Rydym nawr wedi llenwi pob dyddiad rhydd i ysgolion sydd am ddod i ymweld a Castell Henllys hyd at dechrau Ebrill. Os ydych am ddod a ymweld a Gastell Henllys gyda Ysgol, os allwch trefnu eich ymweliad mor gynted a phosib i atal siom.

Ymweld â’r Safle

Dewch i fwynhau profiad dysgu cyffrous ar ryngweithiol. Teithiwch nôl mewn amser gyda’n dehonglwyr mewn gwisg a fydd yn dysgu eich dosbarth am fywyd Oes Haearn mewn ffordd hwyl, diddanol a cofiadwy trwy sgyrsiau, arddangosiadau, gweithgareddau a gemau. Rydym hefyd yn rhedeg sesiynau Rhufeinig, Oes Carreg a sesiwn ieithyddol a llenyddol yn seiliedig ar y Mabinogi. Gweler y tabl isod am fwy o manylion.

Cost: £4.50 (+ VAT) y plentyn.

Hyd y sesiwn: 10.30am-2pm.

O dan amodau presennol rydym yn medru cymryd dim mwy na 60 o ddisgyblion y sesiwn.

 

Bywyd yn yr Oes Haearn – Y Profiad Digidol

Os na allwch ddod i ni yna fe ddefnyddiwn dechnoleg fodern i deithio trwy amser atoch chi. Gyda’r profiad digidol yma byddwch yn derbyn mynediad i ffilm 15 munud a fydd yn mynd a’ch dosbarth nol mewn amser  i gwrdd â’n pentrefwyr a phrofi diwrnod mewn bywyd Oes Haearn. Wedi gwylio’r ffilm bydd eich dosbarth yn cael sesiwn fideo-gynadledda 1 awr gydag un o’r pentrefwyr a fydd yn dysgu’r plant am ryfela yn yr Oes Haearn; arddangos trysorau’r pentref; chwarae ‘Gêm Brolio’ a gwneud sesiwn cwestiwn ac ateb.

Cost y sesiwn: £60 (+VAT)

Os hoffech i fwcio mwy na un sesiwn am eich ysgol (er enghraifft am ddosbarthiadau gwahanol) yna bydd y sesiynau ychwanegol yn costio hanner y pris.

Hyd y sesiwn: 1 awr a 15 munud.

 

 

Gweler cynnwys y sesiynau gwahanol isod:

Teitl y Sesiwn

Cynnwys

Profiad Oes Haearn

Yn addas am ddosbarthiadau Mynediad,CA2 a CA3.

 

Hyd: O gwmpas 3.5 awr gyda thoriad am ginio ond rydym fedru fod yn hyblyg i ffitio gydag amserlen yr ysgol.

Mae’r sesiwn yma yn cynnwys cyflwyniadau, gêmau a gweithgareddau gan ein dehonglwyr mewn gwisg a fydd yn mynd a’ch disgyblion nol mewn amser i’r Oes Haearn.

 

Cyflwyniadau a gweithgareddau yn cynnwys:

-Adeiladu Tŷ Crwn

– Hyfforddiant Rhyfelwyr

– Coginio Oes Haearn

– Trysorau’r Pennaeth (y grefft o ddweud storïau a gêm brolio).

 

Rhufeiniaid Rhyfelgar

Yn addas am ddosbarthiadau Mynediad,CA2 a CA3.

 

Hyd: O gwmpas 3.5 awr gyda thoriad am ginio ond rydym fedru fod yn hyblyg i ffitio gydag amserlen yr ysgol.

Mae’r sesiwn yma yn cynnwys cyflwyniadau, gêmau a gweithgareddau gan ein dehonglwyr mewn gwisg a fydd yn mynd a’ch disgyblion nol mewn amser i’r Oes Rufeinig.

 

Cyflwyniadau a gweithgareddau yn cynnwys:

– Hyfforddiant Rhyfelwr Rhufeinig

– Creu potiau clai

– Coginio Rhufeinig

– Hyfforddiant Rhyfelwr Celtaidd

Sgiliau Oes Carreg

Yn addas am ddosbarthiadau CA2 a CA3.

 

Hyd: O gwmpas 3.5 awr gyda thoriad am ginio ond rydym fedru fod yn hyblyg i ffitio gydag amserlen yr ysgol.

Mae’r sesiwn yma yn cynnwys cyflwyniadau, gêmau a gweithgareddau gan ein dehonglwyr mewn gwisg a fydd yn mynd a’ch disgyblion nol mewn amser i’r Oes Carreg.

 

Cyflwyniadau a gweithgareddau yn cynnwys:

-Creu rhaff allan o ddeunydd naturiol

-Carthu am fwyd

-taflu Gwaywffon

-Sut i ddechrau tân

 

 

Iaith a Llenyddiaeth: Y Mabinogi

Addas at ddosbarthiadau CA3 a CA4 a grwpiau Oedolion sydd yn dysgu Cymraeg.

 

Hyd: O gwmpas 2 awr ond rydym fedru fod yn hyblyg i ffitio gydag amserlen yr ysgol.

Mae’r sesiwn yma yn cynnwys cyflwyniadau, gemau a gweithgareddau gan ein dehonglwyr mewn gwisg a fydd yn mynd a’ch disgyblion nol mewn amser i’r Oes Haearn/ Oes Dywyll yng Nghymru.

 

Cyflwyniadau a gweithgareddau yn cynnwys:

– Perfformiad o adrodd storiâu o’r Mabinogi a hen storiâu Cymraeg eraill gan ymddangos y traddodiad llafar.

– Cymraeg yn y tirlun- Edrych ar sut mae iaith yn cael ei defnyddio i ddisgrifio ac enwi’r tirlun o’n cwmpas gyda thrafodaeth am Gad Goddeu wrth wneud gweithgaredd adnabod coedwig.

– Trysorau’r Pennaeth (y grefft o ddweud storïau a gem brolio).

 

 

Adnoddau Ysgolion am Ddim

Gallwch lawrlwytho Ap Castell Henllys am ddim o’n wefan ymlaen i iPadiau yr ysgol.

Mae’r ap yn cynnwys casgliad o ffeithiau, gemau a chlipiau o fideo am yr Oes Haearn a’r safle.

Rydym hefyd yn casglu adnoddau Di-dâl i ysgolion sydd yn cynnwys taflenni ffeithiau, llyfryn sialens, taflenni gweithgareddau dosbarth a lluniau a fydd ar gael ar ein gwefan cyn hir.

Am fwy o wybodaeth am y profiadau yma cysylltwch â ni ar ymholiadau@castellhenllys.com neu ffoniwch ni ar 01239891319.