesurau lliniaru priodol yn cael eu rhoi ar waith. Roedd gan ein prosiect gyllideb ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Ar ôl llunio cytundeb ffurfiol â’r ymgynghorydd dyfrgwn, darparwyd adroddiadau a oedd yn amlinellu disgrifiad o ganfyddiadau’r arolwg a nodiadau’r gwaith rheoli i lywio gwaith ein prosiect ar bob safle. Yn ychwanegol i hyn, treuliodd yr ymgynghorydd ddiwrnod yn hyfforddi’r Swyddog Prosiect yn y gwaith o arolygu arwyddion dyfrgwn, ac roedd yn bwynt cyswllt ar gyfer unrhyw gwestiynau trwy gydol cyfnod y prosiect.

Cyn gallu cyflawni’r gwaith o reoli llystyfiant yn y gaeaf, ymgymerwyd ag arolwg i ganfod unrhyw weithgaredd diweddar gan ddyfrgwn yn ogystal â gwirio’r trapiau camera. Roedd y Swyddog Prosiect i fod i wneud hyn, ynghyd ag adrodd yn ôl i’r ymgynghorydd, fodd bynnag, o ganlyniad i gyfnod clo cyntaf Covid 19, yr ymgynghorydd aeth ati gwblhau’r dasg hon.

Os bydd gweithgaredd gan ddyfrgwn yn cael ei gadarnhau trwy arwyddion yn y maes neu recordiad camera ohonynt yn pasio trwy’r safle, neu eu bod yn gorffwys neu’n bwydo yno, dylid osgoi’r safle am 3 diwrnod a sicrhau clustogfa 15 metr i ganiatáu parhad y gwaith rheoli.

Ar ôl y cyfnod hwn o 3 diwrnod, caiff y broses hon ei hailadrodd.

Efallai y bydd gweithgaredd cyson gan ddyfrgi yn symud yn ôl ac ymlaen o’r dŵr, ar ôl y cyfnod o 3 diwrnod, yn arwydd o ddyfrgi benywaidd yn chwilio am lecyn i’w ddefnyddio fel gwâl geni. Byddai rhaid osgoi’r safle wedyn am ychydig o wythnosau hyd at gyfnod o tua mis, gan ddefnyddio trap camera i gadw golwg ar y sefyllfa hyd nes y daw’r gweithgaredd i ben.

Nid yw ymddygiad dyfrgwn yn syml, a bydd mesurau lliniaru’n amrywio, a gellir eu haddasu.

Llun o’r camera dyfrgwn, Castlemartin Corse, 0300, 16/02/2022.

Still image from a camera trap showing an otter

Astudiaeth Achos Dyfrgwn: Safle Castellmartin, Underhill

Ar ôl i’r ymgynghorydd gadarnhau nad oedd unrhyw weithgaredd gan ddyfrgwn yn digwydd ar y diwrnod cyn yr oedd contractwyr i fod y weithio ar y safle, fe gafodd llwybrau mynediad eu torri, gan adael llecynnau llinellog o orchudd prysgwydd a dim ond torri un llwybr mynediad i mewn i’r nant (gweler y polygonau melyn ar y sgrin lun isod).

Bu modd gwneud hyn oherwydd nad oedd ond trwch o ychydig gannoedd o goesynnau Jac y neidiwr o fewn y prysgwydd, ynghyd ag absenoldeb unrhyw weithgaredd gan ddyfrgwn ar y diwrnod cyn cadarnhau hyn trwy’r arolwg. Gellid cyrraedd a thynnu’r coesynnau Jac y neidiwr trwy’r mannau llinellog a oedd yn weddill. Yn wir, roedd absenoldeb dyfrgwn yn golygu y gallai’r contractwyr fod wedi clirio mwy o’r gorchudd prysgwydd, fodd bynnag, cytunwyd y gellid parhau i reoli pethau’n effeithiol gan adael rhywfaint o’r gorchudd hwn.

Roedd hyn yn creu llain glustogi (‘neu atalfa Jac y neidiwr’) o’r pla ar ochr y nant i’r prif goetir. Ar ôl rheoli’r pla yn y coetir, gellid defnyddio dulliau â llaw o’r dŵr i reoli’r pla ar ochr y nant, gan unwaith eto gyfyngu ar y gorchudd sy’n cael ei waredu wrth barhau i sicrhau y gellir cael mynediad i’r planhigion Jac y neidiwr. Yn ystod y gwaith rheoli a wnaed yn yr haf, y dull tynnu â llaw oedd yr unig un a ddefnyddiwyd.

Byddid yn parhau i gynnal arolwg cyn i staff y contractwr neu wirfoddolwyr wneud unrhyw waith rheoli Jac y neidiwr ac ni chaniatawyd unrhyw gŵn ar y safleoedd.

Mae’r sgrin luniau isod yn dangos map yr arolwg dyfrgwn (ar y top) ynghyd â data polygon pla’r ardal (ar y gwaelod). Mae’r polygonau melyn yn amlygu’r llwybrau mynediad llinellog a grëwyd.

Maps showing results of otter survey (left) The otter survey map (left) and the area infestation polygon data (right). The yellow polygons highlight the linear access routes created

Gwanwyn 2020, ar ôl cael mynediad yn ystod y gaeaf, gweler y rhannau llinellog a phrysgwydd y nant yn ei le gyda mynediad llinellog yn unig, sy’n creu atalfa neu lain glustogi ar gyfer Jac y neidiwr o’r prif goetir i’r nant.
IMage from Castelmartin Corse catchment showing areas cut to create a Himalayan Balsam break to create a buffer from main woodland to a stream to stop spread of invasive species

Yr un safle yn Hydref 2020, yr ymweliad olaf i wneud gwaith tynnu, fe gafodd y llwybr mynediad ei gynnal trwy sathru’r llystyfiant yn hytrach na’i dorri.

Image taken in Castlemartin Corse catchment showing ongoing Himalayan Balsam management in an area between a woodland and a stream

Yn ôl i’r top

 

10. Strategaeth ar gyfer dirwyn y prosiect i ben – Y cyfnod monitro a chynnal

Bydd cyfnod gwaith monitro a chynnal y dalgylch yn cychwyn pan fo’r rhywogaeth darged naill ai’n absennol neu’n bresennol ar lefel isel iawn.

Nod y cynllun hwn yw sicrhau y caiff y canlyniadau eu cynnal dros y tymor hir, ynghyd â sicrhau ein bod yn gallu monitro plâu neu rai sydd wedi tyfu o’r newydd, ac ymateb iddynt yn gyflym ac mewn modd cost-effeithiol.

Yn ystod cyfnod rheoli dwysedd yr effeithiau, a’r cyfnod rheoli trwy ddulliau dwys iawn, mae lefel y buddsoddiad blynyddol o ran adnoddau ar ei huchaf tua blwyddyn 2/3, ac yna’n lleihau fel y symudwn tuag at y cyfnod monitro a chynnal. Trwy gydol y cyfnod monitro a chynnal hwn, gobeithiwn weld gostyngiad parhaus yn lefel y buddsoddiad sydd ei angen o ran adnoddau i gynnal y canlyniadau.

Yn dilyn strategaeth reoli gyson a thrylwyr dros un tymor o waith rheoli, gellir lleihau banc o hadau Jac y neidiwr ar lefel leol yn sylweddol ar safle, o ganlyniad i’r gylchred bywyd flynyddol a’r posibilrwydd o annog eu hegino yn ystod cynnal gwaith i dorri llwybr mynediad. Mae’r cyfnod o waith rheoli trwy ddulliau dwys iawn yn gofyn am ymrwymiad o ran amser ac adnoddau, a gellr gweld llwyddiant hyn mewn cyn lleied a dau neu dri thymor o ganlyniad i ddihysbyddu’r banc hadau.

Bydd defnyddio’r dull rheoli ar raddfa dalgylch yn arwain i lwyddiant os caiff pob llwybr gwasgaru eu canfod a’u cynnwys ar y raddfa yr ydych yn gweithio arni. Gall hyn fod ar raddfa’r dalgylch cyfan, ar raddfa rhan o’r dalgylch, neu ar raddfa safle, os yw poblogaethau’r tarddle, sgil-boblogaethau a phlâu ar raddfa ardal gyfan, ynghyd â’u maint, yn hysbys ac yn cael eu cynnwys. Ar ôl ail dymor, bydd banc hadau Jac y neidiwr wedi lleihau’n sylweddol, ac yn fwy fyth ar ôl trydydd tymor, pryd y bydd nifer yr ymweliadau â’r safle a’r amser a gymerir i ymgymryd â gwaith rheoli yn lleihau.

Dylai’r prosiect gychwyn cyfnod monitro a chynnal pryd y caiff safleoedd eu monitro trwy arolwg, ac y bydd angen gwneud ychydig iawn o waith rheoli neu ymdrech i gynnal trwch o Jac y neidiwr sydd wedi’i waredu bron yn llwyr, neu sy’n llai o ran ei ddwysedd.

Yn ôl i’r top

 

10.1 Monitro’r newid gweledol

O ran monitro sut y mae safle neu safleoedd yn ymateb i waith rheoli yn ystod y cyfnod rheoli trwy ddulliau dwys iawn, y modd gorau o wneud hyn yw trwy farcwyr pwynt sefydlog (’fixed point markers’). Mae hyn yn darparu darlun da o’r newid. Fodd bynnag, ystyriaeth bwysig yw sicrhau bod y llun allweddol yn un o glwstwr ungnwd (‘monoculture’) o Jac y neidiwr, â hwnnw, yn ddelfrydol, yn ei flodau ac wedi’i dynnu yn y flwyddyn flaenorol. Meddyliwch mewn modd strategol: caniatewch i lecyn o faint metr sgwâr neu safle llawn flodeuo, gyda’r nod o gael y llun y mae ei angen arnoch, gan ddilyn hynny gyda’r gwaith rheoli cyn i’r codennau hadau ddatblygu, er enghraifft, gallai hyn fod tua phen draw’r ardal weithredol.

Yn ystod y cyfnod monitro a chynnal, dylid gadael y marcwyr pwynt sefydlog hyn yn eu lle, a hynny am nifer o flynyddoedd, ynghyd â pharhau i gadw tystiolaeth ffotograffig i gofnodi’r newid gweledol. Gallai hwn fod yn lleoliad da ar gyfer gwaith monitro ecolegol arall hefyd.

 

Marciwr pwynt sefydlog rhif 3, Castlemartin Corse, Chapel Hill, Gorffennaf 2019 ac Awst 2021

Two images side by side showing the difference between July 2019 and August 2021 on a fixed point where Himalayan balsam removal has taken place

Yn ôl i’r top

 

10.2 Beth y mae strategaeth monitro a chynnal yn ei olygu?

  • Paratoi – yn ystod eich tymor cyntaf o waith rheoli trwy ddulliau dwys iawn, dechreuwch baratoi ar gyfer y cyfnod gwaith monitro a chynnal. Cynllun ysgrifenedig yw’r strategaeth monitro a chynnal sy’n amlinellu’r modd y caiff ‘safleoedd’ sy’n arwain at is-dalgylch, a/neu blâu ar lefel dalgylch, eu cynnal mewn cyflwr sy’n golygu eu bod dan reolaeth neu eu bod wedi’u clirio bron yn llwyr.
  • Gan bwy – mae gan dirfeddianwyr, sefydliadau cymunedol, gwirfoddolwyr, y cyhoedd a staff i gyd ran i’w chwarae mewn gwaith monitro a chynnal.
  • Erbyn pryd – bydd amlder y gwaith misol a’r gwaith cynnal ar y safle yn lleihau o’r cyfnod o waith rheoli dwys iawn.
  • Sut – cofnodi’r trwch a welir, yr amser a dreulir, a’r union gostau: safoni dulliau cofnodi (ardaloedd/cyfeirnodau polygonau ac amcangyfrif y trwch).
  • Rhagweld y gost NEU’R amser/ymdrech a fynnir – bydd hyn gryn dipyn yn llai nag yn ystod y cyfnod o waith rheoli dwys.

 

Table 1: Penawdau enghreifftiol a ddefnyddiwyd o fewn cynllun monitro a chynnal ein prosiect

Enw a math y safle Cyfeirnod map Maint

(ha)

Manylion Coridor glannau afon? Hanes gwaith rheoli Statws cyfredol Dulliau rheoli Pwy Cynllun Monitro a Chynnal 2021 2022 2023-25
Ardal ABC

 

Sgil-bla neu darddle neu bla allanol neu bob un o’r rhain?

1,2,3,4 50

 

Problemau o ran stoc?

Problemau o ran mynediad?

Iechyd a diogelwch?

Cyswllt â thirfedd-ianwyr

A oes dŵr yn bresennol? 2019-2020 Gwaith rheoli dwys iawn

 

 

Cyfan-swm yr amser a dreuliwyd – 237 awr

2021 Monitro a chynnal Mecanyddol2019

Gwaith â llaw 2019-2021

Cemegol Amherth-nasol

Pori Amherth-nasol

 

Staff?

Contractwyr? Gwirfoddol-wyr? Neu bob un o’r rhain?

4 ymweliad rhwng Mehefin – Hydref i ganiatáu diwrnod llawn i gwblhau’r ardal gyfan gan gynnwys gwaith cynnal. Amcangyfrif-iwyd 29 awr ar gyfer 2021

Amser gwirioneddol: 22 awr gan gontractwr

3 ymweliad

Gorffennaf-Hydref

Amcangyfrif-iwyd 22 awr

Amser gwirioneddol 22 awr

 

Staff gwirfoddol-wyr

Tirfeddiann-wr

2 ymweliad, yn lleihau i 1 ymweliad o fis Gorffennaf

 

12 awr ar gyfer bob tymor

 

Staff Gwirfoddol-wyr Tirfeddiann-wr

Yn ôl i’r top

10.3 Pa mor hir y mae’r cyfnod monitro a chynnal yn para?

Gan dybio y bu strategaeth rheoli dwys iawn ar waith ar safle (is-dalgylch/dalgylchoedd) am o leiaf tair blynedd, yna dylai’r cyfnod monitro a chynnal ddilyn am y 2-4 tymor nesaf, gan leihau hynny wedyn i ddwywaith y flwyddyn, bob blwyddyn ac wedyn bob yn ail blwyddyn.

Yn ôl i’r top

 

10.4 Pwy sy’n ymgymryd â gwaith monitro a chynnal?

‘Llygaid a Chlustiau’

Tirfeddianwyr: Mwyafrif y tirfeddianwyr ar draws dalgylchoedd ein prosiect. Yn wir, mae mwyafrif y rheiny yn nalgylchoedd y DU y ffermwyr, felly mae potensial ar gyfer arsylwi (monitro) cyson (monitro) os yw’r deunydd dan sylw’n glir, neu drafodaeth wedi’i chynnal, a bod y cyfnodau blodeuo wedi’u hamlygu fel adegau allweddol i fod yn wyliadwrus.

Y gymuned leol: O ran grwpiau, busnesau ac unigolion lleol sydd efallai wedi chwarae rhan trwy wirfoddoli yn ystod y cyfnod o waith rheoli dwys, mae ganddynt hwy hefyd ran i’w chwarae yn ystod y gwaith o fonitro a chynnal safleoedd, yn enwedig os ydynt gerllaw mannau mynediad i’r cyhoedd, mannau cyhoeddus neu dir preifat lle mae mynediad parhaus wedi’i gytuno. Mae’n rhaid i bob man y bydd gwirfoddolwyr yn cynnal gwaith monitro a chynnal ynddo fod yn ddiogel iddynt wneud y gwaith hwnnw.

Astudiaeth Achos: Grwpiau gwirfoddolwyr a mabwysiadu safleoedd:

Yn ystod 2016, roedd sefydliad o’r enw Cyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro (CPCASB) wedi mabwysiadu tarddle allweddol yn Nyffryn Gwaun, byddent yn aml yn cynnal digwyddiadau tynnu planhigion yn annibynnol, ac yn adrodd yn ôl ynghylch ystadegau (nifer y gwirfoddolwyr, yr amser a dreuliwyd ac amcangyfrifon o ran dwysedd/nifer y coesynnau). Roedd hyn yn gweithio’n dda iawn, fodd bynnag, yn ystod 2018 a 2019, nid oedd y mwyafrif o ardaloedd a fabwysiadwyd yn y safle hwn yn cyflwyno digon o Jac y neidiwr i gyfiawnhau amser 12 o wirfoddolwyr. Penderfynwyd wedyn (2019) y byddai’r safle’n cael ei fonitro a’i gynnal gan staff APCASB, gyda chyfraniad unigolion o’r grŵp a chanddynt ddiddordeb mewn chwilio am Jac y neidiwr. O ran y rheiny a oedd yn awyddus i weithio mewn ardaloedd mwy trwchus, fe’u cyflwynwyd i ardaloedd targed eraill yn y dalgylch neu ddalgylch cyfagos. Roedd tirfeddianwyr y safle penodol hwn wedi ymgymryd â gwaith rheoli yn ardaloedd y gerddi, a byddent yn cysylltu â’r Swyddog Prosiect pe bai’r dasg yn ormod o safbwynt ymarferol.

 

Nid yw pob gwirfoddolwr eisiau chwilio am Jac y neidiwr mewn mannau nad oes trwch ohono

Three people standing in a woodland looking for Himalayan balsam plants in area that is being monitoredPwy ddylai wneud y gwaith cofnodi?

Dylid darparu pwynt cyswllt diogel (h.y. nad yw wedi’i glymu i grantiau tymor byr). Gallai fod yn Barcmon lleol (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu’r Parc Cenedlaethol hyd yn oed, os yw y tu allan i ffin y sefydliad) neu fel arall, yr awdurdod lleol (Partneriaeth Natur Sir Benfro), canolfan gofnodion leol a/neu’r pwynt cyswllt a gytunwyd ar gyfer grŵp cymunedol neu wirfoddolwr.

Yn y tymor byr, bydd staff APCASB (Parcmyn a Swyddog Prosiect) yn gwneud y gwaith hwn, gyda chymorth gan aelodau o’r gymuned a thirfeddianwyr. Lle nad yw mynediad yn ddiogel, neu fod yr ardal y tu hwnt i gapasiti staff a gwirfoddolwyr, yna gellir defnyddio contractwyr, os oes cyllideb ar gael i wneud hynny.

Mae Swyddog Prosiect dynodedig yn allweddol ar gyfer cydlynu’r gwaith a gweithredu fel pwynt cyswllt.

Yn ôl i’r top

 

10.5 Beth y dylid ei gofnodi ar gyfer y cyfnod monitro?

Y wybodaeth allweddol i’w darparu gan yr ‘arsylwyr’ – ‘lle’ – h.y. enw’r fferm, safle, ardal. Amcangyfrif o drwch y pla, neu niferoedd y blodau/coesynnau a welwyd, degau – cannoedd, gan obeithio nad oes miloedd, a ph’un a oes dŵr yn bresennol ar y safle ai peidio.

Yn y prosiect hwn, mae staff APCASB (Parcmyn, ac i raddau llai, y Swyddog Prosiect a chontractwyr) yn ymgymryd â’r gwaith o fonitro ardaloedd diffiniedig lle gellir adrodd ynghylch cyflwr polygonau ardal pla yn uniongyrchol.

Cofnodi ymdrechion y gwaith monitro

Mae cofnodi amser yn bwysig yn ystod y cyfnod rheoli dwys a’r cyfnod monitro a chynnal, oherwydd, o safbwynt y ddau, dylid gweld gostyngiad o ran amser/adnoddau. Os ddim, neu os yw dwysedd y planhigion a welir yn amrywio neu’n cynyddu, yna bydd poblogaeth newydd, neu na chafodd ei chanfod yn flaenorol, yn gwasgaru trwy lwybr, h.y. dŵr, llwybr anifeiliaid neu bobl.

Er mwyn bod yn drylwyr a chyson, mae’n well cyflwyno hyn trwy ymweliadau penodedig â safleoedd, gyda Swyddog Prosiect neu gontractwr yn ‘trosglwyddo’r’ safle. Gellir gwneud hyn yn ystod yr ymweliad monitro cyntaf o ran y mwyafrif o safleoedd. Y misoedd monitro a chynnal cyntaf ar gyfer dalgylch fyddai diwedd Mai a chychwyn Mehefin (gweler y cyfeiriad at fonitro is-adrannau isod).

Yn ôl i’r top

 

10.6 Pwy fydd yn ymgymryd â’r gwaith cynnal?

Bydd hyn yn dibynnu ar y lleoliad a graddau’r gwaith. Os, yn ystod gweithgaredd monitro (wrth gerdded ci, gweithgaredd cofnodi biolegol arall neu weithgaredd monitro penodedig), y caiff nifer fach o goesynnau Jac y neidiwr eu cofnodi, ni fyddai’n gwneud fawr o synnwyr i’r cofnodwr adael y coesynnau yn eu lle, yn enwedig os ydynt wedi blodeuo. Os yw’n ddiogel i wneud hynny, dylai’r cofnodwr ymgymryd â chynnal y safle yn ôl y dull ymarfer gorau.

Os yw dwysedd y planhigion y tu hwnt i allu’r cofnodwr/cofnodwyr, neu nad yw’r ardal yn ddiogel, neu nad oes gan gofnodwr hawl i gael mynediad, yna dylai’r cofnodwr fynd ati i gofnodi yn ôl hynny a nodwyd uchod – lle, faint, wrth ymyl dŵr ac ati, ac adrodd yn ôl i’r pwynt cyswllt cyn gynted ag y bo modd, h.y. y Parc Cenedlaethol, grŵp cymunedol, y cadeirydd, CNC neu fforwm cofnodi lleol. Dylid egluro’n glir i’r rhai sy’n ymwneud â hyn pwy y dylent adrodd iddynt, sef, yn ddelfrydol, y Swyddog Prosiect neu Barcmon lleol. Dylid cynnal y gwaith cynnal hwn mewn da bryd, gan addasu’r dulliau yn ôl cyflwr y planhigion a welwyd, h.y. rhai nad ydynt yn eu blodau, rhai sydd wedi blodeuo, neu â chodennau hadau yn bresennol.

Yn ôl i’r top

 

10.7 Pryd i gynnal gwaith monitro a chynnal sy’n ‘lleihau adnoddau’

Yn dilyn prosiect gwaith rheoli dwys, gwelir gostyngiad yn yr adnoddau o flwyddyn 3. Gall ymweliadau â’r safle ddechrau ddiwedd Mai neu ym mis Mehefin yn hytrach nag ym mis Mawrth/Ebrill. Mae’r amser a dreulir yn cynnal ambell blanhigyn sy’n tyfu yma ac acw yn cael ei leihau o ddiwrnodau i oriau. Fodd bynnag, efallai y gwelir newid sylweddol mewn rhai safleoedd o fewn dim ond un tymor. Mae’n beth doeth sicrhau y cynhelir yr ymweliad monitro cyntaf ag unrhyw safle ddechrau mis Gorffennaf ar yr hwyraf, sef yr adeg y mae Jac y neidiwr yn fwyaf gweladwy, gan reoli’r planhigion yn effeithiol cyn iddynt hadu. Ar ôl y tymor monitro a chynnal cyntaf, gellir defnyddio’r union amser a dreulir yn gwneud y gwaith yn cynllunio ar gyfer y tymor dilynol.

Mae’n bwysig nodi y bydd rhaid i chi barhau i fynd i’r afael â phla hanesyddol yr ardal. Gall rheoli’r planhigion gymryd amser oherwydd y bydd cerdded ar draws yr ardal yn cymryd amser hefyd, yn enwedig os yw’r mynediad yn anodd dan draed, h.y. glaswelltir corslyd.

Yn ôl i’r top

 

10.8 Lle i flaenoriaethu’r ‘adnoddau sydd wedi’u lleihau’

Pe bai’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer rheoli rhywogaethau goresgynnol yn gyson a diderfyn, ac wedi’u cysylltu’n amlwg â darpariaeth gwasanaeth gadarn ym maes ecosystemau, yna byddai gwaith rheoli a monitro a chynnal dilynol yn cael ei wneud ledled y dalgylch cyfan, mewn dalgylchoedd cyfagos, yn ogystal ag unrhyw gysylltiadau rhwng dalgylchoedd, h.y. ffermydd/tir a berchnogir neu â thenantiaid y tu allan i’r dalgylch targed, sy’n llwybr gwasgaru posibl.

Fodd bynnag, nid fel hyn y mae pethau, ac yn anffodus, mae prosiectau INNS yn dueddol o fod yn rhai tymor byr, h.y. llai na 3 blynedd, nad ydynt ond yn gallu parhau gyda phecyn ariannu newydd neu grantiau sydd ar gael iddynt.

Dylai blaenoriaethu ardaloedd i’w rheoli, ac felly eu monitro, ganolbwyntio ar y canlynol:

Sgil-boblogaethau: llecynnau o Jac y neidiwr o fewn dalgylch neu safle sydd wedi’u hynysu o’r pla ehangach.

Y tarddle: dŵr, gardd, iard fferm, efallai nad yw’r tarddle wrth ymyl tarddell yn uniongyrchol ond bydd yn aml yn arwain at ddŵr.

 

Dŵr: tarddellau, ffosydd sy’n arwain at is-afonydd ac wedyn prif system afon. Felly’r hierarchaeth o ran monitro a chynnal fyddai’r man y dechreuodd y gwaith rheoli, h.y. y ffynhonnell a’i hymylon allanol ac yna lle mae’n dilyn dŵr (os nad yw ardal y ffynhonnell wrth ymyl dŵr). Er y bydd yn debygol y bydd gwell mynediad i’r brif afon, efallai y bydd yn destun dynodiadau arbennig neu ei fod yn ased a reolir gan sefydliad arweiniol. Ar adeg lle bo adnoddau wedi lleihau, mae’n llawer pwysicach dileu’r risg o bla yn y dyfodol trwy sicrhau nad yw’r strategaeth monitro a chynnal sydd ar waith yn colli sail resymegol y dull rheoli ar raddfa dalgylch.

Yn ôl i’r top

 

10.9 Sut mae rheoli plâu yn ystod cyfnod y strategaeth monitro a chynnal?

Gall derbyn e-bost neu alwad ffôn gan wirfoddolwr neu aelod o’r cyhoedd sy’n cofnodi ardal ‘binc’ fawr yn ystod cyfnod strategaeth monitro a chynnal fod braidd yn dorcalonnus. Cysurwch eich hun bod y gwaith monitro, cofnodi ac adrodd yn gweithio, ac yna cymerwch y camau a ganlyn:

  • Gwiriwch fod caniatadau ar waith (y tirfeddiannwr/SoDdGA)
  • Gwiriwch y cofnod cyn gynted â phosibl
  • Gwnewch waith cynnal yn ôl yr arfer, ac archwiliwch lwybr y rhywogaeth
  • Camwch yn ôl o wneud gwaith rheoli os yw’r ardal yn fawr. Bydd planhigion Jac y neidiwr sy’n dangos codennau hyfyw yn hadu (ym mis Awst fel arfer) os ydynt yn addo glaw. Ystyriwch p’un a wnaiff gweithredu yn y fan a’r lle wneud y sefyllfa’n waeth. Y naill ffordd neu’r llall, caiff y safle ei gofnodi fel un â blaenoriaeth uchel sy’n gofyn am waith rheoli mwy trylwyr, gan ddychwelyd ddechrau’r tymor dilynol, ond ni ddylid ailgyfeirio adnoddau o waith monitro a chynnal a ddylai gael mwy o flaenoriaeth, h.y. ni ddylai pla ar brif afon ailgyfeirio adnoddau monitro ar isafon.
  • Efallai y bydd angen gwneud rhywfaint o waith i sicrhau mynediad trwy glirio llystyfiant yn y gaeaf, mae cerdded i ffwrdd i gynllunio ar gyfer gwaith rheoli mwy effeithiol yn opsiwn.

Yn ôl i’r top

 

10.10 Dadansoddi llwybr rhywogaeth

Llwybr yw’r nod y mae rhywogaeth yn symud o gwmpas yr amgylchedd mewn cyflwr naturiol, h.y. gan y gwynt neu ddŵr. Gall pobl ddylanwadu ar y llwybr hwn yn uniongyrchol neu’n fwriadol, h.y. cyflwyno rhywogaeth yn fwriadol, o un ardal i un arall, fel y gwnaed yn y 1800’au, gan ganiatáu iddynt sefydlu yn Ynysoedd Prydain. Yn ogystal, gall pobl ddylanwadu ar lwybr rhywogaeth, yn anuniongyrchol neu’n anfwriadol, trwy dorri clymog Japan yn ddamweiniol ar ymyl ffordd, sydd wedyn yn lledaenu darnau o’r planhigyn goresgynnol ac yn caniatáu iddo gytrefu mewn rhan ehangach o’r llecyn hwnnw.

Mae cynnal dadansoddiad o’r llwybr hwn yn hanfodol wrth fynd ati i reoli rhywogaeth oresgynnol, a bydd yn llywio unrhyw gamau gweithredu o ran ei hatal, sef y nod terfynol o safbwynt rheoli rhywogaeth.

Mae’r dadansoddiad yn caniatáu rhesymu o ran y tebygolrwydd y bydd llwybr penodol yn digwydd, ynghyd ag effaith bosibl hyn. Caiff y risg o ran statws y dalgylch ei amlygu ac wedyn bydd y mesurau lliniaru awgrymedig yn cael eu hamserlennu (pryd ac yn lle) a’u dynodi (pwy a sut).

Ar y tudalennau a ganlyn (tabl 2), ceir crynodeb o’r penawdau a ddefnyddiwyd yn nadansoddiad llwybr dalgylchoedd Gwaun a Llanrhian, gydag enghraifft yn ymwneud â llwybr gwasgaru amgylcheddol/naturiol.

Yn aml, bydd anifeiliaid sy’n symud rhwng gwahanol gynefinoedd yn mynd yn ôl ac ymlaen i ardaloedd o Jac y neidiwr.

Himalayan balsam plant growing inside a rabbit hole

 

Tabl 2: Penawdau’r dadansoddiad o lwybrau Cwm Gwaun a Phorthgain

Cyflwyniad / llwybr gwasgaru

 

Tebygolrwydd Achosion Disgrifiad Effaith Bosibl Disgrifiad Risg o ran statws y dalgylch Mesurau Lliniaru Camau Gweithredu’r Prosiect Gan bwy Erbyn pryd
Gwasgaru hadau trwy lwybr dŵr (amgylcheddol/naturiol – gall ddigwydd hefyd trwy symudiadau anifeiliaid gwyllt) UCHEL Wedi’u cofnodi’n helaeth, dull gwasgaru naturiol UCHEL Gall hadau o nifer fach o blanhigion sy’n blodeuo gael eu gwasgaru trwy’r dalgylch cyfan sy’n arwain at achosion ledled y dalgylch UCHEL Blaenoriaethu’r ymateb i’r achos trwy fynd i’r afael â chyrsiau dŵr. Mae’r dull rheoli ar raddfa dalgylch yn atal ailddyfodiad plâu mewn ardaloedd sydd dan reolaeth Cam 1: Cynnal rheolaeth ym mhob ardal lle bo dŵr yn bresennol, gyda sylw arbennig i is-afonydd Cam1:

Contractwr Staff Gwirfoddolwyr

Cam 1:

Mehefin-Hydref

Yn ôl i’r top

 

11. Adfer safleoedd a mesurau lliniaru

Fel y mae safle, is-ddalgylch neu ddalgylch yn newid statws o un sydd dan reolaeth ddwys iawn i fod o dan reolaeth strategaeth monitro a chynnal, efallai y bydd safleoedd penodol yn gofyn am adnodd i hwyluso eu hadferiad, h.y. sefydlu llystyfiant dymunol, brodorol. Hyd yma, ni fu rhaid i brosiect Pwyth Mewn Pryd wasgaru hadau brodorol i helpu i adfer y llystyfiant o ganlyniad i waith rheoli Jac y neidiwr neu glymog Japan oherwydd, yn y mwyafrif helaeth o ardaloedd a reolir, bu digonedd o blanhigion brodorol mewn ardaloedd cyfagos i hwyluso’r broses o ail-gytrefu a chreu strwythur cadarnach a mwy amrywiol o ran llystyfiant.

Mae’r strategaeth monitro a chynnal yn gyfnod llai dwys o waith rheoli rhywogaethau targed y gellir ei fonitro, nid yn unig am ailddyfodiad y rhywogaeth darged, ond hefyd o ran y modd y mae’r safle’n adfer. Yn ddelfrydol, cyn ymgymryd â gwaith rheoli dwys iawn, cynhelir arolwg i gipio llinell sylfaen o’r rhywogaethau sy’n bresennol – gallai hyn fod yn rhestr anffurfiol o rywogaethau ffawna a fflora, neu’n fwy arbenigol, gan ddefnyddio staff a gwirfoddolwyr medrus, neu ymgynghorwyr o dan gontract. Dylai unrhyw newidiadau sylweddol o ran strwythur y llystyfiant fod yn amlwg yn ystod y cyfnod monitro a chynnal. Yn ystod prosiect mwyaf diweddar Pwyth Mewn Pryd, sef ‘Pwyth Cynaliadwy Mewn Pryd’ (‘Sustainable Stitch in Time’), lluniwyd contract gydag ymgynghoriaeth ecolegol ’Ecosulis’ i helpu i fonitro newid, gan ddefnyddio eu cyfrifwyr bioamrywiaeth, yn ogystal â lluniau o bwyntiau sefydlog gweledol.

Roedd rhywogaethau ‘arloesi’ Cwm Gwaun, a nodwyd yn ystod gwaith monitro a chynnal, yn cynnwys Urticaceae (teulu’r ddanhadlen), Silene dioica (blodyn taranau) a Filipendula ulmaria (erwain) y mae pob un ohonynt yn cytrefu heb fod angen cymorth ychwanegol gan y prosiect i’w hadfer, a phob un ohonynt o fewn ardal lle cafwyd clystyrau o Jac y neidiwr neu glymog Japan yn flaenorol. Efallai y byddai unigolion, pobl leol neu wirfoddolwyr, yn hapus i fonitro’r newid o fewn safleoedd wrth fonitro a chynnal nifer fechan o goesynnau Jac y neidiwr.

Safle Penrallt, Mehefin 2020 – roedd 100% o’r coetir hwn yn llochesu ardal drwchus o Jac y neidiwr.

A path running through a woodland that is infested with Himalayan balsam

Safle Penrallt, ddiwedd Mai 2021 – yr un coetir. Mae Jac y neidiwr yn dal i barhau yno, mae’r planhigyn yn llai trwchus, sy’n golygu bod mwy o olau, sy’n lleihau’r effaith ar blanhigion eraill.
Area of woodland that is undergoing Himalayan balsam removal showing some evidence of Himalyan Balsam

Mae pob achos o reolaeth Jac y neidiwr o fewn gwaith adfer y safle hwn wedi digwydd yn naturiol.

Astudiaeth achos – Penrallt

Dengys y lluniau isod ardal fawr lle torrwyd llwybr mynediad yn ystod y gaeaf. Gwelir llawer o glychau’r gog a llygad Ebrill ym mis Mai, ochr yn ochr â phlanhigion Jac y neidiwr bach. Erbyn mis Mehefin, mae Jac y neidiwr wedi tyfu hyd at eich canol, yn cysgodi unrhyw rywogaethau sy’n tyfu oddi tano. Yn aml, mae rhywogaethau / hadau eraill yn bresennol eisoes ond mae’n amhosibl iddynt gystadlu â’r trwch o Jac y neidiwr, ni fydd angen gwneud unrhyw waith adfer pellach ar y safle hwn.
Man standing in a field that is covered in waist-high Himalayan balsam plants

Bluebell plants growing alongside Himalayan balsam plants

Yn ôl i’r top

 

12. Monitro a gwerthuso

Os ydych yn ceisio cyllid allanol ar gyfer eich prosiect, yn naturiol, byddwch angen teilwra eich allbynnau a’ch dull gweithredu i ddiwallu anghenion eich cyllidwr. Rydym yn amlinellu yma’r wybodaeth a gasglwyd gennym neu a gynhyrchwyd i helpu gyda gwaith monitro a gwerthuso ein prosiect ac i ddangos yr effaith a gawsom.

Dyma ganllaw cyfeirio cyflym, a gellir cael rhagor o wybodaeth o’n hadroddiad monitro a gwerthuso.

 

Gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol

  • Nifer y gwirfoddolwyr unigol
  • Nifer yr oriau gwirfoddolwyr a gyfrannwyd
  • Gwerth economaidd amser gwirfoddolwyr
  • Nifer y gwirfoddolwyr sy’n adrodd cynnydd o ran llesiant yn ystod un sesiwn o wirfoddoli
  • Astudiaethau achos o’r casgliad o storïau (cyfweliadau â gwirfoddolwyr)
  • Nifer y grwpiau cymunedol sy’n ymgysylltu â’r prosiect

 

Rheoli INNS

  • Nifer yr hectarau sydd dan reolaeth
  • Statws y safle – Allbwn wedi’i fapio â GIS yn dangos ha safleoedd â statws Rheolaeth yn Mynd Rhagddo/Dan Reolaeth/Heb Gychwyn
  • Graff ynghylch INNS dan reolaeth sy’n rhannu cynefin â blaenoriaeth ynghyd â nodweddion cysylltedd
  • Cromlinau cost dalgylchoedd sy’n dangos cost effeithiolrwydd gwaith rheoli cyson a chydgysylltiedig Jac y neidiwr
  • Nifer yr achosion annisgwyl
  • Lluniau o bwyntiau sefydlog
  • Rhestrau’r rhywogaethau cyn ac ar ôl gwaith adfer

 

Digwyddiadau

  • Nifer y bobl sy’n mynychu
  • Nifer y bobl a fydd yn dweud bod ganddynt fwy o wybodaeth am INNS ar ôl digwyddiad
  • Nifer y bobl sy’n dweud eu bod yn bwriadu defnyddio’r wybodaeth a ddysgwyd yn y digwyddiad ar gyfer eu sefyllfa eu hunain

 

Pecyn Cymorth

  • Nifer y copïau a ddosbarthwyd/a lawrlwythwyd ar-lein

 

Ymholiadau Allanol

Nifer yr ymholiadau allanol a atebwyd gan y prosiect

Effaith y cyngor (sy’n cael ei fonitro trwy gyfweliadau dilynol)

 

Tirfeddianwyr

  • Nifer y tirfeddianwyr sy’n ymgysylltu â’r prosiect
  • Y graddau y mae tirfeddianwyr yn ymgysylltu
  • Y buddion i dirfeddianwyr (sy’n cael eu monitro trwy gyfweliadau dilynol)

 

Contractwyr

  • Nifer y contractwyr sy’n gweithio ar brosiect

Yn ôl i’r top

 

13. Staff y prosiect

Cydlynydd INNS
Ar gyfer prosiect ar raddfa tirwedd, mae’n gwbl hanfodol cael o leiaf un aelod o staff dynodedig ar gyfer y prosiect. Ni fyddai modd cyflawni allbynnau’r prosiect heb y rôl hon.

  • Tasgau allweddol y staff
  • Cysylltu â thirfeddianwyr
  • Arolygu, mapio a rheoli data
  • Rheoli a gweithio gyda chontractwyr a staff y Parc Cenedlaethol
  • Cydlynu, hyfforddi ac arwain gwirfoddolwyr
  • Cynnal gwaith ymarferol i reoli INNS
  • Codi ymwybyddiaeth
  • Cyflwyno adroddiadau

 

Lluniau – Postyn pwynt marcio sefydlog ‘1’ coetir Chapel Hill, Polygon 5 Gorffennaf 2019

Wooden post in a wood amongst Himalayan balsam plants in bloom with pink flowers and green leaves. Taken July 2019 in Chapel Hill Wood, Castlemartin Corse, Pembrokeshire, Wales, UK

Gaeaf 2019
Wooden post in a wood amongst Himalyan balsam plants. Taken winter 2019 in Chapel Hill Wood, Castlemartin Corse, Pembrokeshire, Wales, UK

Ionawr 2020
Wooden post in a wood showing area where Himalyan balsam plants have been removed. Taken January 2020 in Chapel Hill Wood, Castlemartin Corse, Pembrokeshire, Wales, UK

Mai 2021 gyda Gwirfoddolwyr Llwybrau (Pathways)
5 men standing around a wooden post in a wood holding Himalyan balsam plants they have removed. Taken May 2021 in Chapel Hill Wood, Castlemartin Corse, Pembrokeshire, Wales, UK

Awst 2021 – Bydd coetir Chapel Hill yn cael ei ystyried ar gyfer gwaith monitro a chynnal yn 2022
Wooden post in a wood showing area where Himalayan Balsam plants have been removed. Taken August 2021 in Chapel Hill Wood, Castlemartin Corse, Pembrokeshire, Wales, UK

Yn ôl i’r top

 

14. Casgliad – Gallwch gael y gorau ar Jac y neidiwr!

Mae modd rheoli Jac y neidiwr ar raddfa safle, is-dalgylch neu ddalgylch cyfan. Gan ddefnyddio’r dull rheoli ar raddfa dalgylch, ynghyd â dulliau rheoli effeithiol, cymunedau, gwirfoddolwyr, tirfeddianwyr a chontractwyr, gellir gwneud gwahaniaeth aruthrol. Mae’n bosibl helpu i greu mannau cadarnach i fyd natur, yn rhydd o’r planhigyn goresgynnol hwn sy’n lledaenu’n helaeth, ynghyd â’i effeithiau negyddol cysylltiedig. Mae cynllun monitro a chynnal yn diogelu’r buddsoddiad cychwynnol a wneir, ac yn gallu sicrhau pwyth mewn pryd i fynd i’r afael ag unrhyw achosion yn y dyfodol.

 

Cyfeiriadau

S. Coakley, C. Petti
Impacts of the invasive Impatiens glandulifera: Lessons learned from one of Europe’s top invasive species. Biology, 10 (2021)10.3390/biology10070619

 

R.A. Tanner, A.C. Gange, A. Haughton
Himalayan balsam, Impatiens glandulifera: its ecology, invasion and management. Weed Res., 60 (1) (2020), 10.1111/wre.v60.110.1111/wre.12401

 

K.M. Pollard, A.C. Gange, M.K. Seier, C.A. Ellison, A semi-natural evaluation of the potential of the rust fungus Puccinia komarovii var. glanduliferae as a biocontrol agent of Impatiens glandulifera, Biological Control,Volume 165,2022 https://doi.org/10.1016/j.biocontrol.2021.104786.

 

Cuda.J, Skalove.H and Pysek.P (2020) Spread of Impatiens glandulifera from riparian habitats to forests and its associated impacts: insights from a new invasion. Weed Res.60, 8-15

Yn ôl i’r top