Amserau agor

 

 

Prisiau mynediad*

Oedolyn (17+): £6.50
Consesiwn (65+ neu neu fyfyrwyr gyda cherdyn myfyrwyr dilys): £5.50
Plentyn (4-16): £4.50
Teulu (dau oedolyn a dau o blant): £18.50
Tocyn Tymor/Preswylwyr ardal cod post Eglwyswrw a Meline/ Defnyddwyr Cadair Olwyn/Gofalwr: Am ddim.

*Sylwch y bydd prisiau’n amrywio ar gyfer gweithdai, Gwyliau Celtaidd a’r digwyddiad Rhufeinig.

Sut i archebu

Cynghorir archebu cyn i chi ymweld â Chastell Henllys. I gadw’ch tocynnau ewch i’n calendr digwyddiadau a dewis y dyddiad yr ydych am ymweld.

Byddwch yn talu wrth ichi gyrraedd, oni bai eich bod yn gymwys i gael mynediad am ddim. Rydych chi’n gymwys i gael mynediad am ddim os ydych chi:

    • deiliad Tocyn Blynyddol. Os oes gennych Docyn Blynyddol ar gyfer Castell Caeriw/Castell Henllys, dangoswch eich tocyn fel arfer ar ôl cyrraedd. Os hoffech brynu tocyn Blynyddol ffoniwch ni ar 01239 819391 cyn i chi archebu. Ar hyn o bryd rydym yn ymestyn y dyddiad dod i ben ar tocynnau tymor 2020 dri mis.
    • defnyddiwr cadair olwyn a/neu ofalwr cysylltiedig. Mae’n ofynnol i ofalwyr ddod ag un o’r eitemau dogfennaeth a ganlyn:
      • Llythyr Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
      • Llythyr Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
      • Llythyr yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
      • Bathodyn Glas (angen ID â llun arno)
      • Llythyr wedi’i lofnodi gan Feddyg Teulu (angen ID â llun arno)
      • Cerdyn Gofalwr/llythyr gan sefydliad Gofalwyr neu Gyngor Sir.

Gorchuddion wyneb

Er nad yw’n hanfodol i wisgo gorchudd wyneb mwyach yng Nghymru, mae croeso i chi wisgo un os rydych yn teimlo’n fwy diogel trwy’i wneud.

Hygyrchedd a’r Sgwter symudedd

Mae gennym ddau sgwter symudedd pob tir ar gael i’w fenthyg. Ffoniwch 01239 891319 er mwyn eu harchebu.

Gyfeillgar i Gŵn

Rydym yn croesawu cŵn hyd iddynt fod ar dennyn. Mae bagiau ar gyfer cwn ar gael yn y dderbynfa.