Cadwraeth Adeiladau

Yn ogystal â gofalu am ein bywyd gwyllt a'n tirlun, mae hefyd angen gwarchod adeiladau Sir Benfro, o fythynnod pysgotwyr i blastai a chestyll, i sicrhau bod treftadaeth adeiledig y Parc yn dal i sefyll ar gyfer y genhedlaeth nesaf gan adrodd y stori am ein hanes a'n diwylliant.

Mae’r Parc Cenedlaethol yn cynnwys dros fil o adeiladau rhestredig sy’n cael eu cydnabod am eu gwerth pensaernïol neu hanesyddol. Ond yn aml mae llawer o adeiladau ‘cyffredin’ heb eu gwarchod ond eto’n gwneud cyfraniad hanfodol i gymeriad y Parc Cenedlaethol. Rydym yn awyddus i roi cyngor arnynt i gyd, nid dim ond y rhai rhestredig.

Colourful cottages in St Davids, Pembrokeshire

Ardaloedd Gadwraeth

Mae’r Parc Cenedlaethol hefyd yn cynnwys 14 o Ardaloedd Cadwraeth. Mae’r ardaloedd hyn yn bwysig am resymau hanesyddol a phensaernïol a gweithiwn yn galed i’w gwarchod a’u gwella. Edrychwch ar y dudalen Ardal Gadwraeth i weld a yw eich rhan chi o Sir Benfro’n un o’r 14.

Mae’r Awdurdod yn datblygu cynigion ar gyfer gwarchod a gwella pob Ardal Gadwraeth gan edrych ar faterion fel claddu gwifrau uwchben, rheoli traffig, gwella ardaloedd diffaith a sicrhau bod adeiladau hanesyddol yn cael eu gwarchod.

Cysylltu â Ni

Os ydych yn berchen ar neu'n rhedeg adeilad hanesyddol a hoffech dderbyn cyngor, neu fwy o fanylion am Ardaloedd Cadwraeth, cysylltwch â ni..