Bywyd Gwyllt Arfordir Penfro

Dewch i archwilio’r bywyd gwyllt bendigedig sydd wedi ymgartrefu yma ar Arfordir Penfro - heb anghofio’r amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt tymhorol sydd wrth ei fodd yn ymweld â Sir Benfro flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Mae adar prin fel y frân goesgoch, yr ehedydd a chrec penddu’r eithin wedi dewis y gweundir arfordirol fel eu cartref. Mae ystlumod a sawl math o aderyn yn hela ar hyd llinellau’r cloddiau clwm, sy’n gyfoeth o flodau gwyllt, ac mae’r morloi llwyd yn geni eu rhai bach ar ein glannau tra bod y dolffiniaid a’r llamhidyddion yn chwarae yn y tonnau.

Ac er bod y cymeriadau lleol hyn yn fwy na digon, rydyn ni hefyd yn ffodus iawn ein bod ni’n denu toreth o greaduriaid gwyllt a gwahanol sy’n dychwelyd at lannau Sir Benfro bob blwyddyn. Mae’r rhain yn cynnwys helforgwn, morfilod orca, morfilod glas, siarcod glas, pysgod yr haul, slefrenni amrywiol, crwbanod y môr a dolffiniaid Risso. Rydych chi’n hynod o lwcus os cewch chi gipolwg!

Ystlumod
Mae pob un o’r 16 rhywogaeth o ystlumod yn y Deyrnas Unedig yn dirywio ac mae pob un ohonyn nhw dan warchodaeth. Mae eu safleoedd nythu hefyd wedi eu gwarchod o dan y gyfraith. Ceir hyd i ddeuddeg o’r rhywogaethau hyn yn Sir Benfro. Ychydig a wyddys mewn gwirionedd am eu poblogaethau a’u dosbarthiad oherwydd mae’r broses o astudio eu hecoleg yn weddol newydd. Mae ystlumod yn bwysig i’r ecosystem am eu bod nhw’n bwyta pryfed, yn peillio blodau ac yn dosbarthu hadau. Maen nhw hefyd yn bwysig am eu bod nhw’n werthfawr i fioamrywiaeth cynefin.

Mae holl ystlumod Prydain yn bwydo ar bryfed y maen nhw’n eu dal wrth hedfan. Er mwyn magu eu rhai bach mae angen iddyn nhw ddal nifer fawr. Mae pryfed yn hedfan gyda’r wawr a gyda’r hwyr felly dyma pryd fyddwch chi fwyaf tebygol o weld ystlumod. Gellir clywed ystlumod gydag offer gwrando arbennig yn unig, ac mae’r offer hwn yn newid eu gwichiadau ‘atsainleoliad’ yn sain y gellir ei glywed.

Greater horseshoe bat Ystlum trwyn pedol © Melvin Grey.

Sut mae ystlumod yn cael eu gwarchod?
Mae’r corystlum (pipistrelle) cyffredin wedi ei warchod yn Sir Benfro ac mae ganddo’i gynllun gweithredu rhywogaeth ei hun i fonitro llwyddiant y warchodaeth hon. Dyma’r ystlum lleiaf yn y Deyrnas Unedig – mae ei gorff yn 4cm o hyd a rhychwant ei adenydd yn 20cm. Dyma’r rhywogaeth fwyaf tebygol i’w ddarganfod mewn ardaloedd sydd wedi eu hadeiladu oherwydd mae’r ystlumod yn gallu defnyddio’r holltiadau mewn adeiladau fel cytrefi i feithrin eu rhai bach. Yn y wlad maen nhw’n nythu mewn coed mawr. Mae’r gytref fridio fwyaf o Gorystlumod yn Sir Benfro yn cynnwys tua 1,000 o ystlumod.

Mae’n drosedd i anafu’r ystlumod a’u nythod mewn unrhyw ffordd ac mae’r warchodaeth gyfreithiol hon yn ymestyn ar draws Ewrop. Maen nhw wedi eu rhestru ar Atodlen III Cynhadledd Berne, Atodlen II Cyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau’r Gymuned Ewropeaidd ac Atodlen II Cynhadledd Bonn. Yn y Deyrnas Unedig maen nhw wedi eu rhestru ar atodlenni pump a chwech Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y diwygiwyd). Mae eu statws yn uchel yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth (CGB) y Deyrnas Unedig.

Pam mae Corystlumod yn dirywio?
Y prif reswm dros eu dirywiad yw ein bod yn colli’r cynefinoedd sy’n gyfoeth o bryfed o ganlyniad i gyflwyniad dulliau dwys o ffermio. Mae cael gwared ar gloddiau a choetir, draenio gwlypdiroedd a defnyddio symiau mawr o bryfleiddiaid cemegol wedi helpu gostwng y nifer o bryfed i’w hela a’u hamrywiaeth. Yn ôl ymchwil diweddar, ceir hyd i ystlumod yn fwy aml mewn cloddiau coetiroedd a dros ddŵr. Os yw’r ddau gynefin hyn yn newid mae’n gostwng y nifer o bryfed yn y cynefinoedd hyn. Fe fyddai adfer coetir, yn arbennig, o les i boblogaethau Corystlumod oherwydd eu bod yn defnyddio coed i nythu.

Mae Corystlumod yn nythu mewn coed trwy gydol y flwyddyn. Yn y Gaeaf, maen nhw’n cysgu mewn coed am fod y coed wedi’u hinswleiddio. Oherwydd ein bod ni wedi colli coed aeddfed gyda thyllau addas, mae wedi bod yn anodd i ystlumod oroesi’r Gaeaf. Defnyddir y coed aeddfed hyn hefyd fel safleoedd paru yn yr Hydref a’r Gwanwyn. Mae’r coed hefyd yn ffynonellau gwych ar gyfer pryfed oherwydd maen nhw’n llefydd gwerthfawr i ddatblygu wyau a larfa. Mae’n bwysig iawn, felly, ein bod ni’n cadw coed aeddfed mewn unrhyw goetir. Fe all blychau ystlum artiffisial hefyd helpu’r ystlumod i oroesi ac mae yna raglen a gefnogir gan Grŵp Gwarchod Ystlumod Sir Benfro i roi blychau mewn llawer o safleoedd yng nghoetiroedd y Parc.

Mae colli llwybrau hedfan cysgodol hefyd wedi arwain at ddirywiad yn y niferoedd. Defnyddir yr heolydd hyn rhwng nythod a thir bwydo. Fel arfer, maen nhw’n fanciau clawdd aeddfed, afonydd a nentydd gyda choed yn crogi drostynt. Mae’r cloddiau a’r dyfrffyrdd hyn hefyd yn eu helpu i wybod pa ffordd i fynd ac yn fannau bwydo ar y ffordd. Fe fydd unrhyw newid i’r coridorau hyn yn cael effaith negyddol ar yr ystlum. Fe fydd y nodweddion hyn yn cael eu rheoli’n fwy sympathetig yn y dyfodol, i gadw eu heffaith llesol ar allu’r ystlum i oroesi.

Yn olaf, rhaid cymryd pob gofal i sicrhau nad ydym yn tarfu ar nythod mamolaeth mewn adeiladau wrth wneud unrhyw atgyweiriadau to, gwaith i estyn adeilad neu drin pethau fel pryfed pren gyda chemegau. Os ydych yn gwybod bod ystlum yn nythu mewn adeilad yna dylech gael cyngor gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Casgliad
Mae ystlumod yn goroesi’n dda yn Sir Benfro ond mae angen mwy o ymchwil i ddarganfod ble mae’r 12 rhywogaeth yn byw a sut y gellir rheoli’r cynefinoedd y maen nhw’n byw ynddynt i’w helpu i oroesi.

Brain coesgoch
Mae’r frân goesgoch yn aderyn sydd â llawer o chwedlau’n gysylltiedig â hi ac mae’n cael ei chrybwyll mewn hanesion fel chwedl y Brenin Arthur. Y frân goesgoch yw aelod prinnaf teulu’r frân. Mae ganddi big a choesau coch nodweddiadol ac mae’n ehedwr acrobatig.

Gellir eu gweld a’u clywed amlaf yn hwyr yn yr haf ar y clogwyni sydd fwyaf agored i’r Gorllewin, yn hedfan fel grwpiau teuluol wrth i’r rhai bach ddysgu eu sgiliau hedfan. Mae ganddyn nhw alwad “shi-ow shi-ow” nodweddiadol ac yn aml gellir eu clywed cyn eu gweld.

Chough, Pyrrhocorax pyrrhocorax, two birds on ground,Yn yr haf, maen nhw’n bwyta pryfed ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn sy’n byw yn y gwair garw byr neu mewn tail anifeiliaid, fel chwilod, larfa clêr a morgrug. Yn y gaeaf fe fyddan nhw’n bwyta graen a adewir fel sofl neu’n chwilio am anifeiliaid di-asgwrn-cefn yn y traethellau ar hyd y traeth.

Maen nhw’n nythu mewn ogofau môr neu mewn holltiadau yn y graig – mannau nad oes mynediad hwylus iddynt. Mae eu nythod wedi eu gwneud o frigau, prennau, grug ac eithin ac wedi’u leinio gyda gwlân, gwallt, gwair mân a phlu. Caiff hyd at chwe wy eu dodwy ac maen nhw’n cymryd 18 diwrnod i ddeor. Yng Nghymru, y nifer cyfartalog o gywion bach yw tri ac fe fydd y rhieni’n gofalu amdanyn nhw am sawl wythnos.

Yn Sir Benfro, dim ond nifer gyfyngedig o barau bridio sydd i gweld ar hyd clogwyni Penrhyn Castellmartin, ac ynysoedd Dewi, Sgomer a Sgogwm.

Pam maen nhw mor brin?
Fwy na thebyg mai tri ateb sydd i esbonio’u dirywiad. Yn gyntaf, er gwaethaf y ffaith eu bod yn nythu mewn mannau ble nad oes mynediad hwylus o gwbl, mae casglwyr wyau yn dwyn eu hwyau. Erbyn hyn mae’n anghyfreithlon casglu wyau ond mae yna ddigon wedi cael eu dwyn i ostwng poblogaeth y frân goesgoch. Yn ail, mae dringwyr clogwyni yn gallu fod yn fwy o fygythiad oherwydd mae’n hawdd iddyn nhw i darfu ar aderyn sy’n deor. Rheswm tebygol arall dros y dirywiad yw newid yn y ffordd y defnyddir y tir. Pan yr oedd ffermio’n llai dwys, roedd anifeiliaid yn pori yn agosach at frig y clogwyni, ble y gallai’r Frân Goesgoch ddod o hyd i bryfed yn eu tail. Roedd y pori hyn hefyd yn cadw’r gwair ar yr uchder gorau ar gyfer yr anifeiliaid di-asgwrn-cefn y mae’r frân goesgoch hefyd yn eu bwyta. Erbyn hyn, nid yw pori ar gopa clogwyni’n mor gyffredin ac mae’r tir wedi’i orchuddio gyda chloddiau prysgiog fel eithin a’r ddraenen ddu.

Sut maen nhw’n cael eu gwarchod a’u rheoli?
Mae’r frân goesgoch yn Atodlen 1 Cyfarwyddeb y GEE EC/79/409- gwarchod adar gwyllt ac yn Atodlen 2 Cynhadledd Berne ar warchod bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol Ewrop. Yn y Deyrnas Unedig maen nhw wedi eu rhestru ar Atodlen 1 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ac yng nghategori 2 Adar o Bwysigrwydd i Gadwraeth yJNCC. Mae hyn yn golygu bod yr aderyn lleol hwn wedi ei warchod yn rhyngwladol.

I wella’r llwyddiant wrth fridio, mae angen i ni wella’r ffordd y mae’r tir yn cael ei rheoli. Dylai gwelliant mewn arferion rheoli tir gynyddu’r ardal fwydo botensial ac felly fe fydd y nifer o barau sy’n bridio yn gallu cynyddu. Gellir sicrhau bridio llwyddiannus hefyd trwy gyfyngu mynediad ar gyfer dringo mewn mannau bregus yn ystod y tymor bridio. Gallai darparu nythod artiffisial mewn lleoliadau addas hefyd alluogi mwy o barau i fridio. Yn olaf, mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth am ddirywiad yr adar a stopio erledigaeth gan ffermwyr a rheolwyr ystadau. Os yw’r grwpiau hyn yn deall sefyllfa’r frân goesgoch yna gellir eu hannog i helpu’r adar hyn i fridio ar eu tir.

Pathewod
Mae’r pathew yn un o’r mamaliaid mwyaf prin yn y Deyrnas Unedig. Yn wahanol i lygod eraill, mae ganddo gynffon tew a blewog ac mae rhan uchaf ei gorff yn oren/brown. Prin iawn y gwelir y pathew oherwydd anifail y nos ydyw ac mae’n symud o gwmpas yn y canghennau uwchben y ddaear. Mae ond yn dod i lawr i’r ddaear i gysgu dros y gaeaf. Mae’n bwyta blodau, paill, pryfed, ffrwythau a chnau, yn enwedig cnau cyll.
Mae’n gwneud nyth crwn, digon blêr o wair a rhisgl gwyddfid. Yn y nyth yma, fe all gynhyrchu hyd at saith pathew bach mewn dwy nythaid y tymor. Mae’n enwog am yr oriau y mae’n eu treulio’n cysgu – tua thri chwarter ei fywyd! Credir mai’r natur gysglyd hon sy’n ei helpu i fyw am pum mlynedd, sy’n amser hir yn nhermau oes bywyd mamaliaid bach.

Hazel or common dormouse (Muscardinus avellanarius) Mae’n drosedd trafod pathew neu ei nyth heb drwydded arbennig.​
Y cynefin delfrydol ar gyfer y pathew yw coetir agored, collddail neu gloddiau sydd wedi gordyfu. Maen nhw’n ffynnu orau mewn coetir wedi’i goedlannu o goed cyll gyda derw, onn, y ddraenen wen, y fedwen a’r ddraenen ddu. Mae angen isdyfiant sy’n cynnwys gwyddfid a mieri. Rhaid bod mwyar ar y mieri bob blwyddyn.

Rydyn ni’n gwybod bod pathewod yn byw yng nghoetiroedd Gogledd Sir Benfro ond maen nhw wedi eu dosbarthu hwnt ac yma ac nid ydym yn gwybod beth yw maint y boblogaeth. Rydyn ni yn gwybod bod 20 pathew yn gwneud poblogaeth hyfyw mewn unrhyw leoliad ar wahân ac os yw’r boblogaeth mor fawr â hyn mae yna bosibilrwydd y gall dyfu.

Pam mae’r pathew’n dirywio fel hyn?
Fel rhywogaeth, mae’n anodd iawn plesio’r pathew o ran rhywle i fyw, ond nid yw gweithredoedd pobl wedi helpu’r achos. Oherwydd y dirywiad mewn rheoli coetiroedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf mae’r canopi agored y maen nhw mor hoff ohono, wedi gordyfu a chollwyd yr arfer o gylchdroi coedlannau cyll. Hefyd, palwyd gwrychoedd i fyny ac fe’u rhannwyd ac ni chawsant eu rheoli’n iawn ac felly collwyd llawer o’r coed sy’n cynnal y pathew. Mae poblogaethau wedi gwahanu ac maen nhw’n llai na’r nifer sydd angen er mwyn iddynt fod yn hyfyw. Mae’r nifer o wiwerod llwyd wedi codi ac mae’r pathew’n cystadlu â nhw am fwyd.

Sut mae’r poblogaethau’n cael eu gwarchod?
Caiff pathewod eu gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ac mae ganddyn nhw statws uchel fel rhywogaeth sy’n flaenoriaeth yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth (CGB) y Deyrnas Unedig. Mae’n drosedd trafod yr anifail neu ei nyth heb drwydded arbennig. Maen nhw hefyd wedi eu gwarchod gan gyfraith Ewropeaidd ac wedi eu rhestru ar Atodlen 2 Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol) 1994.

Y brif ffordd o’u gwarchod fydd sicrhau bod rheolaeth coetiroedd a gwrychoedd yn y dyfodol yn addas ar gyfer pathewod, i roi digon o gynefinoedd potensial iddynt. Mae yna Rhaglen Blychod Nythu i Bathewod Genedlaethol, sy’n anelu at annog y boblogaeth i dyfu trwy ddarparu safleoedd nythu addas mewn cynefinoedd potensial.

Wrth fonitro’r coetiroedd ble maen nhw i’w gweld yn agos fe ddyliwn ni gael syniad o faint y poblogaethau a gwybodaeth am eu dosbarthiad, ac yna fe fyddwn ni’n gallu creu cynefinoedd potensial er mwyn i’r poblogaethau hyn dyfu. Rydyn ni’n gallu adnabod poblogaeth trwy chwilio am blisg cnau cyll arbennig; fe fydd y pathew’n agor cneuen yn ofalus trwy wneud twll crwn llyfn yn y gneuen yn lle ei dorri yn hanner fel y mae’r wiwer yn ei wneud. Gan nad yw’r pathew fel arfer yn symud ymhell o’i nyth, mae dod o hyd i gneuen fel hyn yn golygu nad yw’r nyth ymhell i ffwrdd.

Ehedyddion
Mae’r Ehedydd yn aderyn bach, brown sy’n nythu ar y llawr ac mae’n byw mewn glaswellt garw agored a geir ar ddolydd, rhostir, gweundir a ffermydd âr. Mae’n adnabyddus am ei chân fyrlymus y mae’n ei chanu wrth hedfan uwchben ei nyth. Y gân hon sy’n dweud wrth adar eraill ble mae ei nythod ac i gadw i ffwrdd. Mae’n bwydo ar hadau, planhigion chwyn âr, blodau a phryfed.

Yma yn Sir Benfro mae 4% o boblogaeth fridio’r Deyrnas Unedig. Yn 1988 roedd tua 8,000 pâr, ond mae’r nifer yma’n dirywio’n ddifrifol, ac felly mae’r rhywogaeth yn cael ei gwarchod gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y diwygiwyd) ac wedi’i rhestru yn Atodlen II Cyfarwyddeb Adar y Gymuned Ewropeaidd. Rhoddwyd statws ‘uchel’ i’w gwarchodaeth o dan Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid gwneud pob peth posib i warchod y rhywogaeth hon er mwyn atal y niferoedd rhag gostwng.

Skylark, Alauda arvensis Ehedydd

Pam fuodd dirywiad fel hyn?
Mae niferoedd yr ehedydd wedi syrthio oherwydd y ffordd yr ydyn ni’n ffermio. Ers diwedd y Rhyfel diwethaf ac ers y 1970au, mae ffermydd wedi newid y ffordd y maen nhw’n bwydo’u gwartheg ac yn pori eu defaid. Erbyn hyn, mae ffermwyr yn bwydo’u gwartheg ar silwair (gwair wedi’i dwymo) sy’n cael ei dorri yn hwyr yn y Gwanwyn ac efallai ddwywaith arall yn yr Haf. Caiff y glaswellt ei wella trwy wrteithio. Mae defaid hefyd yn cael eu rhoi ar borfa fer mewn niferoedd mawr i gynhyrchu cig oen cynnar ar gyfer yr archfarchnadoedd. Gyda’i gilydd, mae’r elfennau hyn yn golygu tarfu ar nythod yr ehedydd yn y Gwanwyn, a’u dinistrio, ac felly nid oes unrhyw nytheidiau’n cael eu magu’n llwyddiannus.

Mae gaeafau oer, difrifol iawn yn gallu lladd yr adar, ond mae’r rhain yn brin yn Sir Benfro.

Beth sy’n cael ei wneud i atal y dirywiad?
Mae’n eithaf hawdd atal y dirywiad; mynd yn ôl at dechnegau ffermio mwy cynaliadwy sy’n tueddu peidio ag ymyrryd â safleoedd y nythod. Nid yw technegau ffermio organig yn achosi’r problemau hyn. Rhoddir cymhelliant i ffermwyr Sir Benfro fynd yn ôl at ddulliau ffermio organig. Fe all y cymhelliant hwn fod yn ariannol, trwy hyfforddiant mewn technegau organig, neu trwy help corfforol i newid y tir yn ôl at fod yn organig. Mae parcmyn a wardeiniaid y Parc yn helpu gydag unrhyw waith corfforol ac yn gallu helpu gyda hyfforddiant.

Mae Maes Awyr Tyddewi yn un enghraifft ble mae’r ffermwr wedi cael help i ddychwelyd ardal sylweddol o dir yn ôl at fod yn ddôl wair organig. Caiff y gwair ei dorri unwaith ym mis Gorffennaf a’i bori gan wartheg yn y gaeaf. Nid oes unrhyw darfu ar y nythod ar y tir ac felly fe all yr ehedydd fagu dwy neu dair nythaid. Nid yw’r tir yn cael ei wrteithio ac felly mae mwy o rywogaethau o blanhigion sy’n blodeuo yn ffynnu ac nid yw’r gwair yn cystadlu yn eu herbyn, sy’n golygu bod mwy o fioamrywiaeth ar y ddôl a mwy o fwyd ar gyfer yr ehedydd.

A yw’r camau hyn wedi cael unrhyw effaith?
Wrth gwrs! Ym Maes Awyr Tyddewi, mae’r nifer o ardaloedd o nythod wedi codi tuag at 50% ers 1988. Yn 2004 roedd o leiaf 41 tir nythu, gydag uchafswm o 48 tir nythu. Dyma’r boblogaeth fridio ddwysaf yn y sir ac yn yr haf mae’r aer yn fwrlwm o gân yr ehedydd.

Fe ddangosodd gwaith monitro pellach yn 2006 fod y nifer o barau o ehedyddion sy’n bridio wedi codi o 30 yn 1988 i 65. Yn ychwanegol at hyn, gwelwyd cynnydd o ddeg pâr ers 2005, y cynnydd tymhorol gorau ers cyflwyno’r gwaith monitro.

Cacwn​
Mae poblogaethau gwenyn y Deyrnas Unedig wedi gweld dirywiad sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Nid yw’r achosion wrth wraidd hyn yn rhai syml, ac maen nhw’n cynnwys colli cynefinoedd, newidiadau amgylcheddol, clefydau a’r defnydd o blaladdwyr. Mae gwenyn yn beillwyr pwysig ar gyfer y rhan fwyaf o rywogaethau blodau gwyllt yn y wlad, ac ar gyfer cnydau amaethyddol. Os fyddan nhw’n diflannu, fe fydd planhigion yn bwrw llai o hadau ac fe allai’r effeithiau fod yn drychinebus i fywyd gwyllt ac i bobl.

Mae llawer o fudiadau’n gweithio i helpu rhywogaethau gwenyn sydd dan fygythiad. Yn eu plith mae ymddiriedolaeth o’r enw Plantlife and Bumblebee Conservation Trust sydd wedi lansio prosiect o’r enw Bee Scene. Mae hyn yn annog ysgolion a grwpiau o blant i gynnal arolygon safleoedd i weld beth yw eu potensial fel cynefinoedd ar gyfer gwenyn.

Bombus sylvarum, the shrill carder bee or knapweed carder bee, collecting nectar from flower ​Gardwenynen fain

Yn Sir Benfro, mae’r Ymddiriedolaeth Gwarchod Cacwn a grëwyd yn 2006 i atal neu wrthdroi dirywiad cacwn, yn gweithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chyfoeth Naturiol Cymru, ar brosiect i wella cynefin blodau gwyllt ar Faes Castellmartin. Mae’r prosiect am gefnogi a, gobeithio, ymestyn, y cynefin ar gyfer un o’r ychydig boblogaethau o gardwenyn main sydd ar ôl.

Mae’r gardwenynen fain yn un o’r cacwn prinnaf yn y Deyrnas Unedig. Dim ond chwe phoblogaeth sydd wedi goroesi, un ohonynt ar Faes y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghastellmartin. Mae’n hawdd adnabod y wenynen lwyd-werdd hon sydd ag un stribed ddu ar ei chorff, oherwydd cyflymder ei ehediad, sy’n cynhyrchu sŵn sïo uchel ei draw. Mae’r gardwenynen fain yn ffynnu orau ar laswelltir sy’n gyfoeth o berlysiau, fel yr hyn sydd i’w weld ar y maes milwrol. Fe gymerodd y fyddin awenau’r maes cyn yr Ail Ryfel Byd, ac felly mae wedi dianc rhag arferion amaethyddol dwys a modern. Rhagamcanir bod poblogaeth hyfyw o gardwenyn angen cynefin o 10 cilometr sgwâr.

Fe fydd y prosiect yng Nghastellmartin yn gwella’r cynefin presennol trwy blannu rhywogaethau brodorol o flodau gwyllt, ond hefyd trwy weithio i gysylltu darnau o gynefinoedd. Fe fydd y cynllun o fudd i rywogaethau gwenyn, ond hefyd y creaduriaid niferus sy’n byw yng nglaswelltir Maes Castellmartin.

​Gwlithenni’r môr
Gofynnwch i lawer o bobl beth yw noethdagellog ac ni fydd ganddyn nhw syniad. Ond, o amgylch dyfroedd Sir Benfro, mae noethdagellogion yn rhan brydferth o’r blodau a’r ffawna sy’n cael eu hesgeuluso’n aml. Mae eu llwyddiant yn Sir Benfro yn adlewyrchu ansawdd y moroedd oddi ar ein harfordir.

Enw mwy adnabyddus ar y noethdagellog yw’r wlithen fôr neu ysgyfarnog y môr. Mae 108 o rywogaethau wedi eu cofnodi yn nyfroedd y Deyrnas Unedig ac mae mwy na 70 wedi cael eu darganfod oddi ar arfordir Sir Benfro. Mae rhai yn hynod o fach, ychydig o filimetrau o hyd, tra bod eraill yn gallu bod sawl centimetr o hyd. Mae pob un yn â chuddliwiau hardd ac yn edrych fel gwymon môr neu anemonïau’r môr. Mae gwlithenni môr yn gigysyddion ac yn bwydo ar gwrelau ac anemonïau’r môr, tra bod ysgyfarnog y môr yn llysysydd ac yn bwyta algâu a gwymon.

Caiff y moroedd o amgylch gwarchodfa natur forol Ynys Sgomer eu monitro am eu poblogaethau noethdagellogion. Yn 2010 cofnodwyd 55 rhywogaeth o amgylch yr ynys, gan gynnwys sawl rhywogaeth sy’n brin yn genedlaethol, ac eraill na chawsant eu cofnodi o amgylch Sgomer cyn hyn. Deifwyr gwirfoddol sy’n gwneud y gwaith cofnodi.

Nid oes angen i chi fynd i Sgomer, na bod yn ddeifiwr profiadol, i weld y creaduriaid hynod o ddiddorol hyn. Mewn arolwg o Martin’s Haven, y safle lansio ar gyfer cychod i Sgomer, daethpwyd o hyd i 31 rhywogaeth mewn un penwythnos. Mae pyllau glan môr Sir Benfro’n gallu cuddio eu cyfrinachau’n dda. Daethpwyd o hyd i wlithenni môr gan blant ysgol a fu’n chwilio’r pyllau glan môr ym Maenorbŷr ac ym Mhorth Lliw.

Rhaid bod llwyddiant y creaduriaid bach hyn yn rhannol ddyledus i ansawdd y moroedd o amgylch arfordir Penfro. Er nad yw’r moroedd yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae Awdurdod y Parc yn gweithio’n agos gyda mudiadau gwahanol i helpu amddiffyn ein dyfroedd morol annwyl ar gyfer pob math o fywyd gwyllt.

Click the links below to learn more about some of our native species

Gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol