Mae’r benthyciwr yn cytuno:
- Derbyn a defnyddio’r gadair olwyn ar eu menter eu hunain.
- Defnyddio’r gadair olwyn yn unol â’r ‘Canllawiau Diogelwch’ a’r ‘Cyfarwyddiadau Glanhau’.
- Gofalu bod y gadair olwyn yn addas i’w hanghenion.
- Gofalu y gallant/gall defnyddiwr y gadair olwyn symud yn ddiogel.
- Gofalu y gallant ddefnyddio’r gadair olwyn ar y traeth penodol yn ddiogel.
- Cymryd cyfrifoldeb llawn am y gadair olwyn.
- Derbyn cyfrifoldeb llawn am unrhyw anaf i bobl eraill ac/neu eiddo.
- Cysylltu â’r Awdurdod petai problem neu ddifrod i gadair olwyn y traeth, neu ei bod yn mynd ar goll.
- Dychwelyd y gadair olwyn mewn cyflwr da ar y dyddiad a’r amser a gytunwyd.