Mae cadeiriau olwyn y traethau yn gwella mynediad i draethau arobryn Sir Benfro
Archebwch Gadair Olwyn ar gyfer y Traeth ar-lein
Neu ffoniwch 07813 548 157
Cynllunnir a chynhyrchir cadeiriau olwyn y traethau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn arbennig i’w defnyddio ar draethau tywod.
Maen nhw ar gael i’w hurio mewn nifer o fannau yn y Parc Cenedlaethol, gan alluogi pobol i gael mynediad i rai o’n traethau godidocaf. Cyfeiriwch at ein rhestr o Draethau â Mynediad Hwylus wrth gynllunio eich ymweliad.
Ble cewch hyd i gadeiriau olwyn y traethau
NODWCH: Ni fydd rhai cadeiriau olwyn y traethau ar gael nes ceir rhybudd pellach. Rydym yn gweithio’n galed i gael mwy o gadeiriau olwyn y traeth ar gael ar gyfer haf 2021. Rydym yn gwerthfawrogi pa mor werthfawr ydyn nhw ac yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth a’ch amynedd. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.