Llandudoch

Sir Benfro: Gwlad y Chwedlau

Mae’r dref fechan dawel hon ar lannau afon Teifi yn nodi pen gogleddol Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro. Ac yntau wedi'i leoli ar y dŵr, mae gan y cerflun gryn dipyn o chwedlau pysgotwyr.

Yr Hebog a’r Fôr-forwyn

Mae pysgotwr o Landudoch yn dal rhywbeth lwcus iawn!

Un tro roedd dyn o’r enw Peregrine yn byw yn Llandudoch. Fel llawer o bobol oedd yn byw ar yr arfordir, roedd Pergerine yn gwneud ei fywoliaeth o’r môr. Un diwrnod, wrth bysgota am benwaig ym Mhen Cemaes, fe dynnodd i mewn ei rwydi, ac er mawr syndod iddo, fe welodd ei fod wedi dal mwy na dim ond penwaig yn unig. Yn ei rhwyd roedd morforwyn hardd.

Erfyniodd y forforwyn ar Peregrine i’w dychwelyd i’r môr. Ond gwrthododd. Yn hytrach, fe’i clymodd i fyny yn y cwch a mynd nôl i Landudoch gyda’i ddalfa. Doedd y forforwyn ddim yn hapus o gwbl. Fe griodd ac wylofain ac erfyn ac ymbil arno eto i’w dychwelyd i’r dŵr.

O’r diwedd, cyrhaeddodd Peregrine y draethell wrth geg yr afon, ac o’r diwedd cymerodd drueni ar y forforwyn a’i gollwng yn rhydd. Diolchodd y forforwyn iddo o waelod ei chalon ac addo i ad-dalu ei garedigrwydd trwy ei rybuddio o unrhyw stormydd i ddod yn y dyfodol.

Mermaid Sculpture at St Dogmaels

Sawl diwrnod yn ddiweddarach- i fod yn fanwl, ar 30 Medi 1789, roedd hi’n fore tawel braf ac roedd Peregrine yn un o nifer o bysgotwyr a wnaeth eu ffordd allan i’r môr, yn y gobaith o gael dalfa dda unwaith eto.

Ond wrth iddo nesáu at y draethell, ymddangosodd y forforwyn wrth ymyl ei gwch a’i rybuddio o storm ofnadwy oedd ar fin dod. Gwrandawodd Peregrine ar ei rhybudd a mynd yn ôl I ddiogelwch y lan.

Chwarddodd y pysgotwyr eraill pan welon nhw hyn a chario ymlaen dros y draethell ac allan i’r môr. Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw daeth storm ffyrnig.

Chwipiodd y môr yn gynddeiriog ac fe ddinistriodd y gwynt oedd yn udo a’r tonnau oedd yn taro y cychod eraill o Landudoch.

Roedd Peregrine yn drist o glywed am eu ffawd. O’r dydd hwnnw ymlaen, fe gadwodd un llygad bob amser ar y tywydd a’r cymylau a chadw’r llall i chwilio am y forforwyn.

Os digwydd i chi fynd trwy Landudoch edrychwch allan am gerflun y forforwyn ar ddiwedd y lanfa.

Darganfyddwch fwy chwedlau